Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad D. HYWEL E. ROBERTS (gol.), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982). (Cyhoeddwyd ar ran Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru) tt. 350. £ 11.95. DIAMAU mai T. Gwynn Jones oedd un o'r llenorion Cymraeg mwyaf toreithiog a fu erioed, ac y mae hanes llunio llyfryddiaeth o'i weithiau yn un diddorol. Lluniodd ef ei hun restrau yn Baner ac Amserau Cymru ym mis Rhagfyr 1925 a mis Hydref 1926. Yn 1937 cyhoeddodd Owen Williams restr helaeth yn adran 5 'Denbighshire Authors' yn The Bibliography of Denbighshire Part 3, gwaith a adargraffwyd yn 1938 mewn argraffiad cyfyngedig o 55 o gopïau yn dwyn y teitl A Bibliography of Thomas Gwynn Jones, together with a Biographical Note and Index. Yn 1956 cyhoeddwyd atodiad i lyfryddiaeth Owen Williams gan David Thomas yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych a chafwyd adargraffiad ar wahân ohono yr un flwyddyn Atodiad i "A Bibliography of Thomas Gwynn Jones" (Owen Williams, 1938). Ar ôl hynny bu'r diweddar Francis Wynn Jones, mab-yng-nghyfraith T. Gwynn Jones, yn ddygn iawn yn ychwanegu at y llyfryddiaeth, ac yn casglu gwybodaeth o bob math yn wir am ei hen athro, fel y gwn yn dda. Talodd Dr. David Jenkins deyrnged uchel iawn droeon i lafur y gwr annwyl hwnnw, cyflwynodd ei gofiant i T. Gwynn Jones i'w goffadwriaeth, a phriodol iawn oedd cyflwyno'r llyfryddiaeth hon hefyd i'w goffadwriaeth, er bod y geiriad braidd yn chwithig: 'Cyflwynir y gyfrol hon i F. Wynn Jones i gydnabod ei'gyfraniad iddi,' fel pe buasai'n dal yn fyw. Nac anghofier ychwaith gyfraniad Mr. Arthur ap Gwynn, mab T. Gwynn Jones, a gasglodd 550 o slipiau ar gyfer Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (golygyddion- Thomas Parry a Merfyn Morgan). Rhennir y llyfryddiaeth newydd hon fel hyn: Gweithiau Thomas Gwynn Jones (wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor); Gweithiau ar Thomas Gwynn Jones neu Amdano; Gweithiau mewn cyfryngau sain; deunydd llawysgrifol ac archifol; y Mynegai; Mynegai cronolegol i weithiau T. Gwynn Jones ac atodiadau sy'n cynnwys y ffugenwau a ddefnyddiodd a rhestr o rai cyfieithiadau heb fod o natur lenyddol. Cynnwys y llyfryddiaeth 4037 o eitemau. Y mae 3332 o weithiau ac o adargraffiadau o waith T. Gwynn Jones ei hun, a thros 700 o eitemau amdano ac o ddefnyddiau sain a llawysgrifol. I ddangos mor fawr fu'r dasg, ystyrier cyhoeddiadau T. Gwynn Jones am y flwyddyn 1907 yn unig pan oedd yn dibynnu'n llwyr ar ysgrifennu i'r wasg am gynhaliaeth ar ôl iddo ddychwelyd o'r Aifft lle bu'n ceisio adfer ei iechyd. Rhif yr eitemau yw 347. Rhif y cyfansoddiadau yw 242, h.y., y mae llawer o'r eitemau wedi eu cyhoeddi ddwywaith, e.e., yn Yr Herald Cymraeg ac yn Papur Pawb. Dyna'r cynnwys: dramâu 3; cyfieithiadau 6; ysgrifau 26; llyfrau a llenorion 41; cerddi 57; storïau 154. Dywedir yn rhagymadrodd y llyfryddiaeth na ellir honni fod y llyfryddiaeth hon, hyd yn oed, yn gwbl gyflawn gan mor doreithiog fu T. Gwynn Jones yn ystod ei oes. Y syndod yw ei bod mor gyflawn, gan fod ynddi gyfeiriadau at weithiau cynnar a diarffordd, a phrin, mi gredaf, yw'r bylchau. Modd bynnag, sylwais fod rhai eitemau yr wyf yn digwydd gwybod amdanynt heb eu cynnwys, ac er budd defnyddwyr y llyfryddiaeth yn hytrach nag i gystwyo'r golygydd diwyd a'i gydweithwyr, wele restr ohonynt, ynghyd â rhai cywiriadau. At yr eitemau o waith T. Gwynn Jones ei hun dylid ychwanegu'r rhain: 'Teulu Abram Wd' (erthygl) Yr Herald Cymraeg, 11 Mawrth 1957, t. 4. a Herald Môn, 12 Mawrth 1957, t. 4-5. 'Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg V. Beirdd Haner Cyntaf y ganrif.' Y Cyfaill (Utica N.Y.) Gorphenaf 1920 tt. 253-256. (Ysgrif ar D. R. Jones, Wisconsin yn bennaf yw hon ac fe'i codwyd yn ei chrynswth o Y Genedl Gymreig 4 Mai 1920 t. 3.) 'Stori'r Emynau. "Pêr fydd dy gofio Iesu da" Rhif 137' (sef y rhif yn Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, (1927) (llythyr gan T. Gwynn Jones ar hanes cyfansoddi'r cyfieithiad) Trysorfa'r Plant Ebrill 1938. Trafodir y cyfieithiad hwn hefyd