Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sisial y Sarff: ymryson oddi mewn i Forgan Llwyd ARFERAI sawl un o arlunwyr mwyaf athrylithgar cyfnod y Dadeni gynrîwys, ar dro, lun o'u hwynebau a'u cyrff eu hunain mewn cornel o ba ddarlun crefyddol bynnag yr oeddent wrthi'n ei gwblhau. Dyma'u ffordd o gyflwyno'u dawn, a'u henaid, i Dduw mewn gweithred o addoliad a chysegriad. Ac o'r herwydd mae'n siwr iddynt ystyried yn ddifrifol cyn llunio osgo a gwedd y ddelwedd ddewisol honno ohonynt eu hunain mewn paent. Mae'n ddiddorol sylwi mai mewn cornel o Lyfr y Tri Aderyn y dewisodd Morgan Llwyd gynnwys y darlun mwyaf teimladwy a dadlennol ohono ef ei hun. Gwaith uchelgeisiol a chyrhaeddgar yw'r Llyfr, ond gwaith ydyw hefyd sydd â naws goruwch-bersonol yn perthyn iddo. Hwyrach i Forgan Llwyd, a oedd yn seicolegydd wrth reddf, deimlo, wrth dynnu at derfyn y llyfr, ei bod yn hen bryd iddo gynnig gair cysurlon o brofiad personol, agos-atoch i'r darllenydd. Mae'n bur debyg yn ogystal ei fod am ei ddatgysylltu ei hun oddi wrth ddwyfoldeb y Golomen er mwyn dangos yn eglur mai pechadur gwylaidd oedd awdur y llyfr, er mai'r Ysbryd Glân oedd awdur y neges: "Canys yr wyf dan gariad Duw er fy mod dan gerydd pawb, Gwael yn y tir, llwyd gan môr, llawn o brofedigaethau, ond llawen mewn gobaith gogoniant nefol" (I,261-2). Ond beth bynnag am hynny mae naws ac ansawdd y paragraffau hyn o hanes unigolyn unigryw yn wrthgyferbyniad gwefreiddiol i'r cyffredinoli (pa mor ddisglair bynnag fo) am gyflwr Dyn sy'n brif thema'r gwaith ar ei hyd. Ac yn yr hyn a ddatgelir mor ddisymwth yn y gornel hon o'r llyfr fe gawn, yn fy marn i, gip ar wrthdaro mewnol, cip sy'n allweddol os ydym am ddeall dawn Morgan Llwyd. Er mwyn troi'r allwedd ac agor y clo rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am ei amheuon dirfawr ynglŷn â'i hawl i sgrifennu llyfrau. I Roedd yn fynghalon i ysgrifennu attat i'th rybuddio mewn cariad perffaith, Ond fe ddaeth y Sarph attafi, ac a geisiodd attal y pin ymma. Hi a boerodd ei chelwydd tuag attaf wrth sissial fel hyn. Hunan sy'n dy osod ar waith. Rwyti yn scrifennu yn rhy dywyll, ni fedr neb mo'th ddeall nes i'th niwl di godi, ac nid wyt ti yn dy ddeall dy hunan; Gãd yn llonydd, Mae digon o wybodaeth gan ddynion, bei gwnaent ar ei hôl. Mae gormod o lyfrau yn barod yn y byd Wele llyma fel y chwedleuodd y ddraig gyfrwys am fi, llyma fel y ceisiodd hi fynhwyllo i. Llyma fel y gwnaeth hi ei gwaethaf i rwystro'r meddwl, i selio fyngenau ac i attal fy llaw. A phe i cawse y Sarph i meddwl ni chawswn i nag ysgrifennu hyn na thithau nai ddarllain nai wrando. Ond fe ddaeth y Golomen ac am helpodd, ac am cynnorthwyodd gan ddywedyd. Dôs ymlaen. Rhaid i bôb gwas arfer ei dalent (er a ddywetto dynion) ac onide Gwae'r gwas. Nid Hunan sydd ymma yn dy gymmell, ond gwîr serch at Dduw, a chariad ffyddlon (yn nesaf) at y cymru (1,260). Fe dâl i ni droi o'r neilltu dros dro oddi wrth yr ymddiddan adnabyddus, cyhoeddus hwnnw rhwng yr Eryr, y Gigfran, a'r Golomen er mwyn craffu'n fanwl ar yr ymryson mewnol unigryw hwn rhwng y Golomen a'r Sarff. Oherwydd yma y mae Morgan Llwyd yn ymgodymu â'i reddf gynhenid i sgrifennu ac i droi'n awdur. Dylid cymryd ei euogrwydd a'i amheuaeth o