Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Epigram Groeg a'r Englyn Cymraeg YN rhan gyntaf y papur hwn, rhof grynodeb byr o natur a hanes yr epigram Groeg. Wedi hynny, bwriadaf drafod rhai o'r problemau sydd ynglyn â'i gymharu â'r englyn Cymraeg-peth y ceisiwyd ei wneud yn weddol aml, ond, fel y dymunaf ddangos, heb roi digon o sylw i'r gwahaniaeth sydd rhyngddynt. Nid oes yn y tudalennau canlynol fawr ddim a fydd yn newydd i rywun sydd yn gyfarwydd â llenyddiaeth Roeg. I Wrth drafod yr epigramau Groeg clasurol, rhaid anwybyddu, gan mwyaf, ystyr ddiweddar y gair 'epigram'. Y mae'r gair wedi dod i olygu cerdd fach ddoniol neu ddychanol, neu hyd yn oed brawddeg o ryddiaith, mewn arddull fachog. Ond mae'r elfen o ddoniolwch a bachogrwydd yn ddatblygiad sydd yn perthyn yn fwy i gyfnod y Rhufeinwyr nag i gyfnod gorau llenyddiaeth Roeg; ac mewn oesoedd diweddarach, yr epigram Lladin fel y'i sgrifennid gan Martial, ac nid yr epigram Groeg, a gymerwyd fel patrwm i'w efelychu. Mae'r rhan fwyaf o'r epigramau Groeg sydd yn ddoniol yn dod hefyd o'r cyfnod Rhufeinig; cyfansoddwyd rhai ohonynt gan y Rhufeinwyr eu hunain. Nid yw'r epigramau hyn yn debyg iawn i'r rhai cynnar a gyfansoddwyd yn yr iaith Roeg, ar wahân i'w mesur a'u byrder. Ystyr epigramma yn y Roeg oedd 'arysgrifen'; ac y mae'r enghreifftiau cynharaf o'r epigram naill ai yn arysgrifau gwirioneddol neu'n ddynwared- iadau o'u ffurf a'u harddull. Beddargraffiadau, gwir neu ffug, yw llawer ohonynt; mae llawer hefyd yn cofnodi offrymau i'r duwiau. Eu mesur arferol yw'r mesur elegeiog, ond fe ganwyd ychydig ohonynt hefyd ar y mesur chweban arwrol. Yr oedd dau fath arall, o leiaf, o gerdd fer yn cael eu cyfansoddi ar yr un pryd. Arfer rhai o'r doethion Groeg (e.e., Theognis, Phocylides) oedd corffori eu dywediadau a gwirebau ar ffurf fydryddol. Buasai'r Groegiaid diweddarach yn galw'r rhain yn epigramau, ond y mae'n sicr nad epigrammata oeddynt i'w hawduron. Canwyd hwythau hefyd ar y mesur elegeiog, gan amlaf. Yr oedd hefyd fath o gerdd a elwid yn scolion, ac a gyfansoddwyd ar lafar ar ryw un neu'i gilydd o'r mesurau telynegol (yn ystyr Groeg y gair hwnnw, wrth gwrs). Fe'u cenid yn ystod gwleddoedd a phartïon yfed (symposia), a'u testunau oedd pethau fel pleserau bywyd, gwin a serch, ac yn y blaen. Yn fwy diweddar, yn ystod y cyfnod Alecsandraidd, fe aeth yr epigram gwirioneddol, y cwpled elegeiog gwirebol a'r scolion yn gymysg â'i gilydd, ac fe gafwyd epigramau, yn yr ystyr ehangach, ar y tri math o destun, ar y mesur elegeiog bron bob amser. Ymddengys i'r scolion telynegol fynd yn anffasiynol erbyn y pryd hynny. Arhosodd yr arfer, gymaint ag erioed, o gyfansoddi beddargraffiadau ac arysgrifau eraill ar ffurf un neu fwy o gwpledi elegeiog; ond fe ganwyd hefyd epigramau moesol a chrefyddol, math ar gerdd sydd yn disgyn o'r canu gwirebol cynnar, ac epigramau yn ymwneud â gwin a phethau eraill