Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r gyfrol gyfan yn werthfawr, er gwaetha'r diffygion posibl yn y rhagymadrodd, a bydd yn bleser i ddarllenwyr yng Nghymru. Ond tybed a ddaw mwy na hynny? A wêl un o ddramau Malmanche olau dydd ar lwyfannau Cymry rywbryd? Her Gwyn Griffiths ar diwedd ei ragymadrodd oedd "buasai'n braf atgyfodi dramâu Malmanche unwaith eto, hyd yn oed mewn iaith a bro arall." Gobeithio'n wir. SYLVIA PRYS JONES HARRISON, G. ac eraill: Bilingual mothers in Wales and the language of their children. (Cardiff, University of Wales Press, 1981.) tt. XI, 1-87 (Board ofCeltic Studies Social Science Monographs, No. 6.) CAIFF plentyn bach ei fagu i siarad "iaith ei fam", ac y mae unrhyw astudiaeth gyfrifol o'r dylanwad mamol ar ddatblygiad ieithyddol ac agweddiadol y plentyn i'w chroesawu'n frwd. Astudiaeth gyfyngedig yw hon a geisiodd ateb un cwestiwn yn bennaf, sef "Pam y mae rhai mamau dwyieithog yng Nghymru yn codi plant yn uniaith?" Gwneir hyn drwy ddadansoddi atebion sampl o famau o wahanol rannau o Gymru i holiadur a gyflwynwyd iddynt gan weithwyr maes. Mae gwendidau'r dull holiadurol yn wybyddus, ond cynlluniwyd yr holiadur hwn yn dra gofalus a dadansoddwyd y canlyniadau'n fanwl a threiddgar. Caiff nifer o ragdybiaethau seicoieithyddwyr eu hategu, ac y mae yn y casgliadau awgrymiadau pwysig i addysgwyr ac i bawb sy'n ymboeni â chymlethdodau'r sefyllfa ddwyieithog. Disgrifir cyfansoddiad teuluoedd y mamau yn y sampl yn ogystal â'r defnydd a wnânt o'r Gymraeg, eu hagweddiadau at yr iaith a'u syniadau ynglyn â meithriniad plant. Mae'r mwyafrif ohonynt yn datgan chwithdod am fod yr iaith Gymraeg ar drai ond, ar yr un pryd, yn codi eu plant yn uniaith. Yr awgrym yw fod anogaeth a'r pwysau i wneud hynny'n drech na'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i feithrin dwyieithrwydd yng Nghymru. Cyfeiria'r ymchwilwyr at y rhaniad rhwng cymdeithas a ddylai, i bob golwg, fod yn ddwyieithog, a'r teulu sy'n debygol o droi'n uniaith; ac ni chaiff y rhaniad hwn ei gydnabod gan y mamau dwyieithog sy'n codi eu plant yn uniaith. Gwneir yn eglur bod y mamau'n anwybodus ynglyn â datblygiad ieithyddol plant dwyieithog a dyfynnir rhai gosodiadau o'u heiddo sy'n frawychus o gyfeiliornus ac anoleuedig. Ni ellir anwybyddu'r tadau, wrth gwrs, gan fod eu dylanwad hwy bob amser yn y cefndir, ac yn llethol pan fônt yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg. Neges ddiamwys a rhesymol yr astudiaeth i addysgwyr yw'r angen am ledaenu gwybodaeth am ddwyieithrwydd ac am blant dwyieithog, ac i gymdeithas yn gyffredinol am iddi roi ei priod le a phob cefnogaeth i ddwyieithrwydd yng Nghymru. Monograff yw hwn a byr yw'r drafodaeth ynddo, ond mae'n awgrymog a chywir ei annel. Datgela gryn dipyn o ansicrwydd a diffyg hyder ymhlith rhieni a phwysleisia'r angen am addysgu goleuedig, amyneddgar a dyfal. I. R. DAVIES