Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd Dracwla Dyna Gastell Bràn yn Romania yn y cwysau o goed yn cysgodi a'i arwydd o fur uwch hen ffordd fawr ar faes tymhorau a fu yn gledd arglwyddiaeth a drywanai siwrneiwyr â'i ddawn a'i nwyd a fai â dant iddyn nhw. Vlad oedd y diawl a'i flys- draig hyll, a'r enw DracwI- dysg iaith y wlad am y diawl ei hun a'i anadl­ y Vlad a'i frathiadau yn nhrac deddfau Dracon yn gwrs dial gwaed a'i gyrch ar Athen gynt. Oes ddiweddarach a droes y wedd ddiras, draig cil haul, yn Dracwla, ei dwf yn glogyn du, a hwnnw oedd yn gas am leinin oedd yn goch ei liw i gyd, yn lliw gwaed, a'r clod o ddarbod at ei ddant yn nhir y gwyll yn sugniadau o'r gwaed yng nghalon mab ac ym mron merch. Ie, bydd dydd yn diweddu â swpera ar wala o waed.