Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trafod Materion Cymraeg yn y Senedd PAN edrychwn drwy'r cofnodion y mae'n hynod cyn lleied o sylw a gafodd Cymru yn y Senedd hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 'Roedd Iwerddon yn peri problemau dyrys iawn i'r Llywodraeth; nid oedd yr Alban wedi ildio ei hannibyniaeth tan y ganrif gynt ac yr oedd y ddadl ynglŷn ag aneffeithiolrwydd y cyfleusterau i drafod materion yn ymwneud â'r wlad honno yn y Senedd yn parhau o hyd. Hyd at 1827 cafwyd "Rheolwr Albanaidd" yn llywodraethwr drosti, sef Albanwr a chanddo sedd yn y Cabinet. Ond o 1827 ymlaen fe gymerodd yr Ysgrifennydd Cartref, a fuasai'n gyfrifol yn swyddogol mewn gwirionedd er 1782, yr afwynau i'w ddwylo ei hun gyda chyngor a chymorth yr Arglwydd-Adfocad, sef "Arglwydd Albanaidd y Trysorlys". Parodd diddymu swydd y Rheolwr gryn dipyn o anfodlonrwydd ac ysgrifennodd W. C. Smith ym 1882 ynglŷn â chreu'r Swyddfa Ysgotaidd: A feeling grew up in Scotland that national interests were neglected by Parliament; that the actual wants of the country were not understood by London Departments; that injustice was done in the matter of imperial grants. (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Alban, t. xxi.) Ym 1851 cyflwynodd Cynulliad y Bwrdeistrefi Brenhinol Ddeiseb i'r Senedd ynghylch esgeuluso materion yr Alban ac ym 1853 ffurfiwyd Cymdeithas i amddiffyn hawliau'r Alban a'r Arglwydd Eglinton yn Llywydd arni. Yn amlwg nid oedd prinder Aelodau Seneddol o'r Alban i fynegi pryder y wlad honno oherwydd cynhaliwyd dadleuon ar y pwnc hwn yn y senedd ym 1858, 1864, 1867 a 1877. Ym 1858 cynigiodd Mr. Baxter, yr Aelod dros Dundee, "in the opinion of this House an Under-Secretary of State for Scotland should be appointed to perform the political duties at present attached to the office of Lord Advocate". Gwrthodwyd y cynigiad hwn o 174 pleidlais i 47, a barn Disraeli ar y mater oedd y byddai'n dwyn y wlad yn ôl i gyflwr o weinyddiaeth ranbarthol. O ganlyniad i lythyr a lofnodwyd gan y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol yr Alban ym 1869 sefydlodd Mr. Gladstone Gomisiwn Camperdown na wnaeth ond ychydig iawn o argymhellion ac ni weithredwyd arnynt. Ond cynyddu a wnaeth y gwasgu o'r tu mewn a'r tu allan i'r Senedd ac o ganlyniad pasiwyd Deddf Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ym 1885. Dug Richmond oedd yr "Ysgrifennydd" cyntaf dros yr Alban (nid "Ysgrifennydd Gwladol") ac yr oedd ganddo awdurdod dros bob math ar faterion; 0 1892 yr oedd bob amser yn aelod o'r Cabinet. O 1926 ymlaen daeth yn Brif Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhyfedd iawn, yn ystod y cyfnod hwn o derfysg yn Iwerddon a gweithredu brwd yn yr Alban ni chafwyd unrhyw weithgarwch o gwbl o du'r Aelodau Seneddol na'r Arglwyddi yng Nghymru. Nid oedd Cymru yn ðl pob golwg ond rhyw estyniad, braidd yn hynod yn ei ffordd ei hun, o siroedd Lloegr. Dywedodd yr Esgob Basil Tickell Jones ym 1886 nad oedd Cymru'n 'ddim byd mwy na disgrifiad daearyddol' a dyna, mae'n amlwg, oedd barn ei Haelodau Seneddol ar y cyfan. Yr eithriad amlwg, fel y dengys 'Hansard',