Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pobol ar Fwrdd Llong I UN sydd â diddordeb mewn gwylio pawb 'does dim gwell ffordd o deithio nag ar long. Os ydych am astudio cymeriadau gochelwch awyrennau. Mae'r gymhariaeth bod fel sardins mewn tun yn ymestyn ymhellach na'r cywasgiad oddi mewn i'r awyren. Mae'r prosesu a ddigwydd ichi cyn byrddio'r awyren yn darostwng personoliaeth i lefel seiffer llonydd parod i fwyta bwyd plastig o amlenni plastig. Llawer gwell i'r gwyliwr pobl yw teithio ar fws a gwell fyth yw'r trên: Ond bychan yw posibiliadau'r ddau ddull o deithio wrth yr hyn sydd i'w gael ar fordaith, hyd yn oed un fer, os yw'r llong heb fod yn rhy fawr a lIe arni i symud o gwmpas. Ar long felly y mordwyais rhwng dwy o'r cannoedd o ynysoedd gwlad Groeg, sef yn ôl ac ymlaen rhwng Roddos a Simi. Dau ddec oedd arni, un yn agored a'r llall tano. Arnynt 'roedd tipyn o nwyddau a chymysgfa o ynyswyr a thwristiaid. O'r bobl ar y llong 'roedd un ar y dec agored a dynnai lygaid pawb ati. Gwraig dal tua'r hanner cant oed ydoedd, ei hwyneb cadarn, ei dwylo cryfion a'i thraed mawr yn unlliw â mawn heb lawn dduo. Gwisgai wisg laes flodeuog, y blodau'n fawr a glas ar gefndir coch neu'n goch ar gefndir glas. Ar ei phen 'roedd hulyn gwyn o ddeunydd ysgafn. Ac arni 'roedd aur i'w weld ymhobman, ar ei bysedd, ei fferau, ei garddyrnau ac yn ei dannedd. Ac ambell fodrwy arian yn ogystal. Yn fuan wedi gadael tir ymestynnodd ar ei hochr ar hyd y sedd, bwriodd ymaith ei sandalau, gorchuddiodd ei hwyneb â'r benwisg, caeodd ei llygaid a chysgu. Er ei bod yn ddisymud daliai pobl i syllu ar y twmpath o goch a glas, o aur a gwynder a düwch. Pwy, beth oedd hi? 'Roedd ganddi fusnes yn sicr canys hi oedd piau'r dwsinau o glustogau, pob un yn ei sach blastig, a ddadlwythwyd o'r llong i'r cei yn Simi. (Gwelais ddyn yn ddiweddarach yn ceisio'u gwerthu i'r ynyswyr.) Petasai hon yr un a welsai y bardd T. H. Parry-Williams ar y cei yn Rio, ni allasai fod wedi dyfalu unrhyw hanes na dyfodol iddi nad oedd yn oruchafiaeth a llwyddiannus. Ar y dec isaf cyfarchwyd fi mewn Saesneg araf a phrin yn gwrtais gan wr talsyth. 'Roedd gwydryn yn ei law. Deellais mai twrist o Ffinland ydoedd ac iddo fod yn blismon cyn ymddeol. Daeth ei wraig ato; fe'm cyflwynodd iddi gan egluro na wyddai hi Saesneg ond ei bod yn siarad Almaeneg. Ond eisoes, am ddeg o'r gloch y bore, 'roedd hi tu hwnt i ddeall unrhyw iaith. 'Roedd tarddiad dyfnach i barodrwydd y gogleddwr hwn i siarad a'i gyd- fordwywyr na'r awydd i ymarfer ei ychydig Saesneg. Tra oedd yn ymddiddan syllai'n ddwys arnaf gyda'i lygaid glas, ond nid y glas a briodolir i blismyn craff. Ai dychmygu'r oeddwn fy mod yn canfod rhithyn o leithder tros y glesni a fynegai nesed ydoedd dagrau hallt. Ni chefais gyfle i syllu'n fanylach arno canys am weddill y fordaith 'roedd yn cysgu yn ei gwman a'i ben ar fwrdd yng nghantîn y llong. Tra oeddwn yn siarad â'r cyn-blismon daeth mam ifanc ato a phlentyn teirblwydd yn ei llaw. Ymddangosai'n wrthgyferbyniad llwyr i'r ddynes fawr