Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Hyd yn oed mewn rhywbeth bychan (Mewn deilen, neu law plentyn, neu seren yn wincian) Dof o hyd i gân sy'n werth ei chanu Os ydw i'n llygad-effro ac nid yn cysgu. Hyd yn oed mewn pethau chwerthinllyd (Gwrandewch! Mae'r plant yn chwerthin!) Mae yna rywbeth sy'n llenwi'r galon yn llawn i'r ymylon Ac yn creu breuddwydion hiraethlon. Peth bach ydi bywyd (Heb fod yn or-drist, nac ychwaith yn or-lawen), Dof o hyd 'nghaneuonymmywydbychandynion — Mae adar drycin yn cael eu deor ar y ddaear yn isel, Ac eto y maen' nhw yn esgyn mor uchel â'r haul. Bangor Cyfieithiad GWYN THOMAS AR Y MYNYDD Abertawe J. GWYN GRIFFITHS j CÂN FACH O LE PELL (Sef o Ynysoedd Gilbert) Dacw nhw yn hedfan! (Maddeued Myfyr Hefiri) Ar y mynydd gyda Duw O mor drist-gynhyrfus yw! Dwndwr pechod byd yn glir Yn cythryblu'r sanctaidd dir. Ar y mynydd gyda Duw, Dyma aflonydd fan i fyw. Gweld haul dyn yn cilio draw, Gweld y nosau hir gerllaw. Er cael dringo uwch y byd A chael cwmni Duw o hyd, Ysig deml y Cristion yw Gwirioneddau plaen ei Dduw.