Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai bod yn naïf yw ceisio bod yn ddi-duedd? Y PETH cyntaf y carwn ei wneud yw diolch i swyddogion Cymdeithas Dafydd ap Gwilym am y gwahoddiad i draddodi'r ddarlith hon.* Gwnaethpwyd yn glir mai darlith fer oedd hi i fod, rhyw ddarlith o hanner awr ar y mwyaf. Y peth gorau felly fydd canolbwyntio ar un cwestiwn yn unig, gan obeithio y bydd y cwestiwn yn un pwysig i ni heddiw. Felly, wrth edrych ar rai tueddiadau crefyddol a gwleidyddol yng Nghymru heddiw, penderfynais droi at y cwestiwn, Ai bod yn naïf yw ceisio bod yn ddi-duedd? Awgrymwyd gan rai ei bod hi'n amlwg y dylid ateb y cwestiwn yn gadarnhaol. Os felly, byddai'r canlyniadau yn ddifrifol iawn i fywyd a gwaith unrhyw brifysgol. Dyma paham y penderfynais fod y cwestiwn yr wyf am ei drafod yn un sydd mor berthnasol i gymdeithas fel Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ym Mhrifysgol Rhydychen ag ydyw i aelodau Prifysgol Cymru, ac yn wir, i aelodau unrhyw brifysgol. Pan oeddwn yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym 'roedd hi'n arferiad i aelodau'r Gymdeithas ddarllen papurau yn y cyfarfodydd. Papurau oeddynt ar bob math o bynciau, papurau o safbwyntiau gwahanol ac o ddisgyblaethau gwahanol. Felly, y tu mewn i'r Gymdeithas cafwyd esiampl o'r amrywiaeth barn a diddordeb sydd yn nodweddiadol o fywyd ac o ymchwil prifysgol. Ond ym mha fodd y dylem ddisgrifio'r fath ymchwil? O gyfeiriadau crefyddol a gwleidyddol yng Nghymru heddiw ceir yr awgrym fod ymchwil ddi-duedd yn amhosibl. 'Rwyf am roi enwau i gynrychiolwyr y fath dueddiadau, sef, Y Calfinydd a'r Marcsydd. Maent am ddweud fod pawb yn dadlau o'i dueddiad ei hun. Nid oes y fath beth â dadl ddi-duedd. Os dywed rhywun ei fod yn dadlau felly, mae yng ngafael hunan-dwyll. Yn ymwybodol neu yn anymwybodol mae safbwynt arbennig gan bawb. Dyna'r honiad. Os derbynnir y fath safbwynt gellid dadlau y dylid seilio ymchwiliadau ar ragdybiaethau arbennig. Ni fyddai dim byd o'i le yn y syniad o brifysgol Galfinaidd neu brifysgol Farcsaidd. Fy honiad yn y ddarlith hon yw bod y fath ddadleuon yn ffrwyth dryswch meddyliol. Cyn troi at resymau sy'n dangos natur y fath ddryswch, carwn gyfeirio at ystyriaethau sydd, 'rwy'n cyfaddef, yn ddadl ad hominem. Wrth wadu'r posibilrwydd o ymchwil ddi-duedd mae modd creu dihangfa amddiffynnol i'r rheini sydd am osgoi dadlau dros eu safbwynt. Oherwydd fod gan bawb eu rhagdybiaethau nid oes modd beirniadu'r fath ragdybiaethau. Gall un weld popeth yn y byd o safbwynt Calfinaidd ac un arall weld popeth o safbwynt Marcsaidd. Os yw'r fath unigolion yn aelodau o brifysgol, mae'n bwysig nad ydynt yn casglu fod ymchwil ddi-duedd yn bosibl. Pe baent yn cyfaddef bod y fath ymchwil yn bosibl, byddai tyndra rhwng eu ffyddlondeb i ddamcaniaethau Calfinaidd neu ddamcaniaethau Marcsaidd ac ymchwil o'r fath. Byddai tyndra rhwng y fath ffyddlondeb ac aelodaeth o brifysgol. Wrth Darlith fer a draddodwyd i aelodau a chyn-aelodau Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn ystod Eisteddfod Abertawe, 1982.