Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dr. Iorwerth Peate Un o Bobl y 'Tu Allan' YNG Nghymru, yn nhridegau'r ganrif hon, mynegwyd pryder am gyflwr yr athrawiaeth, ac yn ôl un sylwebydd ar dudalennau cylchgrawn Yr Efrydydd 'r oedd y rhyddfrydiaeth ddiwinyddol a fynegwyd yn ddiamwys yng nghyfrol D. Miall Edwards, Bannau'r Ffydd, wedi erydu'r ffydd, a pheri llacio gafael yn yr hen uniongrededd a oedd yng ngolwg yr awdur wedi ysbrydoli 'grym pregethu'. Yn gyfnewid am yr hen uniongrededd ffrwythlon cafwyd yr hyn a elwid yn 'speciwlasiwn diwinyddol'. Ychwanegodd nad oedd trwch aelodau'r Eglwys yn chwennych Moderniaeth, a glynent wrth brif athrawiaethau'r ffydd a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth yn drysor uwchlaw pris. Prin y cyfrifid Dr. Iorwerth Peate yn ddiwinydd, ond cynrychiolai haen o feddwl yng Nghymru a'i ogwydd tuag at awydd angerddol i ymryddhau o gaethiwed credo a thraddodiad sefydlog. Credai fod yr athrawiaethau yn apêl at reswm, ac o'r herwydd yn agored i gael eu hadolygu. Cydnabu fod i'r ffydd sylfaen safadwy, ond nid oedd i'r athrawiaethau a adeiladwyd ar y sylfaen honno unrhyw sefydlogrwydd, a dylid eu cymhwyso yng ngoleuni tueddiadau a diwylliant yr oes. Dyma farn prawf pob dysgeidiaeth. Yr oedd yn achos syndod i Iorwerth Peate fod pedwar o'i gyfeillion a berchid ganddo ar gyfrif eu hysgolheictod yn gallu cofleidio'r fath syniadau crefyddol, amrwd a phlentynnaidd. Traethai'r cyntaf, offeiriad Pabyddol, yn ddeallus am ddatblygiad dyn, ond derbyniai'n ddigwestiwn lythyrenoldeb yr Ysgrythur. Llenor amryddawn oedd yr ail; offeiriad Eingl-Gatholig oedd y trydydd, ill dau yn wyr hynod ddysgedig, ond parhaent i dderbyn llyfr Genesis fel gair llythrennol. Parlyswyd y pedwerydd, hefyd gan yr un clwyf, ac er ei fod yn athronydd dawnus ymlynai fel dur wrth yr hen uniongrededd a fynnai fod pob gair o'r Beibl o ddwyfol osodiad. Perthynai i'r pedwar fel ei gilydd ryw ddeuoliaeth ryfedd. Ond, ni all y gwir ysgolhaig, ym marn Iorwerth Peate, dderbyn dogma. Ei briod swyddogaeth ef yw amau popeth. Trwy amau y datblygodd gwyddoniaeth, fel y profodd Copernicws a Galileo, ac fe wyr yr ymchwilydd gwyddonol nad oes seiliau pendant i ddogma'r Drindod. Byddai'n rheitiach inni, felly, dderbyn y gyffes seml ein bod yn credu yn Nuw ac ym mywyd a dysgeidiaeth Iesu. Dyma wir gred y rhan fwyaf o aelodau eglwysi Cymru, er nad ydynt yn barod i'w chyhoeddi'n agored. Gresyn, felly, eu bod yn glynu wrth gredo ddyrys a luniwyd yng Nghyngor Nicea, ac a barheir gan Sasiwn y Methodistiaid ac Undeb yr Annibynwyr! Yn wrthwyneb i farn Iorwerth Peate, mynnai un awdur yn Y Traethodydd na welai ef ddim yn athrawiaeth y Drindod a oedd yn groes i reswm, nac yn anghyson â gwybodaeth ddiweddar. Ychwanegodd fod llawer o bethau yn yr athrawiaeth a oedd yn anghyson ag anwybodaeth ddiweddar! Pan gyhoeddodd yr Athro J. R. Jones Yr Argyfwng Gwacter Ystyr, sylwodd Iorwerth Peate fod dydd y grefydd draddodiadol ar ben, ac yn hytrach nag ymboeni mwyach am yr eglwysi cyfundrefnol a amddifadwyd o sylwedd y peth byw, dylem ailddarganfod Iesu gan roi heibio'r holl gleber am litwrgi a ffurf-wasanaeth fel creiriau o'r Oesoedd Canol.