Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwrthryfel yn erbyn Traddodiad BOB hyn a hyn fe gyfyd gwrthdystiad gan lenorion glas gyhyrog yn erbyn gorthrwm yr hyn a alwant yn "Draddodiad"; a gwiw o beth ambell waith yw pwyso a mesur faint o sylwedd a faint o naïfder sydd yn hyn o wrthdystiad croyw. Tybed a ymadawyd ambell waith ag adwaith llancaidd iachus er mwyn cydweithredu â grymusterau negyddol a ffiaidd a danseiliai fywyd, a hynny yn ddiarwybod? A gydweithredwyd â'r gormeswr, yn ddigon anfwriadol, wrth geisio torri cyt fel heriwr y status quo? Pan gyfeiria'n beirniaid llenyddol mwyaf syber yn fanodol iawn at "y traddodiad", meddwl y byddant am ddull gloyw o foli a gynhaliwyd gan ddosbarth breiniol o feirdd er amser Taliesin. Hynny hefyd a arddelai Prydydd y Moch, yntau, o'u blaen hwy, sef 'dull Taliesin'; neu'n well byth 'anrheg Taliesin' fel y'i galwai Guto'r Glyn ef. Ceisiais innau ambell waith (ar seiliau braidd yn Farcsaidd) ddadlau o blaid dull y rhyfel dosbarth o synied am ddau draddodiad cyfredol Cymraeg, y traddodiad gwerinol answyddogol yn ogystal â'r traddodiad uchelwrol sefydledig, gan beidio ag ymgyfyngu i sôn yn rhy ddifeddwl am un traddodiad o du'r dosbarth cyfalafol yn unig. Ond diau i ddyn, gyda gormes y blynyddoedd crablyd, lithro'n ôl lawer tro i'r rhigol o gyfeirio drachefn at y dreftadaeth uchelwrol fel pe na bai ond hi yn haeddu'r fannod yn yr ymadrodd "y Traddodiad". Dichon mai hawdd gweld y rheswm pam. Y pennaeth oedd prif wrthrych y mawl yn y traddodiad cyfyngedig hwn a gofnodwyd ar femrwn; ac yn ôl y jargon meddyliol Marcsaidd, swyddogaeth ei fardd llys (neu blas) oedd ceisio cynnal trefn gymdeithasol arbennig. A'r brydyddiaeth hon oedd yr union beth a gedwid i'r oesoedd a ddelai, fel pe na bai dim oll ond hi yn haeddu'r fath ofal ceidwadol. Ceid cyfuniad o amryw elfennau'n cyd-adeiladu'r hyn a ystyrid yn Draddodiad gennym: (1) Y testun: cynheiliad y llwyth, neu ei ddrych; (2) Themâu: e.e., cadwyn bod, etc. (3) Geirfa, cystrawennau (hyd yn oed arferion treiglo) "dethol"; (4) Ffurfiau­mydrau, cynganeddu, dulliau odli go soffistigedig a hyfforddedig. Ymunai'r rhain â'i gilydd er mwyn mynegi meddwl praffaf ein pobl; ac er mwyn meddwl o gwbl, bu'n rhaid wrth sefydlogrwydd. Fe ymlynai cynnyrch un genhedlaeth yn ffyddlon wrth gynnyrch y genhedlaeth o'i blaen, o gwmpas y cnewyllyn cydlynol hwn o elfennau, oherwydd bod y drefn gymdeithasol yn ceisio bod, ac yn llwyddo i fod mewn ffordd gymhleth, yn sefydlog. Ceid eciwmeniaeth rhwng y canrifoedd. Nid syn i'r Dr. R. Geraint Gruffydd ddweud am Saunders Lewis, '(mae'n) gweld holl hanes llenyddiaeth Gymraeg o Daliesin hyd heddiw yn undod crwn, yn gweld ein holl lenyddiaeth yn ymrithio o'i flaen yn un corff cyfan.' A chofio