Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymeriadau Theophrastus Rhagarweiniad GANWYD Theophrastus yn ynys Lesbos yn 372-371 neu 371-370 C.C. Pannwr ("fuller") oedd ei dad. Daeth Theophrastus yn ddiweddarach i Athen ac eistedd wrth draed Plato. Ond cyn marw Plato gadawodd Theophrastus ef ac aeth at Aristotlys, a adawodd iddo ei lyfrgell a'i lawysgrifau. Ef oedd olynydd Plato yn y Lyceum, lle bu am bymtheg mlynedd ar hugain hyd ei farw yn 287 C.C. Perchid ef gan Philip o Facedon a gwladweinwyr eraill. Yn 335 C.C. y daeth Theophrastus i Athen, ar ddyrchafiad Alexander yn frenin. Ymddeolodd Aristotlys yn 323, blwyddyn marw Alexander fab Philip, ac fel y crybwyllwyd, dilynodd Theophrastus ef fel pennaeth yr Ysgol Gylchynol. Dywedir i gynifer â dwy fil fynychu ei ddarlithiau. Ysgrifennodd y Cymeriadau yn 319 C.C. Yn 307 C.C. alltudiwyd ef, fel pob athronydd arall, ond dychwelodd yn 306 C.C. Bu farw tua 287 C.C., a daeth Athen gyfan i'w gynhebrwng yn yr Ardd Ue yr oedd wedi bod yn hyfforddi. Y mae ei ewyllys yn ddogfen hanesyddol bwysig iawn: oddi wrthi cawn syniad clir am yr Ardd-rhagflaenydd diamheuol y "Coleg" diweddarach. Er na chadwyd dim ond rhan fechan o waith Theophrastus, cadwyd cryn dipyn mwy na'r Cymeriadau, y cyfansoddiad y mae'n enwog amdano i'r byd diweddar. Serch hynny, nid yw'n anaddas fod ei enwogrwydd wedi ei seilio ar Y Cymeriadau, oblegid y maent hwy'n unigryw yn hanes llenyddiaeth. Fe'u dynwaredwyd droeon: ni ragorwyd arnynt erioed. Yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Cymeriadau a gyhoeddwyd yng nghyfres Penguin Books (Theophrastus, Characters; Menander, Plays and Fragments, ail argraffiad 1973) dywed Philip Vellacott: There exists a Preface which is certainly not by Theophrastus: The writer of this Preface says that the work is the fruit of his study of human character 'both good and bad'. All the surviving Characters clearly come under the heading 'bad'; so it seems probable that the writer of this Preface had before him not only our Characters but a set of 'good' ones as well. He goes on, with naïve banality, to say that he has written these pieces for the moral instruction of the younger generation. This certainly does not ring true. The characters have very little in them that could be called moral or ethical principle. They describe deviations from accepted standards of behaviour, some vicious, others comic; but they make no attempt to trace them to their causes. We may dismiss the suggestion that they formed a part of any serious work on ethics. One reasonable view is that they were written as an illustrative appendix to a work on the writing of Comedy. Gweler sylwadau Dr. Telfryn Pritchard, Y Traethodydd, Hydref 1982, 203 yml., 'Datblygiad Comedi Groeg a Rhufain a'i Dylanwad', a rhagymadrodd R. G. Usher, The Characters of Theophrastus (London, 1960), yn enwedig yr adran "The Origin and Nature of the Work". Llythyr Cyflwyniad Synnais lawer gwaith, o sylwi ar y peth, ac efallai na pheidiaf byth â synnu, paham-er i wlad Groeg fod oll o'r un hinsawdd, ac i bob Groegwr gael yr un