Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Yr Esgob": Stori o waith Tshechof Y MAE enw Anton Tshechof yn gyfarwydd i bawb sy'n ymddiddori yn y ddrama. Eithr fel awdur storïau byrion y daeth i fri yn gyntaf yn ei famwlad, Rwsia. Dechreuodd sgrifennu straeon pan oedd yn laslanc, a bu wrthi drwy gydol ei oes, yn meistroli a pherffeithio'r ffurf. Rhwng 1900 a 1904, pan fu farw yn 44 oed, sgrifennodd y tair enwocaf o'i ddramâu, a'r ddwy stori olaf, un ohonynt, "Yr Esgob", yn gampwaith o'r cywreiniaf. "Stori berffaith," yn ôl un o'i beirniaid, yw hon, ac nid oes angen bod yn feirniad llenyddol i gytuno â'i farn. Wrth lafurio i'w llunio, yr oedd ei hawdur eisoes yn bur wael ei iechyd, ac megis yr esgob yn ei hanes, yn wynebu ar angau. Eto, yr oedd thema'r stori wedi bod ym meddwl Tshechof ers pymtheng mlynedd, ac yr oedd wedi ffurfio 0 leiaf un fersiwn arall ohoni. Hyfforddwyd Tshechof fel meddyg ym Mhrifysgol Mosco, ac anffyddiwr oedd, neu o leiaf amheuwr mewn materion crefyddol. Ar un olwg, y mae'r stori hon, ynarbennig y diwedd, wedi marw'r esgob, yn drist a phesimistaidd. Eto y mae ynddi gyweirnod pendant o obaith, a threm glir ac ystyrlon ar Atgyfodiad Crist. Stori ar gyfer y gwanwyn yw hi, i'w darllen yn y cyfnod cyn y Pasg. Er mai anffyddiwr oedd ef, wedi iddo roddi heibio bethau bachgennaidd, cawsai Anton Tshechof ei godi y tu mewn i draddodiad Uniongred Eglwys Gristnogol y dwyrain, sydd a'i phwyslais yn bendant ar litwrgi a ffurf-wasanaeth. Yr oedd ei rieni'n eglwyswyr hen-ffasiwn, a bu'r bachgen Anton yn canu yn y côr yn eglwys Taganrog, ar lan môr Azof, lle'r oedd y teulu'n cartrefu. Cafodd ei drwytho yn nefodau'r eglwys, ac arhosodd dysgeidiaeth yr eglwys hefyd gydag ef, ymhell wedi iddo ymwadu ag aelodaeth ohoni.2 Yn y stori "Yr Esgob", daw iaith ysblennydd y gwasanaeth Uniongred o bryd i'w gilydd i glustiau'r darllenydd, a gwynt yr arogl-darth i'w ffroenau. Eto, stori seml yw hi, sy'n croniclo wythnos clafychu a marw'r esgob Pedr. Y mae'n dechrau ag offeren noswyl Sul y Blodau, ac erbyn i'r clychau alw'r ffyddloniaid i wasanaeth dydd y Pasg, y mae'r hen esgob wedi'i gipio gan yr angau. Mae'r awdur, wrth agosáu ei hun at farwolaeth, yn uniaethu profiad yr esgob, nid yn unig ag ef ei hun, ond hefyd â dioddefaint a marwolaeth Crist. Daw mam yr esgob, ynghyd â'i nith, geneth fach wyth oed, i ymweld ag ef ar achlysur yr wyl, a threulia ef ddyddiau olaf ei fywyd yn eu cwmni, yn dwyn i gof flynyddoedd ei febyd, a chwrs ei hoedl wedi hynny. Ychydig sy'n digwydd, dim ond yr esgob yn cyflawni'i ddyletswyddau bob dydd, a'i iechyd yn gwaethygu nes i'r angau o'r diwedd ei oddiweddyd. Marwolaeth yr esgob yw'r unig ddigwyddiad dramatig yn y stori i gyd, ac eto, fel y cawn weld, nid digwyddiad mohono chwaith. Serch hynny, er nad yw'r hanes yn un dramatig yn yr ystyr honno, ffurf drama sydd iddi, neu'n hytrach, efallai, ffurf ffilm. Byddai "Yr Esgob" yn gwneud ffilm fer effeithiol iawn, oherwydd y mae wedi'i saernïo o gylch cyfres oflashbacks, fel petai, lle mae'r esgob yn dwyn i gof ei blentyndod a'i ieuenctid. Rhes o olygfeydd byrion ydyw'r stori, un yn dilyn ar sodlau'r llall, a phob un yn ei dro yn cyferbynnu â'r un nesaf ati.