Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y gwaith hwn gwelwn fwy na meistr wrth ei grefft. Y mae yma un sydd wedi ei feddiannu gan argyhoeddiad ac angerdd yn y dyfnder-er "annog", yng ngeiriau yr Apostol Judas gynt, "i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint." Ni all unrhyw waith gan ddyn warantu dyfodiad yr Ysbryd, ond fe all fod yn gyfrwng i agor y ffenestri yn barod i'r nerthol wynt ddod i mewn pan chwytho nesaf. RHEINALLT NANTLAIS WILLIAMS HARRI WILLIAMS, Deunydd Dwbl. (Gwasg Gomer 1982). Tt. 202. £ 2.95. AR ôl darllen y nofel fywgraffyddol hon, darllenais eto yr hyn a ddywedwyd amdani gan feirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Maldwyn y llynedd (1981). Fel y cofir, cytunai'r ddau feirniad mai hwn oedd y gwaith gorau; 'mwyaf aeddfed cywiraf' ebe Selyf Roberts, '(y) gyfrol orau yn y gystadleuaeth' ebe Beti Hughes, y beirniad arall. Ond barnai'r ddau nad nofel yw'r gwaith ond cronicl (yn ôl B.H.) ac mai 'arddull y bywgraffiad sydd yma' (yn ôl S.R.). Argymhellir cyhoeddi'r gwaith, ar yr un pryd, 'gan y byddai'n ychwanegiad gwerthfawr i'n llenyddiaeth ac yn addysg i lawer o Gymry na wyddant odid ddim am wr y dywedwyd amdano mai ef oedd nofelydd mwyaf y byd' (ebe S.R.); dau reswm nad ydynt bob maser yn perthyn i'r un drefn ar bethau. Ataliwyd y wobr am fod Deunydd Dwbl, hyd y gellir casglu, felly, yn cwympo rhwng dwy stôl; nid yw'n nofel nac ychwaith yn fywgraffiad: chwedl Sant Pôl mewn cyswllt arall, 'na barbariad na Scythiad, caeth na rhydd'. Ond tybed nad pethau o saernïaeth y beirniaid eu hunain yw'r ddwy stôl? Fe wyddom y gellir sgrifennu nofel ar batrwm bywgraffiad sydd mor debyg i fywgraffiad go-iawn nes twyllo un darllenydd o leiaf i gredu mai hanes a ddarllenai, nid fficsiwn. Ac un o'r ddau feirniad a nodwyd oedd yr awdur! Mae hi hefyd yr un mor rhwydd sgrifennu bywgraffiad ar batrwm nofel. Yn awr, bwriwn fod rhyw John neu Jane Jones yn rhywle yn darllen Deunydd Dwbl a heb erioed glywed gair o sôn am ddyn o'r enw Ffeodor Dostoefsci (sef enw cymeriad canolog y gwaith). Ni fyddai darllenydd felly yn gwybod nac yn poeni a yw Harri Williams wedi 'gwneud defnydd digonol o'r ymateb emosiynol hwn' (sef ymateb Dostoefsci i'w epilepsi), neu wedi rhoi 'portread digonol o wylltineb D. ar wahanol adegau yn ei fywyd' neu ei 'frys gwyllt, hyd at banic ar brydiau, i ddal deadline': nid am fanylderau ffeithiol fel hyn y byddai'n meddwl o gwbl (ni allai, heb wybod amdanynt ymlaen Ilaw) ond yn hytrach faint o fwynhad, faint o fodlonrwydd ac o agoriad llygad â gâio'rsíori.yngynnwysacarddull.felagycyflwynirhiganyrawdur. Mi ddaliaf i mai fel hyn y gwelai Harri Williams ei waith. 'Rwyf i a llawer un arall wedi darllen peth o hanes Dostoefsci a rhai o'i nofelau, digon i weld fod cofianwyr (Carr, Troyat, ac eraill) hyd yn oed yn hepgor a dethol y deunydd am ryw resymau neu'i gilydd. (O ran hynny, mae llawer heddiw yn cael mwy o fwynhad esthetig allan o gofiannau nag o nofelau). Yn wir, synnwn i ddim nad anffawd i bwrpas beirniadu'r nofel-gofiant yma yw bod wedi darllen a gwybod tipyn o hanes ffeithiol Dostoefsci: nid fel ysgolheigion hyffordd y dylai neb edrych arni. Y cwestiwn pwysig yw, a yw Deunydd Dwbl fel ag y mae yn undod, yn cylymu'n un ysgub ddestlus ac yn rhoi cip inni ar gymeriad cwbl anghyffredin. Mewn gair, (a heb boeni i holi a/w y fath ddyn yn bod â Dostoefsci ai peidio) a yw'n argyhoeddi fel creadigaeth? Wel, 'rwy'n credu ei bcd. I fedru sgrifennu gwaith fel hyn o gwbl mae'n rhaid fod Harri Williams wedi byw yn ei ddychymyg gyda D. am hir amser ac, i bwrpas nofelydd, nid yw hi ronyn o bwys ai creadigaeth ai ffaith hanesyddol yw'r D. hwnnw ai peidio. Ar sawl tudalen mae'n llwyddo i atgreu inni waeau ac angerddau'r nofelydd mawr a llwyddo i roi mwy nag un darlun clir ohono yn y cnawd: hwn er engh: Ue mae D. yn darllen rhan o'i waith gerbron deallusion Sant Peterbwrg: Mor ddistaw y gwrandawiad! Gellid clywed deilen yn disgyn ar eira. Y llais yn dawel a chryglyd, ond er hynny yn cyrraedd pob cornel o'r neuadd; a phob llygad wedi ei hoelio ar y dyn eiddil ac afiach yr olwg ar y llwyfan. Y tristwch yn y llais, a'r cydymdeimlad, y didwylledd a'r difrifwch yn wyneb y darllenwr deugain oed. (t. 89) Cymeriad anodd iawn i nofelydd neu fywgraffydd yw Dostoefsci ac yn arbennig i'w gyflwyno i gynulleidfa o Gymry sydd-i gryn raddau o hyd yn methu â derbyn (neu o leiaf, gyfaddef) fod pechadur a sant yn agos iawn i'w gilydd ac mai dim ond y sawl a adnabu'r ddau begwn yn llwyr, — 'a yfodd y cwpan i'r gwaelod' chwedl Huw Derfel, a allai fod wedi creu cymeriadau fel Shatof, Cirilof,