Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau MARIAN HENRY JONES, Hanes Ewrop, 1815-1871. Gwasg Prifysgol Cymru. 1982. xvii + 355tt. £ 9.95. CYFADDEFA pawb sydd â gronyn o ddiddordeb mewn dysgu Hanes trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion a'n colegau mai un o'r canllawiau anhepgor i hyrwyddo ffordd y disgyblion yw cyfres o werslyfrau safonol yn Gymraeg ar hanes Ewrop. Nid ar chwarae bach y cyflenwir y galw. Rhaid wrth gyfuniad neilltuol o ddoniau a rhinweddau er mwyn cyflawni'r fath orchwyl: hanesydd sy'n eang ei wybodaeth ac a ddarllenodd yn fanwl a thrwyadl ymhlith llyfrau yr awdurdodau hen a newydd mewn sawl iaith; un a all gyflwyno'i waith yn glir a threfnus; ac un a fedr y Gymraeg yn sicr a rhugl. Prin ddigon yw'r haneswyr yn ein mysg a fedda'r cymwysterau hyn oll, ond y mae Mrs. Marian Henry Jones ymhlith y cwmni dethol hwnnw. Pleser amheuthun yw cael croesawu'n frwd ei chyfrol gampus-yr un gyntaf o ddwy sydd ganddi yn yr arfaeth-ar hanes Ewrop rhwng 1815 a 1871. Dywed Mrs. Jones fod cynllun y llyfr yn fwy hen ffasiwn a chyfensiynol nag y dymunasai hi iddo fod. Ond cyfnod cymhleth ac anodd ei ddisgrifio oedd y ganrif ddiwethaf ac un yn llawn o ddigwyddiadau a datblygiadau newydd a dyrys, rhai ohonynt yn dal o hyd yn ddadleuol iawn eu harwyddocâd. Oes ydoedd a welodd gynnydd digyffelyb ym mhoblogaeth Ewrop, datblygiad diwydiannau newydd a dinasoedd a threfi enfawr, chwyldroad mewn trafnidiaeth gyda'r llongau ager a'r rheilffyrdd, twf dosbarthiadau cymdeithasol newydd ac uchelgeisiol, uno cenhedloedd mawr a mân trwy ryfel a diplomyddiaeth, a blodeuo pob math o syniadau a dyheadau megis rhyddfrydiaeth, cenedlaetholdeb a sosialaeth. Anodd iawn ydyw i'r newyddian dorri llwybr iddo'i hun trwy'r fath goedwig dew a dyrys heb fod ganddo wrth law dywysydd profiadol i roi arweiniad cadarn a chytbwys iddo. Dyna'r union gymwynas a gyflawnwyd iddo gan Mrs. Jones yn y llyfr rhagorol hwn. Rhannodd yr awdures ei llyfr yn bum rhan: Ewrop yn y flwyddyn 1815; yr adferiad, 1815-1830; 'codi'r tymheredd ysbrydol', 1830-1848; 'cyfnod y chwyldroadau', 1848-1851; a 'thua goruchwyliaeth newydd', 1815-1871. Oddi mewn i'r dosbarthiadau hyn y mae'r penodau yn daclus a chymen, a bu'n ofalus hefyd i ddosrannu pob un o'i phenodau'n is-adrannau cryno a hwylus er mwyn gwneud y deunyddiau'n fwy hydrin a haws eu deall. Hawdd, felly, yw dilyn cwrs a rhediad y llyfr-ystyriaeth bwysig i'r athrawon a'u disgyblion a fydd yn debyg o'i ddefnyddio'n bennaf. Yr un mor dderbyniol iddynt fydd y rhestr llyfrau a argymhellir ar ddiwedd pob pennod; teitlau a ddengys, gyda llaw, ba mor drwyadl a diwyd fu'r awdures wrth bori ym meysydd yr awdurdodau diweddaraf. Fel y gwedda i un a fu'n astudio wrth draed ysgolheigion mor ddisglair yn y maes â R.W. Seton-Watson a W. N. Medlicott, un o gryfderau amlycaf Mrs. Jones yw ei gafael sicr ar hanes diplomyddol y ganrif ddiwethaf. Cymhwyster angenrheidiol yw hwn, gan fod crefft a thechneg diplomyddiaeth wedi'u perffeithio mor ddirfawr ymhob gwlad yn Ewrop yn ystod y cyfnod ac wedi chwarae rhan mor allweddol yn nhynged y gwledydd. Rhaid wrth feistrolaeth sicr ar droeon dyrys a chyfrinachol dulliau'r gwladweinwyr o ymddwyn tuag at ei gilydd, yn enwedig o gofio bod rhai o feistri pennaf crefft gyfrwys a chaboledig diplomyddiaeth ar waith yn llywio helyntion Ewrop. Pob clod i'r awdures am ddatgelu inni mewn ffordd mor olau a dealladwy rai o ddirgel ffyrdd pencampwyr y gelfyddyd honno megis Metternich, Bismarck, Cavour ac eraill tebyg iddynt. Deallodd yn iawn nad doeth yw priodoli gormod o ddoethineb na rhagwelediad iddynt, ond mai'r un mor ffðl fyddai gwrthod â chydnabod eu galluoedd diamheuol i ddylanwadu'n rymus ar gydberthynas y gwledydd â'i gilydd. Manwl ac ystyriol hefyd yw ei hymdriniaeth â rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb yn y cyfnod hwn. Rhinwedd ddigon prin ymhlith haneswyr y wlad hon-Saeson a Chymry fel ei gilydd-ydyw gwybodaeth drylwyr o hanes rhai o genhedloedd llai Canol a Dwyrain Ewrop. Hoffais yn fawr rai o sylwadau craff a miniog Mrs. Jones ar y dylanwad grymus a gafodd twf gwladgarwch a chenedlaetholdeb ar y rhain. Y mae hi'n arbennig o dda wrth drafod y gatrawd o fân genhedloedd a'u diwylliannau a gafwyd yn hen ymherodraeth Awstria-Hwngari.