Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymru, a chan iddo fyw'n hen canodd i dair a phedair cenhedlaeth o rai o'r teuluoedd hynny. Y mae gwaith Dr. Roberts yn olrhain achau'r noddwyr hyn heb sôn am ddim arall yn ddirfawr, a hawdd y gall y darllenydd weld mor werthfawr y bydd y golygiad hwn nid yn unig i ysgolheigion ein llen eithr hefyd i ysgolheigion ein hanes fel Cymry. Buasai cyhoeddi dwy gyfrol o'r maint hwn yn ddrud iawn pe defnyddiesid y proses arferol ond gwnaed yr argraffiad hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol trwy broses ffotograffig ar sail copi wedi ei deipio gan y golygydd, ac o ganlyniad mae'r pris yn rhyfeddol o rad ac ystyried prisiau'r farchnad heddiw, a gellir bod yn sicr y bydd y sawl sydd yn ymddiddori yn ein llên neu ein hanes, yn achub y cyfle i'w prynu ar unwaith, oblegid buan iawn yr â'r pris yn uwch o lawer. J. E. CAERWYN WILLIAMS RITA WILLIAMS, GWYN GRIFFITHS (Cyf.) Dramâu o'r Llydaweg. Tangi Malmanche. (Christopher Davies, 1982) 280 tt. £ 2.95. DEWI MORRIS JONES, MIKAEL MADEG, Du a Gwyn Gwenn ha Du (Y Lolfa, 1982) 128 tt. £ 2.95 ER gwaetha'r cwlwm iaith a gwaed sy'n bodoli rhwng Cymru a Llydaw, prin fu'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ers canrifoedd. Ond yn ddiweddar amlhaodd y cysylltiadau, er budd i'r naill wlad a'r llall. Bu llawer o Gymry yn ymweld â Llydaw ac yn ymroi i ddysgu ei hiaith, a Llydawyr yn croesi i Gymru i gyflawni'r un gamp. Gwelsom gyhoeddi y llynedd gyfrol ardderchog i ddysgu Llydaweg, sef, Cyflwyno 'r Llydaweg, addasiad Mrs. Rita Williams o Brezhoneg Buan hag Aes gan Per Denez, llyfr a fydd yn hwyluso'r ffordd i lawer un i ddysgu'r iaith. Ond trwy lenyddiaeth cenedl y ceir golwg ar ei henaid hi, ac y deuir i ymwybod â'i theithi, a hyd yn hyn tenau iawn fu'r arlwy yn Gymraeg, ar wahân i'r gyfrol werthfawr Storìau o'r Llydaweg, ac, yn gynharach, gyfieithiad Yr Athro Caerwyn Williams o nofel ddireidus Jakez Riou, An Ti Satanazet. Pleser o'r mwyaf, felly, oedd gweld cyhoeddi yn ystod yr haf ddwy gyfrol o gyfieithiadau o'r Llydaweg, cyfrolau swmpus a llawn amrywiaeth sydd yn eu gwahanol ffyrdd yn cynnig i ni gipolwg ar fywyd a chalon ein chwaer-wlad. Du a Gwyn Gwenn ha Du: Cerddi Cyfoes o Lydaw (Gol: Dewi Morris Jones, Mikael Madeg. Y Lolfa.) Mae'r gyfrol hon yn gasgliad o gerddi Llydaweg cyfoes ynghyd â chyfieithiadau Cymraeg. Credaf ei bod yn syniad ardderchog cynnwys y cerddi gwreiddiol gan y bydd llawer un fydd yn prynu'r gyfrol yng Nghymru yn ddiau yn meddu ar rywfaint o Lydaweg ac yn mwynhau cymharu' ddau fersiwn ac amgyffred rhyw gymaint o swn a rhythm y gwreiddiol. Yn y gyfrol ceir 51 o gerddi gan 30 o wahanol awduron, o bob cefndir ac oed, o'r to hyn megis y diweddar Roparz Hemon ac Anjela Duval, Per-Jakez Helias a Naig Rosmor, i rai ifainc fel Joran ar Grug a Gwendal Denez. Mae'n syndod yn y dwthwn hwn yn Llydaw fod modd hel at ei gilydd gynifer o gerddi teilwng gan gynifer o wahanol feirdd. Ffaith ryfeddol arall ydy bod llawer o'r beirdd wedi dysgu'r Llydaweg fel ail iaith ac wedi dewis byw, a barddoni, yn yr iaith honno, gan frwydro yn erbyn diffyg dealltwriaeth a chydymdeimlad y byd o'u cwmpas. Mae bodolaeth y gyfrol hon, ac yn wir bodolaeth llenyddiaeth Lydaweg o unrhyw fath yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif, yn dipyn o ryfeddod. Fel yr awgryma'r teitl, sy'n cyfeirio at faner genedlaethol Llydaw, mae cyfran helaeth o'r cerddi yn sôn am argyfwng Llydaw. Nid canlyniad i ddethol gofalus gan yr awduron mo hyn: yn hytrach, dyma fwrdwn y canu cyfoes. Dywed Mikael Madeg, yn ei ragymadrodd, yn gywir iawn, fod ysgrifennu yn Llydaweg yn rhyddhau rhywun rhag yr orfodaeth i seinio'r un diwn gron am Lydaw, ond ni fedr y beirdd hyn ddianc rhagddi. Mae'n bosibl, hyd yn oed yn y Gymru sydd ohoni, i fardd ganu am bethau eraill heblaw tranc yr iaith a gormes cenedl. Yn Llydaw mae hyn yn llawer anos. Yn wahanol i'r bardd Cymraeg, nid yw'r bardd yn Llydaw wedi'i swcro a'i amddiffyn gan barch cymdeithas, a chan sefydliadau megis yr Eisteddfod. Mae hyd yn oed y weithred o siarad Llydaweg yn ei osod ar wahân i'w gyd-ddynion.