Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stafrogin, Aliosha, Ivan, Dmitri, Stepan Troffimofitsh, y Tad Zosima a'r holl oriel o rai tebyg. Dichon y gall y ddwy genhadaeth ddwaetha o Gymry amgyffred natur y rhychwant sydd rhwng dyheadau corff ac enaid yn well na'r rhai yn union o'u blaen ac, oherwydd hynny, y gwerthfawrogir camp Harri Williams yn well heddiw nag y gwneid hanner canrif yn ôl. Un o ragoriaethau'r gwaith yw'r trosiadau i'r Gymraeg allan 0 lythyrau a nofelau D: ei hun (prun ai o Rwseg yn uniogyrchol neu fel arall, nid yw-yn llenyddol felly-o ddim pwys). Hwn, er engh: lIe mae'r Tad Zosima yn siarad: Frodyr, peidiwch ag ofni pechod dynion. Cerwch ddyn hyd yn oed yn ei bechod, oherwydd dyna'r math o gariad sydd yn Nuw, a dyna'r math uchaf o gariad ar y ddaear. Cerwch y cwbl o greadigaeth Duw, y cread cyfan a phob tywodyn ynddo. Cerwch bob deilen. pob pelydryn o oleuni Duw. Cerwch yr anifeiliaid, cerwch y planhigyn, cerwch bopeth. Os cerwch bopeth, fe welwch y dirgelwch dwyfol sydd ym mhob peth (t. 192) Harri Williams, hefyd, sydd yn llefaru'r iaith yna ac am hynny mae'r cyfan-a llawer trosiad arall tebyg drwy'r gwaith-yn peidio â bod yn drosiad neu gyfieithiad ac yn sefyll yn ei hawl Cymraeg ei hun a hynny, fel yn y darn a ddyfynnais, yn gofiadwy angerddol, mor angerddol a theilwng o rai o baragraffau cyffesol mawr Daniel Owen ei hun yn Rhys Lewis â dim a sgrifennwyd gan awdur o Gymro. Yn wir, mi greda' i mai Daniel Owen fyddai'r cyntaf i fwynhau y nofel arbennig hon am nofelydd arall a fu'n cyfoesi ag ef am yn agos i hanner canrif. Tybed a wyddai amdano? Nid y byddai hynnyobwys. Pryn bynnag, rhaid diolch i Harri Williams am roi inni waith rhyddiaith gorau 1981 heb unrhyw amheuaeth ac un, mi gredaf, y buasai Daniel Owen, petai'n feirniad ar ei Wobr Goffa ei hun, yn ei dyfarnu iddo. D. TECWYN LLOYD ENID ROBERTS (gol.), Gwaith Siôn Tudur (Gwasg Prifysgol Cymru. Caerdydd, 1980). Cyfrol I, tt. 1018; cyfrol II, tt. lx, 818. Pris 114.95 yrun. NID anfonwyd copïau adolygu o'r ddwy gyfrol hardd hyn, a phrin y disgwylid i'r Wasg anfon y cyfryw ac ystyried eu pris. Er hynny, mae'n ddyletswydd arnom dynnu sylw atynt gan eu bod mor bwysig. Mae eu golygydd, y Dr. Enid Roberts, wedi hen ennill ei phlwyf fel un o'n pennaf awdurdodau ar gywyddwyr yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ystod y blynyddoedd ysgrifennodd lu o erthyglau arnynt. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Nhrafodion Hanes SirDdinbych ac y mae hi'n diolch yn arbennig i'r diweddar Frank Price Jones am ei swcro i'w cyhoeddi yno. Ond yr oedd ei chydnabod yn gwybod mai parerga, neu a defnyddio ymadrodd mwy cartrefol Syr Ifor Williams, sglodion oedd y rheini yn tasgu o'i phrif waith, ei golygiad o farddoniaeth Siôn Tudur. Eglura ei bod wedi dechrau ar y gwaith yn fuan ar ôl i Syr Thomas Parry gael ei benodi yn Athro'r Gymraeg ym Mangor. Ef a'm rhoes ar ben y ffordd, ac a fu'n cyfarwyddo'r gwaith, ym Mangor ac yn ddiweddarach o'r Llyfrgell Genedlaethol. Erbyn hynny yr oedd y rhan fwyaf o'r testun wedi ei drefnu, a rhyw lun o nodiadau wedi eu llunio. Yn y cyfamser, yr oeddwn i wedi cael blas ar fywyd y cyfnod, yr uchelwyr a'u tir a'u tai a'u bwyd a'u helbulon, a chafodd Siôn Tudur lonydd, dros dro. Wedi dilyn llawer trywydd, dychwelyd at y cerddi, a gweld llawer mwy ynddynt, ac euthum ati i ail wneud y nodiadau i gyd o'u cwr. A chyda Dr. Parry yn ð1 ym Mangor cefais help llaw i gau pen y mwdwl. Y mae arnaf ddyled fawr iddo, ac iddo ef y mae fy niolch pennaf. Bu Siôn Tudur yn hynod gynhyrchiol fel bardd. Mae ei waith, yn awdlau, cywyddau, englynion, a chanu rhydd, yn 331 o eitemau yng ngolygiad Dr. Roberts, a chyda'r amrywiadau testunol yn llenwi'r gyfrol gyntaf sydd dros fil o dudalennau. Yn yr ail gyfrol y ceir y Rhagymadrodd, Nodiadau, Geirfa a'r mynegeion: Enwau Lleoedd, Enwau Personau, Llinellau cyntaf i Awdlau, Cywyddau a Chanu Rhydd, ac i Englynion, y cwbl yn cymryd dros wyth gant a hanner o dudalennau. Fel yr awgrymais, yr oedd Siôn Tudur yn un o feirdd mwyaf cynhyrchiol ei gyfnod ac wrth astudio ei waith daeth Dr. Roberts yn gyfarwydd nid yn unig a'r beirdd a oedd yn cydoesi ag ef ond hefyd â'i noddwyr lluosog: canodd fawl a marwnad a gofyn i dros drigain o deuluoedd Gogledd