Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau MEURIG WALTERS, 'YStorm 'Gyntafgan Islwyn (Clasuron yr Academi. Caerdydd, 1980) MAE'R Parchedig Meurig Walters sydd erbyn hyn wedi ymddeol fel gweinidog yng ngofal eglwys gyda'r Presbyteriaid, yn adnabyddus i rai fel awdur nofelau. Cyfansoddodd dair nofel: Cymylau Amser (Dinbych, 1955) (nofel arobryn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr), Diogel y Daw (Wrecsam, 1956), a'r Tu ôl i'r Llenni (Llandybïe, 1967). Gobeithio y cawn nofelau eraill ganddo, oblegid er nad amcanodd ysgrifennu nofelau 'mawr', mae ganddo ddawn i adrodd stori a hiwmorgogleisiol. Ond enillodd Mr. Walters enw iddo ei hun hefyd fel ein pennaf awdurdod ar y bardd Islwyn. Ysgrifennodd draethawd M.A. ar 'Storm' Islwyn ac y mae wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu traethawd Ph.D. ar agweddau o'i waith. Ef hefyd a ddewiswyd i sgrifennu ar y bardd yn y gyfres Writers of Wales. Yn wir, yr oeddwn wedi gobeithio y byddai'r llyfryn hwnnw wedi ymddangos cyn i mi fynd ati i adolygu ei olygiad o 'Y Storm' Gyntaf Islwyn, y gyfrol gyntaf yng nghyfres Clasuron yr Academi. Y mae'n fwriad gan yr Academi gyhoeddi clasuron y Gymraeg o bob cyfnod gan eu diweddaru'n drylwyr o ran orgraff ond heb ymyrryd â nodweddion eraill megis mydr a chyseinedd neu olion tafodiaith. Mae'r cynllun hwn yn un uchelgeisiol iawn a mawr obeithiwn na fydd yn methu oherwydd diffyg cefnogaeth darllenwyr llengar y Gymraeg heb sôn am anawsterau eraill. Nid gormod yw dweud fod y golygiad hwn o'r 'Storm' Gyntaf yn sicr o chwyldroi ein syniadau am ei hawdur fel bardd. Mae'r gerdd ei hun yn llenwi 158 o dudalennau ac y mae dros chwe mil a hanner o linellau, ond heblaw'r gerdd ceir Rhagymadrodd byr (tt. viii-x) ac 'ôl-ymadrodd' hwy (tt. 159-65), rhestr o 'Gyfnewidiadau Golygyddol' (tt. 166-67), 'Nodiadau' (tt. 168-70), a 'Geirfa' (tt. 171-74),-y cwbl yn ffrwyth llafur enfawr y byddai'n anodd ei orbrisio. Mae'r hanes sut y daethpwyd ar draws y copi o'r 'Storm' Gyntaf gan Mr. Daniel Davies,Ton Pentre, a sut y sylweddolwyd ei arwyddocâd am y tro cyntaf gan Gwenallt, wedi ei adrodd o'r blaen. Ceir crynodeb hwylus gan Mr. Walters ei hun yn ei gyfraniad ar Islwyn yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwyr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a'u Cefndir (Llandybïe, 1968), 214-223, lle'r oedd eisoes yn gallu tynnu ar ei draethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1961, 'Astudiaeth destunol a beirniadol o "Storm" Islwyn'. Ond rhaid brysio i ddweud mai yn ôl-ymadrodd y gyfrol hon y caiff y darllenydd cyffredin ei gyflwyno am y tro cyntaf i holl gyfrinachau'r berthynas rhwng Sl (= Y 'Storm' Gyntaf), S2 (= Yr Ail 'Storm'). a SGl (= Yr Ail 'Storm') fel y cyhoeddwyd hi gan O. M. Edwards yn Gwaith Barddonol Islwyn (1897). Ceir copi Islwyn o Sl yn Llsgr. NLW 5854 a sgrifennwyd yn y cyfnod 1854-56, ei gopi o S2 yn Llsgr. 5860-1: fe'i copïodd yn 1856 ac y mae'n cynnwys 272 Vi 0 linellau wedi eu codi o S1. 'Roedd O. M. Edwards yn edmygydd mawr o waith Islwyn, yn gymaint edmygydd fel y penderfynodd gyhoeddi'r cwbl ohono. Tybiodd ei fod yn gwneud hynny wrth gyhoeddi Gwaith Barddonol Islwyn (1897), a chwarae teg iddo, aeth am ddefnyddiau'r gyfrol at lawysgrifau'r bardd ei hun: 'cydmarwyd y gwahanol lawysgrifau a'u gilydd ac â rhannau oedd wedi eu cyhoeddi, a'm hymgais oedd rhoi pob llinell ysgrifennodd i mewn.' Rhaid fod peth siom felly yn gymysg â'i lawenydd pan ddarganfuwyd llawysgrif o waith Islwyn nad oedd ef wedi ei gweld o'r blaen, sef y Llsgr. NLW 5854 y cyfeiriwyd ati uchod. Sut bynnag, aeth ati i gyhoeddi cymaint ag a fedrai o gynnwys y llsgr o fewn cyfyngiadau Cyfres y Fil, sef rhyw ychydig dros gant o dudalennau, yn Gwaith Islwyn (1903). Diddorol yw sylwi fod O.M. yn dweud am gynnwys y llsgr.: 'Pe cawsai Islwyn fyw, rhoddasai ei holl brydyddiaeth yn un cyfanwaith, gan ei alw "Yr Ystorm" neu "Y Dymestl" Yn anffodus, fel y cyfaddefodd O.M. ei hun am Gwaith Islwyn yn ei erthygl ar 'Islwyn a'i Feirniaid', erthygl a gyhoeddodd yn ErMwyn Cymru, 'Er edifeirwch dwys iddo, trodd y golygydd yn rhyw fath o esboniwr,-gwnaeth y darnau'n ddigyswllt, a rhoddodd benawdau iddynt, er nad oedd y rhain ond geiriau Islwyn ei hun.' Wrth gyhoeddi testun 'Y Storm' Gyntaf, y mae Mr. Walters yn unioni'r cam a wnaeth O.M. â chynnwys Llsgr. NLW 5854, ond y mae'n gwneud mwy na hynny, oblegid y mae'n cyhoeddi'r llinellau niferus iawn nas cyhoeddwyd gan O.M., ac fel y pwysleisir ganddo, y mae 2948o linellau nas cyhoeddwyd yn unman hyd yn awr. Fe allai'r darllenydd dybio oddi wrth yr hyn a ddywedwyd, ei fod wedi cael yr Ail 'Storm' gan O.M. yn Gwaith Barddonol Islwyn heb ddim o'r