Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad Elis Roberts, Weber (Gwasg Gee, Dinbych, 1982), tt. 84. Pris £ 1.90. SYLFAENWYD cymdeithaseg gyfoes ar waith tri athronydd cymdeithasol o'r 19eg ganrif, Karl Marx, Emile Durkheim a Max Weber. Pwrpas cyfres 'Y Meddwl Modern' yn cyflwyno gwaith meddylwyr arwyddocaol y cyfnod modern. Eisoes cafwyd cyfrol ar Marx gan Howard Williams a phed ychwanegid yn y dyfodol gyfrol ar Durkheim at yr un ar Marx ac at hon ar Weber, yna buasai gennym sylfaen gref y gellid seilio arni unrhyw gwrs ar theori gymdeithasegol. Hefyd buasai hyn yn rhoi arweiniad i ni i'n galluogi i droi at waith cymdeithasegwyr cyfoes megis Foucault, Althusser, Barthes a Lacan. Er bod cymdeithaseg o fewn rhai cylchoedd yn gyfystyr ã'r hyn a elwir yn 'eithafiaeth y chwith', mae i'r tri sylfaenydd sbectrwm eang o athroniaeth wleidyddol. Yn sicr buasai syniadau Durkheim ynglyn â rhyddid yr unigolyn a chyfraniad yr unigolyn i gymdeithas yn plesio y Blaid Geidwadol, tra buasai syniadau Weber yn cyd-fynd ã gweleidyddiaeth yr S.D.P. a'r rhan fwyaf o'r Blaid Lafur. Ni wn pwy heddiw fuasai yn ffafrio syniadau Marx heblaw am garfan fechan o Blaid Cymru-yn arferol tueddir i'w diystyru heb na'i darllen na'i deall. Yn arferol cyplysir gwaith Marx a Weber ar y naill law fel athroniaeth sydd yn pwysleisio gwrthdaro o fewn cymdeithas, a Durkheim ar y llaw arall fel un sy'n pwysleisio consensws cymdeithasol. Yn hyn o beth mae Ellis Roberts yn llwyddo i raddau i wrthgyferbynnu gwaith Marx a Weber a dangos y safle ganolog sydd o fewn y sbectrwm i waith Weber. Mae'n syndod mewn un ystyr na chafodd gwaith Weber fwy o sylw gan y deallusion Cymraeg eu hiaith, yn enwedig, fel y pwysleisia'r awdur, gan iddo wneud cyfraniad mor bwysig i'r astudiaeth o grefydd a chymdeithas. Er enghraifft, ymhlith yr holl gyfrolau a ysgrifennwyd ar ddiwygiadau, prin yw'r sõn am waith Weber er y buasai ei ogwydd o fudd er cydbwyso y duedd i ddadansoddi y ffenomenon o safbwynt crefyddol. Cyhoeddwyd 'Die Protestantische' Ethik und der Geist des Kapitalismus' (Yr Ethig Brotestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth) yn 1906. Sylfaen ei ddadl oedd fod i Brotestaniaeth werthoedd arbennig megis y gofyn ar yr unigolyn i'w brofi ei hun, parch at waith, buddsoddi a bod yn ddarbodus, y cyfryw bethau a fu yn allweddol bwysig i ddatblygiad cyfalafiaeth yn Ewrop. Mae'n amlwg fod y syniad hwn ar led yng nghanol y 19ed ganrif oherwydd defnyddiodd Michael D. Jones yr union ddadl yn 1858 gan ddadlau fod ymfudwyr Cymreig i'r U.D.A. yn colli eu hiaith, yna eu crefydd a thrwy hynny y gwerthoedd hynny a oedd yn allweddol bwysig er Uwyddo yn y byd materol. Ateb Michael D. Jones i hyn oedd sefydlu y Wladfa ym Mhatagonia. Rhoddir pwyslais ar yr astudiaeth hon gan Weber yn y llyfr tra canolbwyntir ar ffenomenon arall a oedd yn agos at galon Weber, sef biwrocratiaeth. Yn bersonol, hoffwn pe buasai'r awdur wedi trafod mwy ar syniadau Weber ynglyn â dosbarth ac anghyfartaledd a chyfraith. Cyfyngir y gwaith ar ddosbarth i ychydig o dudalennau, ond ar y llaw arall anodd yw trafod maes mor eang mewn llyfr o 20,000 o eiriau. Pe buaswn yn fodlon hollti blew buaswn yn dueddol i anghytuno ã rhai gosodiadau a hefyd ã'r duedd i fod yn ddisgrifiadol yn hytrach na beirniadol-yn amlwg dyn Weber yn hytrach na Marx neu Durkheim yw Mr. Roberts. Dylanwadodd Weber ar ein cymdeithas yn fwy nag y sylweddolir gan y rhan fwyaf ohonom. Er enghraifft, sylfaenir llawer o bolisÍau economaidd a chymdeithasol ar syniadau Weber ar anghyfartaledd yn hytrach nag ar ddosbarth yn nhermau grwpiau mewn gwrthdaro. Defnyddir y cysylltiad rhwng gyrfa a statws, sydd eto yn deillio o athroniaeth Weberaidd, yn y 'Registrar General's Classification of Occupations' Ue rhengir gyrfaoedd yn nhermau ei statws. Hefyd tuedd yr Undebau Llafur yw pwysleisio enillion yn nhermau anghyfartaledd yn hytrach nag yn nhermau dosbarth fel y buasai Marx yn dadlau. Yn wir mae athroniaeth Weber yn rhan ganolog o ideoleg y Wladwriaeth-efallai mai dyma paham y tueddir i ddiystyru'r chwith heb geisio deall ei hathroniaeth. Mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu'n glir a'i drefnu'n daclus. Trafodir rhai syniadau cyn ychwanegu at y syniadau hyn mewn modd mwy cymhleth drwy gyfeirio at waith Weber ei hun. Yn hyn o beth mae un rhan o'r llyfr yn arwain yn daclus at y nesaf. Mae'r Gymraeg yn raenus ac mae'n llyfr hawddeiddarllen. Bangor GLYN WILLIAMS