Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymeriadau Theophrastus (Parhad) XVII CWERYLGARWCH CWYNO gormodol ar ei fyd yw grwgnach neu gwerylgarwch, a dyn yw'r cwerylgar a ddywaid wrth yr un a ddug iddo gyfran oddi wrth gyfaill iddo, "Rhy eiddigus oeddit i mi gael dim o'th gawl na'th gwrw, onidê gwahoddasit fi i ginio." A phan fo'i feistres yn ei gusanu, dyma'i sylw, "Y mae'n syndod i mi os wyt yn fy nghusanu mor angerddol o'r galon." Digia wrth Zeus nid am nad enfyn law, eithr am iddo fod cyhyd cyn ei ddanfon. Ac ar ddarganfod ohono bwrs ar y ffordd, yr hyn a ddywaid yw, "Ie, ond ni ddeuthum erioed o hyd i drysor." Wedi iddo brynu'n rhad gaethwas gyda llawer o daerineb oddi wrth y gwerthwr, "Tybed", meddai, "a yw'r fargen hon yn un ddilys?" A phan dorrir iddo'r newydd da bod mab wedi ei eni iddo, dyma'n ateb, "Os ychwanegi fy mod hefyd wedi colli hanner fy eiddo, byddi'n dweud y gwir." Ar ôl iddo ennill mewn cyngaws, gan gael yr holl bleidleisiau, y mae'n sicr o feio ysgrifennwr ei lith am adael allan lawer o'i ddadleuon. Ac os bydd wedi derbyn cyfraniad gan ei gyfeillion, ac i rywun ohonynt ddweud, "Gelli godi dy galon yrwan," "Sut hynny?" yw ei gwestiwn, "Pan yw'n rhaid imi dalu'n ôl i bob un ei gyfran o arian ac ar wahân i hynny fod yn nyled fy noddwyr?" XVIII DRWGDYBIAETH Eglur yw mai drwgdybio pawb yr ydys yma, ac mai'r drwgdybus yw'r dyn a anfono un gwas i'r farchnad ac yna un arall i gael gwybod pa brisiau a dalodd. Cludo'i arian ei hun a wna, gan eistedd droeon ar ben pob milltir i'w cyfrif. Yn y gwely hola'i wraig a yw'r gist o dan glo, y cwpwrdd wedi ei selio a drws y tŷ wedi ei folltio, ac er iddi ddweud eu bod felly, cyfyd ei hunan heb ddim amdano ac yn droednoeth o'r blancedi, goleuo cannwyll a rhedeg o amgylch yn y tŷ i edrych, a hyd yn oed wedyn ond prin gysgu. Gerbron tystion yr hawlia ei logau gan ei ddyledwyr, rhag iddynt mewn unrhyw fodd wadu'r peth. Â â'i fantell i'w glanhau nid i'r lle gorau, ond i'r lle y rhydd y pannwr y sicrwydd gorau iddo. A phan ddelo rhywun i ofyn am lestri diodydd, ei wrthod a wna os yn bosibl; ond os digwydd iddo fod yn gyfaill neu'n berthynas, fe rydd eu benthyg, ond nid heb bron eu pwyso a'u profi, onid yn wir fynnu ernes amdanynt cyn gwneud hynny. Pan fydd ei was gydag ef, caiff hwnnw orchymyn i'w ragflaenu yn hytrach na'i ddilyn, er mwyn i'r meistr fod yn sicr na fydd iddo ddianc ar y ffordd. Ac wrth unrhyw rai a brynodd ganddo ac a ddywaid, "Cyfrifwch y swm a rhoddwch ef i lawr yn erbyn fy enw: nid oes gennyf amser i yrru am yr arian ar hyn o bryd," etyb, "Na faliwch; arhosaf wrthych nes y medrwch." XIX FFIEIDD-DRA Esgeulustod o'r corff yw ffieidd-dra, sy'n achosi gofid i eraill, ac un yw'r dyn hwn a gerdda oddi amgylch yn dioddef oddi wrth y gwahanglwyf ac yn grachlyd, a'i ewinedd yn hir, gan ddweud mai wedi etifeddu'r pethau hyn y