Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Un o Oleuadau Caergrawnt F. J. A. Hort CYFNOD o gynnwrf meddyliol oedd oes Fictoria. Ystrydeb bellach yw dweud fod y 19eg ganrif wedi gweld mwy o newid na llu o ganrifoedd cyn hynny. Ac yr oedd yn oes grefyddol. Nid yn yr ystyr fod ei phobl yn well pobl, yn fwy datblygedig foesol na phobl heddiw, ond yn sicr yr oedd crefydd nid yn unig yn bwnc llosg i'r arbenigwyr ond yn fater o'r diddordeb mwyaf eirias i'r cyhoedd. Mae ceisio amgyffred y lle canolog holl bwysig a roddwyd i faterion crefyddol y pryd hwnnw yn gofyn am naid mewn dychymyg deallus yn y dyddiau presennol hyn sydd o naws tra gwahanol. Am y rheswm hwn, ar wahân i ystyriaethau sylfaenol o safbwynt credinwyr, wrth wylied troeon yr yrfa yn hanes y meddwl diwinyddol yn yr oes honno ac wrth fynd ar drywydd datblygiadau ym maes syniadaeth ac ysgolheictod Beiblaidd, byddwn yn ymhel â'r pethau o'r pwys mwyaf yng ngolwg pobl yr oes, nid yn ymdreiglo ar gyrion pethau. Cafwyd llawer o drafodaeth. Caled fu'r bygylu a mynegwyd llawer o safbwyntiau a oedd yn creu dicter ym mynwes ceidwaid y ffydd. Cafwyd eithafwyr ar y naill begwn a'r llall: rhai o geiliogod colegau'r Almaen yn bygwth traddodiadau oesol, a rhai o'r bobl a'u cyfrifai'u hunain yn amddiffynwyr y gwirionedd yn mentro i'r gad yn hy. Er enghraifft, gwelwyd ymdrechion y Dr. Edward Bouverie Pusey (1800-1882) i geisio troi'r llif yn ôl, a phobl flaengar fel y nofelydd George Eliot yn llawenhau yn y cyfle i ddwyn y golau cyfandirol yn nes at drigolion Prydain drwy gyfieithu llyfr negyddol David Friedrich Strauss, Bywyd Iesu. Cafwyd mynegi pob math o safbwyntiau ac mae'r stori'n hynod ddiddorol. Er bod llawer o bethau ffôl yn cael eu traethu am feirniadaeth Feiblaidd gan bleidwyr y syniadau newydd, a'r rheiny'n cael eu hateb gan ffolinebau llawer o bleidwyr yr hen drefn, yr oedd yn amlwg fod rhai ffeithiau chwyldroadol bwysig wedi dod i aros. Y gamp yn aml oedd cael gafael ar ysgolheigion heb fod yn gaeth i sibolethau'r naill begwn na'r llall. O'm rhan i, byddaf yn edmygu'n fawr gyfraniad y goleuadau hynny o Brifysgol Caergrawnt, y tri chyfaill Anglicanaidd, Lightfoot, Westcott a Hort. Yr oedd Joseph Barber Lightfoot (1828-1889) yn esboniwr Beiblaidd o athrylith, a gosododd astudiaethau o gyfnod cynnar Hanes yr Eglwys, y cyfnod Patristig, cyfnod y Tadau ar seiliau safadwy. Pan fu farw Lightfoot ni fu'r Almaenwr mawr Harnack brin o fynegi fod ei waith o werth amhrisiadwy. Cyflawnodd gampweithiau mawr ei fywyd yn ei stydi, yn ei ymrwymiad di-ball i ddisgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn ei barch i'r ffeithiau. Er hynny, cafodd amlygrwydd o fath arall yn Eglwys Loegr o'i ddyrchafu'n esgob Durham. Mater o farn yw ai colled oedd gosod ysgolhaig mor unigryw mewn swydd o'r fath. Am Lightfoot ei hun, yr oedd yn sicr ganddo'i fod wedi gwneud y dewis iawn. Dilynwyd ef yn esgob Durham gan ei gyfaill Brooke Foss Westcott (1825-1901). Byddai rhai am nodi nad oedd Westcott yn rhydd bob amser o ryw ofnusrwydd ym myd syniadau. 'Yr oedd Westcott, mae'n ymddangos imi, er ei fod yn ddyn mawr, yn ofni gofyn cwestiynau y