Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau DEREC LLWYD MORGAN, Y Diwygiad Mawr (Gwasg Gomer, 1981) £ 6.75. GWERTHFAWROGIAD, nid adolygiad yw'r llith hon. Fe'm hysgogwyd gan gyfrol Derec Llwyd Morgan i geisio bwrw golwg frysiog dros rai o'r tueddiadau diwinyddol yng Nghymru nad ydynt, o bell ffordd, yn gwbl amherthnasol i'r pwnc a ymdrinir mor ddeheuig ganddo ef. Fel yr awgryma'r awdur, cais y gyfrol fynd i'r afael â 'meddwl' a 'dychymyg' y Methodistiaid cynnar fel y'u cyfleir yn eu gweithiau printiedig. Ar un o dudalennau blaen y gyfrol dyfynnir geiriau R. T. Jenkins i'r perwyl 'fod llawer Methodist heddiw heb yr un syniad beth oedd Methodistiaeth'. Gellir dweud yr un peth, ysywaeth, am drwch aelodau yr enwadau eraill nad ydynt hwythau chwaith yn hyddysg yn eu traddodiadau gwahanol. Prawf o hyn oedd y sylw a wnaed yn gymharol ddiweddar gan aelod mewn Eglwys Annibynnol mai prif nodwedd ei enwad ef oedd y gallai wneud fel y gwelai'n dda a chredu beth a fynnai. Byddai troi at y gyfrol hon yn ddigon i'w argyhoeddi fod i'r hen Anghydffurfiaeth a roes iddo'i wreiddiau Annibynnol gredo, ffydd a buched gwbl ddarostyngedig i'r Ysgrythur a Gair Duw. Yn y Rhagair, edrydd yr awdur iddo gael 'budd sylweddol' wrth ddarlithio ar Fethodistiaeth yng ngwydd nifer o weinidogion a oedd yn fwy na pharod i'w trafod yn feddylgar a golau. Ar gorn y sylw hwn, fe'n temtir i holi am ba nifer ohonynt y gellir dweud eu bod wedi derbyn darlithiau yn y colegau diwinyddol yng Nghymru yn sôn am eu treftadaeth grefyddol, Gymraeg? Os oedd myfyriwr yn hyddysg yn y maes hwn, casglodd wybodaeth amdano drwy ei ymdrechion ei hun. Ni fyddis, fel rheol, yn cyplysu enw Watcyn Wyn â diwinyddiaeth yng Nghymru, ond fe fyddai'n dda inni gofio mai'r gwr hwn a atgoffodd awdurdodau y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin o'u cyfrifoldeb i drwytho'r myfyrwyr yn hanes eu llen a'u crefydd. Talwyd teyrnged haeddiannol iddo gan Elfed fel y gwr, yn anad neb arall, a'i tywysodd i feysydd llên a diwinyddiaeth Gymraeg. I raddau, y mae'r sefyllfa wedi newid er gwell, ond y mae'n bosibl 0 hyd i fyfyriwr o Gymro Cymraeg gwblhau ei gwrs mewn coleg diwinyddol yng Nghymru heb dderbyn un wers nag un iod o wybodaeth am y traddodiadau a fowldiodd ei bresennol. Ar un adeg, buwyd yn rhy barod i briodoli'r diffyg i brinder defnyddiau cymwys, ond, a bwrw fod hynny wedi bod yn wir, nid felly mwyach. Y mae cyfrol Derec Llwyd Morgan yn ychwanegiad tra gwerthfawr i'r astudiaethau a gyplysir ag awduron megis Gomer M. Roberts a John Roberts, Caerdydd. Un o'r gwirioneddau amlwg a dery dyn wrth ddarllen y gyfrol yw perthynas yr hen a'r newydd mewn diwinyddiaeth. Fe'n harweiniwyd gan R. T. Jenkins i feddwl am y Diwygiad Methodistaidd fel y 'Methodist way'- nid enwad, nid sect, nid cymdeithas hyd yn oed, yn y lie cyntaf, ond osgo, agwedd, dull, ffordd .— ffordd newydd. Prif amcan y Diwygiad Protestannaidd oedd cyflwyno mewn ffordd newydd, yr hen athrawiaethau a gladdwyd tan haenau o ddefodau a system o ddiwinyddiaeth a godwyd ar haeddiant dynol. Mae'n arwyddocaol na fwriadodd Karl Barth i'w ddiwinyddiaeth fod yn 'newydd,' a dyna un rheswm pam yr oedd mor feirniadol o'r gwyr hynny a fynnai sôn am Barthiaeth fel pe bai honno'n ffenomen ar wahân i lif y Diwygiad Protestannaidd, ac ysgol Barth, fel pe bai honno'n dysgu gwersi nas dysgwyd erioed o'r blaen. Yn ðl ei dystiolaeth ef ei hun, ei briod waith oedd ailbwysleisio, gwneud yn amlwg brif sylfeini'r Diwygiad Protestannaidd a esgeuluswyd gan ramantiaeth a rhyddfrydiaeth ddiwinyddol. Trawodd nodyn mor sicr a chlir fel nad oedd yn syn i rywrai deimlo fod y nodyn yn cael ei seinio am y tro cyntaf oddi ar gyfnod y Diwygiad. Pwysleisia Derec Llwyd Morgan nad oedd syniadau'r Methodistiaid yn rhai newydd. Yr hyn a wnaethant oedd mynd yn ôl at yr athrawiaethau ceidwadol, uniongred a grynhowyd yn Erthyglau Eglwys Loegr, Credo Nicea ac Athanasiws. Dywedodd Pantycelyn fod 'ei holl ddaliadau gloyw' i'w canfod yn glir yn y credoau, a'r nod a osododd iddo'i hun oedd dwyn i olau dydd wirioneddau articlau Eglwys Loegr, a Chatecism Westminster, ond yn bennaf oll yr Ysgrythur Lân. Eto, pwysleisiwyd y gwirioneddau hyn gyda'r fath angerdd a sicrwydd fel y gellir maddau i Bantycelyn am gredu fod y cyfnod cyn dyfod y Diwygiad yn un o 'dywyll farwol hun'. Pe byddai hynny'n llythrennol wir, dileid ar amrant gyfraniad Matthias Maurice, a gweithgarwch diflino gwyr megis William Evans a Christmas Samuel.