Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMYR ROBERTS, yF/>ẅ/flro<Ww>Y/(GwasgEfengylaiddCymru, 1980) ER mor gyfarwydd i bawb yw'r gair "ffydd", nid yw'r term "Y ffydd" mor gyffredin y dyddiau hyn. Y mae ei ystyr i lawer yn lled niwlog, ac i eraill nid yw'n cyfleu dim. Ond nid oes angen darllen ymhell iawn trwy dudalennau Y Ffydd a Roddwyd cyn sylweddoli ei fod yn ymwneud â'r hyn sydd i'r awdur yn bwysicach na dim arall yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw. Ac yn bwysicach nid yn unig i bobl sy'n ymddiddori mewn pethau crefyddol ond i bawb yn ddieithriad sy'n perthyn i hil syrthiedig Adda. Cyhoeddwyd y "llyfr bychan hwn" (fel y'i gelwir gan yr awdur) dros ugain mlynedd yn ôl. Ond yngymharolddiweddar daeth ail argraffiad ohono o'r wasg; ac y mae'n amlwg nad yw'r awdur o'r farn fod angen y ffydd a roddwyd bron ugain canrif yn ôl wedi lleihau dim oddi ar hynny. Ac er bod cyfnewidiadau o bob math yn digwydd hyd yn oed mewn ugain mlynedd ledled y ddaear y dyddiau hyn, nid oes dim yn fwy perthnasol i fywyd yr unigolyn, a hefyd i'r holl fyd, heddiw, na neges y ffydd a roddwyd. Yn wir, barn yr awdur yw ein bod fel eglwysi wedi gwaethygu yn ein gweledigaeth ysbrydol yn ddiweddar. Heddiw yr ym yn barotach, meddai, i wneud datganiadau ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol nag ar bynciau'r ffydd. Mae'n well gennym ddweud y drefn wrth y byd o'n cwmpas, nag egluro "trefn yr iachawdwriaeth yng Nghrist". Dengys pa mor llac y mae'r eglwys wedi mynd ynghylch gwirioneddau'r ffydd, a chawn y cyhuddiad 'nad yw'n gwbl anghywir i ddweud bod aelodau eglwysi Cymru yn cael credu fel y mynnont.' Ond a bod yn deg â'r awdur, nid gwir fyddai dweud mai'r nodyn beirniadol sydd amlycaf trwy'r llyfr. Gyda Uawenydd y mae'n galw sylw at y ffaith fod tystiolaeth newydd ar gynnydd a chylchoedd o bobl ifainc (a hefyd rai hyn) "i'w cael hwnt ac yma wedi eu goleuo a'u bywhau ac yn ymdrechu i dystio bod yr Iesu eto'n fyw." Amcan deublyg y llyfr, felly, yw ceisio cynorthwyo tystion fel hyn a bod o ryw help "i rai sy'n chwilio am graig i ddringo arni o gors ein hoes wag a therfysglyd." Er mwyn cyrraedd yr amcanion hyn, ceir trafodaeth o'r pynciau a ganlyn: y Beibl; Duw; Beth yw Dyn?; Beth sydd o'i Le?; Y Person Rhyfedd Hwn; Trefn i Faddau Pechod. Gyda golwg ar y Beibl, cawn yma bwyslais ar angenrheidrwydd esbonio darnau arbennig ohono yng ngolau dysgeidiaeth yr ysgrythurau yn gyffredinol. Anogir ni hefyd i geisio cydbwysedd yn y lle a roddwn i'r gwahanol wirioneddau a geir yn y Gair. Yn ddiamau bydd rhai myfyrwyr yn yr ysgrythurau am rybuddio'r awdur rhag disgwyl gormod wrth yr egwyddor o esbonio'r darnau dyrys yng ngoleuni'r darnau eraill ar sail y gred fod y Beibl wedi ei lunio mewn ffordd sy'n sicrhau unoliaeth lwyr i'r holl ddarlun ond i ni addasu'r darnau i'w gilydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad yw' r egwyddor o geisio deall y darnau anodd yng ngolau rhai eraill o unrhyw fudd o gwbl, er gwaethaf y gwirionedd fod "yma ryw ddirgelion rhy ddyrys ynt i ddyn." Gyda golwg ar y pwysigrwydd o arfer cydbwysedd, credwn fod hyn yn haeddu ei danlinellu. Nid yn anfynych y syrthiwn yn ddiarwybod i'r demtasiwn o'n hamddifadu ein hunain o ryw wirioneddau pwysig trwy ganolbwyntio yn ormodol ar y rhai sy'n apelio fwyaf atom ni. Er enghraifft, y mae'n hawdd pregethu yn unig ar weithredoedd da a darostwng pwysigrwydd achubiaeth i statws 'optional extra'. Ar y llaw arall, ceir rhai sydd wedi eu bachu gymaint gan yr 'ail ddyfodiad' nes iddynt bron alltudio'r dyfodiad cyntaf i'r cilfachau. Ond yn y Testament Newydd ei hun y mae'r Ail Ddyfodiad nid yn unig yn rhywbeth i edrych ymlaen ato ond yn ysbrydiaeth i gredinwyr i weithio yn awr er mwyn lledaenu 'r Deyrnas yn y byd hwn. Ar ôl trafod cwestiwn awdurdod y Beibl a sut y mae dyn i wybod mai'r Beibl yw'r datguddiad dilys o ewyllys Duw pwysleisir y gwirionedd mai Iesu Grist yw'r doethineb y mae'r Beibl yn ein harwain ni ato: Crist "yw cysegr sancteiddiolaf y Beibl". A phan gawn ef "yn waredwr personol fe â'r Beibl yn llyfr newydd inni, yn oleuni ac yn fywyd." Y mae'n amlwg mai siarad o brofiad y mae'r awdur yn y geiriau hyn. Yn wir, sylwn ei fod trwy'r llyfr i gyd yn ceisio dangos sut y mae'r pynciau a drafodir yn ymwneud â'n bywyd ni yn yr ystyr bwysicaf oll. Yr un modd, yn y bennod ar Dduw rhoddir pwyslais ar gymdeithas real â Duw ac ar y wybodaeth sut un ydyw Duw, yn hytrach nag ar brofi yn y pen ei fodolaeth. Ceir hefyd trwy'r llyfr eglurebau syml ac agos, yn hytrach na dadleuon cymhleth. Felly, i egluro pam nad yw'r Beibl yn portreadu cariad Duw fel rhywbeth sy'n cymrodeddu ei sancteiddrwydd, dywed: "Ni ddisgwyliwch i wr sydd yn caru ei wraig fod yn ddihitio iddi odinebu". Nid oes yma le i ffug deimladau am gariad Duw. Nid yw ei gariad yn cynhyrchu llacrwydd tuag at bechod, ac nid ar faint ein cariad ni 'rym yn dibynnu am faddeuant ganddo. Sail ein gobaith ni yw'r hwn a lwyr gyflawnodd ewyllys y Tad ac a ddaeth yn Babell y Cyfarfod rhyngom a Duw.