Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hugo Schuchardt (1842-1927): Rhai o ddolenni Cymreig y Rhwydwaith ATHRO Ffiloleg Románs oedd Hugo Ernst Mario Schuchardt wrth ei swydd ym Mhrifysgol Halle (1872) ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Carl Fransens, Graz (1876-1900). Yr oedd ei raglen ymchwil, sut bynnag, yn llawer ehangach na'r ieithoedd a'r llenyddiaethau Románs ac yn fwy uchelgeisiol, ond odid, nag eiddo'r un ysgolhaig arall o'r cyfnod. Ganed Hugo Schuchardt yn Gotha ym 1842 ac er iddo arfaethu gyrfa fel cyfreithiwr, gan ddilyn yn ôl llwybrau ei dad, fe'i denwyd i astudio'r clasuron ym Mhrifysgol Jena. O Jena aeth i Brifysgol Bonn ac astudio dan Friedrich Ritschl (1806-76),2 Lladinwr a arbenigai ar waith Plautus (c.254-184 CC); yn Bonn hefyd y daeth dan ddylanwad Friedrich Diez (1794-1876)3, arloeswr astudiaethau diacronig yn yr ieithoedd Románs. Sylweddolodd Ritschl a Diez bwysigrwydd ymchwil Schuchardt ar Ladin Llafar, mamiaith gyffredin dybiedig yr ieithoedd Románs, a'i annog i gyhoeddi ei Vocalismus des Vulgärlateins a ymddangosodd mewn tair cyfrol rhwng 1866 a 1869. Yr oedd y Vocalismus o bwysigrwydd sylfaenol i astudiaethau diacronig yn yr ieithoedd Románs gan ei fod yn astudiaeth fanwl o wedd boblogaidd ar Ladin Llafar o gyfnod Plautus hyd at y chweched ganrif O.C.. Ym 1869 dechreuodd Schuchardt baratoi ei draethawd Habilitation ym Mhrifysgol Leipzig ac fe'i penodwyd yn Privat-dozent yn y brifysgol honno; gwrthododd ym 1890 wahoddiad taer i ddychwelyd i swydd Athro yn Leipzig. Ym 1870 cyfarfu Hugo Schuchardt â John Rhŷs4 a oedd yntau'n astudio yn Leipzig dan Georg Curtius (1820-1885)5 ac August Leskien (1840-1916) a dyma ddechrau ar gyfnod maith o gyfeillgarwch a chyfnewid llyfrau, erthyglau a syniadau rhwng Rhys a Schuchardt. Y mae modd priodoli nifer o syniadau ieithyddol Rhys i'w gyfathrach ffrwythlon â Hugo Schuchardt. Pan etholwyd John Rhys yn Athro Celteg Prifysgol Rhydychen ym 1877 yr oedd Hugo Schuchardt, Georg Curtius ac August Leskien ymhlith ei gefnogwyr. 8 Er mai'r Vocalismus yw'r unig waith sylweddol-hir a gyhoeddwyd gan Hugo Schuchardt erioed, ac er iddo barhau gydol ei oes i drafod pynciau yn ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau Románs, fe'i denwyd at feysydd, at ieithoedd ac at lenyddiaethau eraill yn ogystal. Astudiodd a chyfrannodd Schuchardt at astudiaethau yn yr Hwngareg; 9 gohebai â Franz Miklosich (1813-1891) ynglyn â'r ieithoedd Slafonig ac ieithoedd y sipswn;10 arloesodd wrth astudio ieithoedd pidgin a chreole.11 Cyhoeddodd yn helaeth ar iaith y Basgiaid: golygodd hen destunau yn yr iaith honno; casglodd ganeuon gwerin a chwedlau llafar gwlad; archwiliodd y berthynas rhwng y Fasgeg ac ieithoedd eraill, yn enwedig ieithoedd nad ydynt yn perthyn i'r teulu Indo-Ewropeaidd.12 Ym 1923 cyhoeddodd Hugo Schuchardt gyflwyniad i iaith y Basgiaid sef Primitiae Linguae Vasconum; ymddangosodd ail argraffiad ym 1968. Astudiodd gystrawen a morffoleg Georgeg De Caucasia a chasglodd lawysgrifau cynnar yn yr iaith honno.13 Astudiodd ieithoedd Berber Gogledd Affrica,14 Albanieg,15 Arabeg ac