Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. TUDUR JONES, Ffydd ac Argyfwng Cenedl, Cyfrol 2, Dryswch a Diwygiad. (T9 John Penry, 1982) tt. 305, £ 7.00. MAWR yw ein dyled unwaith eto i'r Dr. Tudur Jones am gyfrol sylweddol a diddorol ar hanes crefydd yng Nghymru rhwng 1890 a 1914. Ceir yn hon yr un wybodaeth gynhwysfawr a manwl ag yn y gyfrol gyntaf (dros un cant ar ddeg o nodiadau-diwedd-pennod!) a'r un ddawn i groniclo hanes yn fywiog a gafaelgar. 'Dyma droi'n awr i fyd syniadau' medd yr awdur yn ei frawddeg gyntaf. A dyna a wneir yn bennaf, gan drafod yn y bennod gyntaf yr hyn a elwir yn 'ddryswch y deallusion,' yn yr ail, syniadau diwinyddol y cyfnod, ac yn y seithfed bennod y modd y cymhwyswyd egwyddorion crefydd at broblemau cymdeithas. Ond ni roddir y gorau i adrodd hanes: ceir yn y drydedd bennod arolwg o ymwneud yr eglwysi ag addysg ac yna dair pennod hynod o ddiddorol a dadlennol ar Ddiwygiad 1904-5, a gymer dros gant o dudalennau, sef mwy na thraean y gyfrol. (Rhaid ychwanegu ei bod yn haws cyfiawnhau'r gofod helaeth yma na'r gofod rhy helaeth a roddwyd i Eglwys Rydd y Cymry yn y gyfrol gyntaf.) Y mae'n amheus gennyf a ellir cael adroddiad gwell o hanes y Diwygiad a'i ganlyniadau nag a geir yma. Y mae'n orchest o ymchwil ofalus a barn gytbwys. Yn y bennod gyntaf trafodir yr 'ansicrwydd' a'r 'argyfwng ffydd' a nodweddai'r cyfnod dan sylw, gyda dyfyniadau o'r beirdd a'r llenorion a chyfeiriadau at y dylanwadau rhamantaidd, Hegelaidd ac esblygiadol arnynt. Ond onid oes perygl yma gyffredinoli gormod a gweld bwganod lle nad oes bwganod? 'Doedd pawb o'r beirdd rhamantaidd ddim yn euog o wadu gwrthrychedd y datguddiad Cristnogol na'i bwysigrwydd. Am eu bod yn debyg i'r Rhamantwyr mewn un neu ddau o bethau, 'dydi hyn ddim yn golygu eu bod yn dilyn y Rhamantwyr ym mhob peth. Oni ellir dweud, gyda Saunders Lewis, fod Pantycelyn yn fardd rhamantaidd yn ei bwyslais ar y profiad mewnol? Ond pell yw hynny o'i gyhuddo o wyro oddi wrth gred yng ngwrthrychedd y datguddiad Cristnogol. Ac oni wnaeth yr awdur gam dybryd â Gwili? Wedi dyfynnu llinellau sy'n sôn am Dduw'n 'dyfod ei Hun yn ddameg anfeidrol i'r byd,' gofynnir: 'A allai Strauss ddywedyd yn amgenach?' Eithr y mae'n rhaid holi ai'r un ystyr â roddai Strauss i'r gair 'muth' ag a roddai Gwili i'r gair 'dameg'? Mewn un ystyr y mae'r ymgnawdoliad yn ddameg, am mai datguddiad mewn digwyddiadau ydyw; ond nid yw hyn yn golygu gwadu gwrthrychedd y digwyddiadau na'u realiti hanesyddol. A chyda llaw, oni fu gormod o duedd yng Nghymru yn ddiweddar i ladd ar Hegel (ac ar Lewis Edwards druan, nad oedd fawr ddim dylanwad Hegelaidd arno)? Darllened diwinyddion Cymru bennod Barth ar Hegel yn From Rousseau to Ritschl i gael golwg fwy cytbwys arno, gan sylwi ar y gosodiad: 'Hegel did not dispute the positive and historical nature of revelation, the uniqueness of Christ; rather he emphatically affirmed it.' Wedi troi at y dylanwadau gwyddonol dywed yr awdur mai Darwin 'yn anad neb yn y ganrif a boblogeiddiodd wyddoniaeth.' Y mae hyn ymhell o fod yn gywir. Mor bell yn ôl â'r dauddegau yr oedd daeareg wedi dod i fri a mwy o werthiant ar lyfrau'r daearegwyr nag ar nofelau Walter Scott. Ac fel y ceisiais ddangos yn Duw, Daeareg a Darwin, bu diwinyddion efengylaidd yn barotach i dderbyn daeareg ac i geisio'i chysoni â'u crefydd nag y bu eu holynwyr yn eu perthynas ag esblygiad. A phwy tybed a greodd y 'dryswch' mwyaf ym meddyliau credinwyr, y diwinyddion hynny a gydnabu ymchwil onest y gwyddonwyr (fel y gwnaeth Pantycelyn) a cheisio cysoni'r damcaniaethau newydd â'u crefydd, ynteu'r rhai hynny a wrthodai'r wyddoniaeth newydd trwy lynu'n rhy dynn wrth y syniad fod y Beibl yn awdurdod ar faterion gwyddonol yn ogystal ag ar wirioneddau ysbrydol? Bu sawl enghraifft o grefyddwyr selog a galluog a droes eu cefn ar grefydd oherwydd tybio fod yn rhaid iddynt, cyn bod yn Gristnogion, gredu'n llythrennol yn 'y chwe diwrnod' ac yng ngardd Eden. Bu ambell ddiwinydd yn ddigon ffôl i dybio y gallai lunio system blanedol ar sail yr Ysgrythur i danseilio'n llwyr system Newton! Awgrymaf mai'r math yma o beth, yn fwy na'r dylanwadau Hegelaidd a Rhamantaidd, a ddyfnhaodd 'y gagendor rhwng crefydd a diwylliant yn enaid Cymru,' a da oedd i Tudur Jones alw sylw at bwysigrwydd llyfr John Hughes, Ysgol Jacob, lIe na 'cheir unrhyw gondemnio anghyfrifol' ar esblygiad. A daw hyn â ni at yr ail bennod, 'Wrth draed y diwinyddion', sydd eto'n foddion i sbarduno myfyrdod ac weithiau i ennyn anghytundeb! Onid oes tuedd yn yr awdur (a llawer o rai tebyg