Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Martin Luther (1483-1546) BUM canrif yn ôl, ar 10 Tachwedd 1483, ganed un o gewri mawr y byd crefyddol, Martin Luther. Ef, yn anad neb arall, oedd arloeswr ac arweinydd y Diwygiad Protestannaidd ac erys adleisiau'i brotest o hyd yn eglur a chyffrous yng ngwlad ei eni-er bod llawer ohoni o dan reolaeth llywodraeth atheistaidd bellach-ac mewn llawer gwlad arall ar draws y byd. Gan iddo fyw bywyd mor llawn a gweithgar, amhosibl fyddai ceisio cwmpasu'i gampau oll o fewn terfynau ysgrif fer. Yn un peth, ysgrifennodd fwy yn ystod ei oes nag y gallai'r mwyafrif o ddynion ei ddarllen yn ystod eu hoesau hwy. Cyhoeddodd ryw draethawd newydd o'i eiddo unwaith bob pythefnos ar gyfartaledd, a hynny heb sôn am ei holl bregethau a datganiadau, na'i ymddiddanion enwog â'i gyfeillion, na'i ddadleuon crefyddol a pholiticaidd diddiwedd â'i elynion. Ni cheisir gwneud mwy yn yr ysgrif hon, felly, na bwrw cipolwg brysiog ar arwyddocâd Luther a'i neges yn ei oes ei hun ac yn hanes crefydd oddi ar hynny. Ar 18 Ebrill 1521 digwyddodd un o'r gwrthdrawiadau mwyaf dramatig a thyngedfennol yn hanes Ewrop. Mewn neuadd orlawn yn ninas Worms yn yr Almaen y bu'r ymgynnull. Daethai gosgordd enfawr o wŷr mawr yr Ymerodraeth Almaenig ynghyd yng ngŵydd eu Hymherodr ieuanc, Charles V, a oedd nid yn unig yn Ymherodr yr Almaen ond hefyd yn deyrn Sbaen, yr Iseldiroedd, llawer o'r Eidal a thiroedd pell yng Nghanoldir a De America. Gwysiwyd yno i'r Gynhadledd yn Worms, i ateb holiadau y rheolwr urddasol hwn, wr a fuasai hyd at ychydig o flynyddoedd cyn hynny yn fynach ac athro digon di-nod yn Wittenberg-Martin Luther. Rhwng 1517 a 1520, fodd bynnag, lledaenasai'i ddysgeidiaeth a'i lyfrau trwy'r Almaen a gwledydd eraill mor gyflym a chyda'r fath ddylanwad ysgubol hyd nes i'r Ymherodr a'r Pab benderfynu bod yn rhaid symud yn ei erbyn i'w orfodi i wadu dilysrwydd ei syniadau a'u tynnu'n ôl. Galwesid ef ddinas Worms, felly, ar sail trwydded o ddiogelwch dan law'r Ymherodr; er bod llawer wedi atgoffa Luther o'r tebygrwydd rhwng ei sefyllfa ef ac eiddo John Huss pan aeth hwnnw ganrif yn gynt i Gyngor Constance gan ymddiried yng ngair Ymherodr arall a chael ei ddienyddio ganddo ar ôl iddo gyrraedd y lIe. Eithr ni fynnai Luther wrthod ymddangos yn Worms er mwyn ateb yn gyhoeddus a fynnai yn awr ddiarddel yr hyn aysgrifenasai. Ei ateb beiddgar oedd: Oni brofir i mi trwy dystiolaeth yr Ysgrythur a thrwy reswm eglur (gan nad wyf yn ymddiried mewn pab nac mewn cyngor yn unig, gan eu bod hwythau yn fynych wedi cyfeiliorni ac wedi gwrthddweud ei gilydd); oni'm gorchfygir trwy ddarnau ysgrythurol a ddyfynnwyd gennyf, ac oni chaethiwir fy nghydwybod gan Air Duw, ni allaf ac ni fynnaf ddiarddel dim, gan nad yw'n ddiogel nac yn onest gweithredu yn erbyn cydwybod. Cynorthwyed Duw fi. Amen. O'r braidd y mae'n rhaid dweud na pherswadiwyd Luther i dynnu'i eiriau'n ôl. Bellach, yr oedd yn amlwg i bawb ei fod wedi herio awdurdod yr