Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Euogrwydd: Ei Gamddefnydd OS yw llenyddiaeth yn ddrych yn adlewyrchu bywyd, gwir yw dweud fod euogrwydd yn rhan bwysig o'r darlun hwnnw. Rhydd Shakespeare i ni astudiaethau cyrhaeddgar ohono yn yr Arglwyddes Macbeth yn cwsg- grwydro, nes cael ymryddhad mewn hunanladdiad, a Macbeth ei hunan yn gwegian rhwng dychryn ofnus a chreulondeb didostur nes iddo yntau, hefyd, groesawu marwolaeth pan ddaw. Wedyn, yn 'Hamlet', y mae'r brenin euog yn cael ei dynnu'n llythrennol i'w liniau wrth ddeall fod ei nai yn gwybod manylion ei drosedd erchyll. Yno, wrth weddïo, a methu gweddïo am na all edifarhau am fod hynny'n golygu iddo ildio ysbail ei drosedd, fe welir craffter y bardd yn plymio cymhlethdod y meddwl arteithiol: O! my offence is rank, it smells to heaven; It hath the primal eldest curse upon't; A brother's murder! Pray can I not. Though inclination be as sharp as will; My stronger guilt defeats my strong intent. Y mae'r darn sy'n dilyn y geiriau hyn yn ddadansoddiad meistrolgar o natur euogrwydd. Y mae enghraifft arall sydd efallai'n fwy treiddgar hyd yn oed na'r rhai hyn, sef yn y ddrama, 'King Richard III'. Erbyn diwedd y ddrama y mae Rhisiart mewn cyflwr poenus, wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ac yn methu cael llonydd hyd yn oed yn ei gwsg. Y noswaith o flaen y frwydr derfynol, daw ysbrydion y gelynion a laddwyd ganddo (cyn-gyfeillion a ddefnyddiwyd ganddo i ennill ei orsedd), i'w boeni a'i gyhuddo yn ei freuddwydion. Mae'n deffro mewn braw, gan weiddi am gymorth, nes sylweddoli mai breuddwydio y mae, ac nad oes neb arall yno. Wedi iddo'i gyhuddo'i hun, mae'n cydnabod- My conscience hath a thousand separate tongues, And every tongue brings in a several tale, And every tale condemns me for a villain. Perjury, perjury, in the high'st degree; Murder, stern murder, in the dir'st degree Throng to the bar, crying all, 'Guilty! Guilty! (King Richard III. Act V. Scene 3.) Er iddo benderfynu dal ymlaen, gwyr Rhisiart ei fod wedi ei gondemnio. Y mae ei euogrwydd yn torri'n ddyfnach na'i wrthodiad o euogrwydd, a datguddir hyn ar derfyn ei apêl olaf i'w fyddin. March on, join bravely, let us to't pell-mell; If not to heaven, then hand in hand to hell! (Hamlet. Act III. Scene 3.) (ibid. Act V. Scene 3.)