Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Hen Destament a'i Ddiwinyddiaeth heddiw "DYMUNWN pe gallwn ddweud wrth y gynulleidfa am beidio â thalu unrhyw sylw i nonsens amherthnasol y darlleniadau o'r Hen Destament, a llawer ohono nid yn unig wedi goroesi ei ddefnyddioldeb ond hefyd yn anfoesol." Dyna i chwi adwaith ffyrnig un a oedd yn bregethwr ac yn awdur poblogaidd iawn yn ei ddydd, Leslie Weatherhead-adwaith yn erbyn defnydd yr Eglwys Gristionogol o'r Hen Destament sydd, yn ddiau, yn cynrychioli safbwynt llawer yn ein cyfnod ni. Wrth gwrs, ers dyddiau cynnar yr Eglwys fe fu rhai a fethodd â gweld perthnasedd yr Hen Destament i'r Cristion ac a'i gwrthododd yn agored neu, efallai'n fwy aml, yn dawel ond yr un mor bendant. Lladmerydd amlycaf barn debyg i hyn yn yr Eglwys Fore oedd yr heretic Marcion.1 "Roedd gosod yr Hen Destament o'r neilltu yn yr ail ganrif, fel y gwnaeth Marcion, yn gamgymeriad yr oedd yr Eglwys yn iawn i'w wrthod. Roedd dal ato yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn ffawd na allai'r Diwygiad Protestannaidd ei osgoi ar yr adeg honno. Eithr roedd dal i'w gadw yn ddogfen ganonaidd oddi mewn i Brotestaniaeth wedi'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ganlyniad i barlys crefyddol ac egIwysig. "2 Cyhoeddodd Harnack y dyfarniad hwn yn gynharach yn y ganrif hon ac ychydig iawn o gydymdeimlad a ddengys â'r farn draddodiadol fod yr Hen Destament yn rhan annatod ac awdurdodedig o'r traddodiad Cristionogol. Yn nes at ein dyddiau ni dywedodd ysgolhaig mawr arall o'r Almaen, Rudolf Bultmann, wrth gydnabod fod yr Hen Destament yn ddatguddiad dwyfol ar gyfer Israel, na chredai y gellid ei ystyried yn ddatguddiad ar gyfer Cristionogion. Erys yn ddefnyddiol yn unig er mwyn ateb y cwestiwn pwysig i ladmerydd dirfodaeth: "Pa bosibilrwydd sylfaenol i ddyn ddeall ei fodolaeth ei hun a fynegir ynddo?"3 I Bultmann y mae'r cyflawniad yng Nghrist yn cynrychioli dechreuad hollol newydd sy'n diddymu'r paratoad yn yr Hen Destament fel ffordd iachawdwriaeth ond gan y rhai sy'n gwybod am y ffordd ffals at iachawdwriaeth a geir yn y Ddeddf." Rhybudd yw hanes y methiant o dan gyfraith Moses i'r Cristion rhag iddo lithro i'r un math o gamwedd. Cyfeiriwyd hyd yn hyn at farnau sy'n canolbwyntio ar yr awduron hynny sy'n gwahanu'r ddau Destament oddi wrth ei gilydd ac sydd hyd yn oed am ysgaru'r naill oddi wrth y llall. Yn sicr coledda Bultmann ei hun bwyslais Luther ar angen gwahaniaethu rhwng Deddf ac EfengyI-pwysIais, fe honnir, a â'n ôl at yr Apostol Paul ei hun. Ond fe ymddengys i mi fod casgliad felly'n gorsymleiddio safbwynt yr Apostol ar y mater (cymharer, e.e., Gal. 3:13 â 3:24)­safbwynt a alwyd "y pwnc athrawiaethol mwyaf dyrys yn ei ddiwinyddiaeth. Yn ddiau, cyfrannodd adweithiau fel y rhain i'r Hen Destament at yr awydd i lunio cyfrolau ar Ddiwinyddiaeth yr Hen Destament yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Erbyn hyn cafwyd toreth ohonynt ynghyd â llu o drafodaethau ar y pwnc o beth yw ei "Ddiwinyddiaeth" a sut i fynd ati i'w pharatoi a chwestiynau cyfatebol. Un o'r materion canolog, os nad yn wir y