Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Athrawiaeth Siôn Cent O HOLL feirdd mawr cyfnod y cywyddwyr, mae Siôn Cent ymhlith y rhai y gwyddom leiaf amdano. Er gwaethaf y coelion rhyfedd ac amryliw a dyfodd o gwmpas ei enw yn y blynyddoedd wedi ei farw, coelion sydd, ynghyd â thraddodiadau beirniaid llenyddol y ganrif ddiwethaf, wedi eu trafod yn llawn a'u gwrthod i gyd gan Syr Ifor Williams yn ei ragymadrodd i Iolo Goch ac Eraill, mae'r beirniaid bellach yn bur unfryd eu barn nad oes dystiolaeth sicr o gwbl ynglyn â chywirdeb ffeithiau bywyd y bardd. Dywedodd yr Athro Henry Lewis amdano yn Y Bywgraffiadur mai 'bardd' ydyw, ond heblaw hynny 'prin y gwyddys dim am ei fywyd.' Meddai Syr Ifor Williams eto yn ei ragymadrodd, cyn iddo fynd â'i ordd at y coelion amdano, 'anodd darganfod dim amdano ef ei hun', ac eto yn ôl Mr. Saunders Lewis: 'Bu bywyd Siôn Cent yn un o ddirgelion llenyddiaeth Gymraeg'. Bardd yw sydd â'i fywyd wedi'i guddio mewn niwl, ffaith sy'n ennyn chwilfrydedd ei ddarllenydd modern yn ogystal ag ychwanegu at y dirgelwch enigmatig a erys o'i gwmpas fel person. Ni wyddys ym mha le y'i ganed na pha bryd. Ni wyddys ym mha Ie y'i haddysgwyd, er i Mr. Saunders Lewis dybio unwaith mai gwr gradd o Brifysgol Rhydychen ydoedd. Ni wyddys ym mha Ie y bu ei gartref, er iddo ganu clod i Frycheiniog mewn un cywydd nodedig ac ymddengys ei fod yn gyfarwydd â'r wlad honno. Ni wyddys ychwaith pwy oedd ei noddwyr, ai'r gwyr eglwysig a garodd ef gynt, ynteu'r uchelwyr a fu'n wrthrych ei ddychan a'i bregeth? Ac ni wyddys ym mha Ie neu ba bryd y bu farw, er i Syr Ifor Williams dybio mai 1400-1430 oedd blynyddoedd ei flodau. Yn wir, ar wahân i dystiolaeth uniongyrchol ei gywyddau, tipyn o ddirgelwch yw'r bardd a alwyd gan Rhys Goch Eryri yn 'Gopr surferw creichion crach'! Yn anad neb o feirdd nodedig y Bymthegfed Ganrif, byrder a breuder bywyd, sicrwydd anochel y bedd a darfodedigaeth pethau gorau'r byd hwn yw byrdwn ei gân, a hynny nes i Siôn Cent ddod yn symbol o holl ddiflastod ascetig a phesimistiaeth eglwysig yr Oesoedd Canol, yn frawd-maeth i'r brodyr duon hynny a ddychanwyd gan Dafydd ap Gwilym mor effeithiol yn ei draethodl enwog ac yng 'nghywyddau'r adwaith' flynyddoedd ynghynt. Ond er gwaethaf y syniad poblogaidd mai rhyw fath o kill-joy mynachaidd cwbl unigryw ac unigolyddol oedd Siôn Cent, mae'n sicr ei fod ef yn un o blith llawer bardd tebyg. Mae Bobi Jones yn enwi nifer o 'feirdd- pregethwyr', a defnyddio ymadrodd Ambrose Bebb yn y cyswllt hwn, megis Syr Dafydd Trefor, Syr Philip o Emlyn, a Dafydd Ddu o Hiraddug i ddangos fod gwyr eglwysig a beirdd eraill teyrngar i'w eglwys yn canu yn yr un cywair o gwmpas yr un adeg, a bod gwreiddiau'r traddodiad pregethwrol hwn, y rhybuddion am freuder bywyd a Dydd y Farn, yn ymestyn yn ôl, o ran pwnc, at Meilir, Gwalchmai a Chynddelw, y Gogynfeirdd, ac ymhellach eto, o ran arddull a thechneg, at Aneirin a Thaliesin hwythau. 'yn y traddodiad Cymraeg y cawn ffynhonnell bwysicaf arddull Siôn Cent, ei dechneg a'i hynodion.'