Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

William Salesbury a Chynaniad Groeg a Lladin yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg' UN o ganlyniadau'r Dadeni fu'r gweithgarwch ieithyddol mawr yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg gydag ysgolheigion y Dadeni yn Ewrop yn llunio geiriaduron ac yn ysgrifennu gramadegau eu hieithoedd brodorol (gw. Robins 1967, pennod 5). Yng Nghymru, gwelir beth o gynnyrch ieithyddol nodweddiadol o gyfnod y Dadeni yng ngeiriadur William Salesbury, A Dictionary in Englyshe and Welshe, 1547, ac yn A briefe and a playne introduction ganddo a gyhoeddwyd yn 1550 ac eilwaith yn 1567 wedi ei ddiwygio beth dan y teitl A playne and a familiar introduction. Y cymhelliad tros y cyntaf oedd i hwyluso'r ffordd i Gymry ddysgu'r Saesneg, a'r ail, i ddarparu ar gyfer Saeson a fynnai ddysgu'r Gymraeg 'a fewe englishe rules of the naturall power of the letters in our tonge.' (Salesbury 1550). Codai'r cymhellion i ymddiddori yn eu hieithoedd brodorol ymysg ysgolheigion y Dadeni o sawl cyfeiriad: yr oedd elfen gref o wladgarwch ynddo; 'men felt it their duty to foster the use and the cultivation of their own national language.' (Robins 1967, 99); cyplysid y cariad at yr iaith â balchder yn eu hanes, yn enwedig ymysg y dyneiddwyr o Gymry, gwead a grisialodd Saunders Lewis yn y frawddeg 'Ymlyniad wrth iaith a hanes eu mamwlad oedd gwladgarwch dyneiddiaeth' (S. Lewis 1947, 50). Y mae gwedd ar yr iaith, hefyd, y gallwn fod yn bur sicr iddi fod yn gyfrwng boddhad iddynt, sef y tebygrwydd a welai rhai o'r dyneiddwyr hyn rhwng seiniau'r Gymraeg a seiniau'r tair iaith fawr a ffurfiai ran hanfodol o repertoire ieithyddol homo trilinguis y Dadeni, sef, Lladin, Groeg a Hebraeg. Y mae A briefe and a playne introduction Salesbury, yn arbennig, yn frith o gyfeiriadau at gyffelybiaethau rhwng seiniau'r Gymraeg a seiniau Groeg, Hebraeg ac yn enwedig, Lladin. Yn wir, gwelir balchder diamheuol Salesbury yn y cyfeiriad hwn yn ei gyfarwyddyd ar sut y dylid darllen y Gymraeg yn nhestun 1550: A generall rule for the readynge of Walsh I woulde thinke it not overmuch dissonant nor yet to wyde from the purpose, to admonish you in this behalfe, that is: that you ought not to reade the Walshe accordynge as ye do the Englyshe or Frenche, but even after the readynge of the latine. Yn y cymariaethau a'r cyffelybiaethau a nodir rhwng y Gymraeg a seiniau'r Groeg a'r Lladin, deuir â ni at bwnc y bu cryn ddadl yn ei gylch yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn Lloegr, sef pwnc ynganiad cywir Lladin a Groeg. Cododd y ddadl pan aethpwyd ati yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg i ddiwygio ynganiad Groeg a Lladin a oedd yn gyffredin yn Ewrob i'r hyn y tybid ydoedd yn yr ieithoedd clasurol. Dechreuodd y symudiad i ddiwygio yn niwedd y bymthegfed ganrif a chyrhaeddodd ei ben llanw gyda chyhoeddi De recta Latini Graecique sermonis pronuntiatione Erasmus yn 1528 yn sefydlu nodweddion tybiedig yr ynganiad cywir. Rhai o nodweddion