Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llythyrau Waldo a D.J. AR GYFER y Cwrdd Diwinyddol yn Undeb yr Annibynwyr ym Mhontardawe ym 1956 paratoais anerchiad ar yr Atgyfodiad dan y teitl, "Grym Ei Atgyfodiad Ef". Dywedodd yr Ysgrifennydd wrthyf eu bod wedi methu cael neb arall a'u bod yn gofyn i mi lenwi'r bwlch ac oherwydd hynny y cawn ddewis fy nhestun fy hun. Yr oeddwn yn awyddus i ddyfynnu rhai llinellau o eiddo Waldo Williams a chefais ei ganiatâd parod. Pan gyhoeddwyd yr anerchiad ar ffurf pamffled anfonais gopi i Waldo i ddatgan fy niolch iddo gan feddwl na chlywn ragor am y peth nes y byddwn, efallai, yn cyfarfod ag ef mewn rhyw gynhadledd neu'i gilydd a chael sgwrs yr adeg honno ond er syndod i mi dyma lythyr oddi wrtho, dyddiedig 17.10.1957. Cofiaf i ryw don o gywilydd ddyfod drosof wrth feddwl fod yr athrylith mawr wedi mynd i'r drafferth nid yn unig i ddarllen yr anerchiad ond i roi ei ymateb iddo. Pan brynais y gyfrol, Waldo-Teyrnged wedi ei golygu gan Mr. James Nicholas ym 1977 a gweld ynddi restr o weithiau a chyfansoddiadau Waldo gan Mr. B. G. Owens, chwiliais am lythyr Waldo a oedd yn fy meddiant a'r un pryd deuthum ar draws llythyrau D. J. Williams ac anfonais hwy i Mr. B. G. Owens i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Un o gymwynasau mawr Alwyn D. Rees oedd trefnu cynadleddau i ddarlithwyr ac aelodau Dosbarthiadau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth yn y pump a'r chwedegau a thrwy hynny gyflwyno pobl i'w gilydd ac yno y cefais y fraint o gyfarfod â Waldo a'i weld fel y mae wedi ei ddweud gan gyfeillion mynwesol iddo fel W. R. Evans a James Nicholas ac eraill yn ddifrif ac yn ddigrif, un funud yn ymdeimlo i'r byw â thrasiedi bywyd a'r funud nesaf yn grwt direidus yn peri i ni chwerthin nes ein bod yn ein dyblau. Un tro cawsom wrando arno ymhlith y darlithwyr yn trafod, ymhlith pethau eraill, y gwahaniaeth rhwng estheteg Platon ac Aristotlys-ychydig nodiadau o'i flaen ac yntau ond prin edrych arnynt a phawb wedi eu gwefreiddio gan y traethu cyflym a'r dadansoddi manwl-rhyw ddarn o sbectol yn ei law a'r ddau lygad byw yn fflam dân. Dro arall yn un o'r cynadleddau y bu ynddynt, sylwais arno yn mynd a dod yn ein plith ac ar hyd yr amser yn cofleidio'r Oxford Book of Welsh Verse, fel pe bai'n cario darn o drysor drud. I'r cynadleddau hyn galwai Alwyn D. Rees rai fel E. E. Evans-Prichard os Anthropoleg fyddai'r prif destun neu Kingsley Martin os y Wasg a fyddai dan sylw neu F. R. Leavis os Llenyddiaeth fyddai'r prif bwnc. Coffa da am F. R. Leavis ar ddiwrnod poeth o Awst yng Ngholeg St. Anthony yn Rhydychen yn dal copi o Anna Karennin yn ei law ac yn mynnu argraffu ar ein meddyliau mai hon oedd y nofel fwyaf erioed ac yn chwys domen yn gofyn i ni a fyddai waeth gennym pe byddai'n cael datod cwlwm ei dei ac ar y funud honno yn cael cyfle i ofyn a oeddym wedi darllen y nofel, a J. E. Davies, Ficer Llanrhystud ar y pryd, yn ei bryfocio drwy weiddi'n gellweirus, "Never heard of it" ac yn mynd a'i wynt o'i hwyliau am ennyd neu ddwy. Ac yr oedd y Ficer yn ddarllenwr mawr. Bu llu o ddarlithwyr eraill-Mr. Saunders Lewis, yr Athro J. R. Jones, Isaiah Berlin ar thema'r "Hedgehog and the Fox", Stuart Hampshire ar bwnc