Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mydryddiaeth Awdlau Wiliam Llyn CYDNABYDDIR mai WL1 oedd y Cywyddwr gorau a gododd wedi dyddiau Tudur Aled. Fel yr awgryma ei enw, hanoedd o Lyn, ond yr oedd yn drigiannol yng Nghroesoswallt, ac yn nghangell yr eglwys yno y'i claddwyd wedi iddo farw ar y dydd olaf o Awst, 1580, cyn cyrraedd ei chwech a deugain oed. Yr oedd yn briod ag Elizabeth ferch John o Groesoswallt, a gadawodd iddi ei dy yn Stryd Wylyw (Willow Street erbyn heddiw); gosododd hithau'r ty i'w ddisgybl barddol, Rhys Cain, ym 1587. Yr oedd WL1 ei hunan yn ddisgybl i Ruffudd Hiraethog, ac y mae ei gywydd marwnad i'w athro ymhlith y goreuon o gywyddau'r iaith. Perthynai WLl i dalaith farddol Mathrafal, a graddiodd yn Bencerdd yn ail eisteddfod Caerwys, 1567; myn traddodiad mai ef a enillodd y gadair arian yno. Cadwyd inni bum awdl ar hugain o'i waith, tua chant a hanner o gywyddau, a rhyw gant o englynion. Ceir casgliadau o'i gerddi yn ei law ef ei hunan yn C 8 a Thelwall, dwy lawysgrif a gedwir ym mhrif lyfrgell De Morgannwg yng Nghaerdydd. Yno hefyd y ceir ei Eirfa, a grybwyllir gan Dr. John Davies yn y Rhagymadrodd i'w Eiriadur. Fel eraill o'i gyfoeswyr, yr oedd WLl hefyd yn achydd, ac y mae ei lyfrau achau ar glawr i'n dydd ni. Cyhoeddwyd casgliad sylweddol o waith WL1 gan Fyrddin Fardd yn Cynfeirdd Lleyn ym 1905, ac ym 1908 ymddangosodd Barddoniaeth Wiliam Llýn, wedi'i olygu gan J. C. Morrice. Yna, ym 1957, cafwyd traethawd M.A. Mr. Ifan Wyn Williams, 'Testun Beirniadol ac Astudiaeth o Gerddi Wiliam Llyn a geir yn llaw'r Bardd ei hun'.2 Fel y nodwyd uchod, cadwyd inni bum awdl ar hugain gan WLP, dwy ar bymtheg ohonynt yn awdlau moliant, saith yn farwnadau, ac un yn awdl orchestol i ferch ar y pedwar mesur ar hugain. PATRYMAU'R MESURAU Agorir pob awdl â chyfres o englynion wedi'u cadwyno â chyrch-gymeriad. Heb gyfrif Awdl 3, sy'n cynnwys un mesur ar bymtheg, a'r awdl enghreifftiol, Rhif 25, ceir deuddeg englyn ar gyfartaledd ar ddechrau pob un. Englynion unodl union ydynt fynychaf, ond ceir hefyd englynion proest (cadwynog a chyfnewidiog), cyrch, unodl crwca, a phendrwm. Heblaw am Rifau 3 a 25 eto, dilynir yr englynion gan gyfres unodl 0 fesurau awdl. Unwaith, yn Rhif 15, torrir ar rediad y mesurau awdl gan englyn yn eu canol, a newidir y brifodl o hynny ymlaen. Yn Rhif 3, ceir mesurau cywydd ymhlith y mesurau awdl; yn Rhif 25, ceir mesurau cywydd rhwng yr englynion a'r mesurau awdl; yn y ddau achos, y mae'r mesurau a ddilyn yr englynion dechreuol yn unodl. Cyplysir yr englynion â'r mesurau awdl neu gywydd â chyrch-gymeriad, heblaw am Rif 25, lle ceir cymeriad cynganeddol.