Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gellir ei llongyfarch yn ogystal am ei phenodau ar rymusterau meddyliol yr oes. Mae ganddi bennod neilltuol o dda (pennod xxi) lIe mae'n trafod yn gynnil i'w ryfeddu o fewn yr un bennod ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a'u heffaith ar feddwl y cyfnod, dylanwad astudio hanes, y ddadl rhwng crefydd a syniadau cyfoes, twf cymdeithaseg, a'r mathau gwahanol ar sosialaeth, cenedlaetholdeb, a phesimistiaeth. Er bod y sylwadau ar bob un o'r rhain o reidrwydd yn gryno, taflant gryn oleuni ar hinsawdd gyffredinol meddwl y ganrif ddiwethaf yn ogystal ag ar y tueddiadau unigol a nodwyd. Dylent fod yn agoriad llygaid i rai o'r darllenwyr ifainc i'w hysbarduno i ddarllen ymhellach i'r cyfeiriadau hyn drostynt eu hunain. Ni f yddai r awdures fyth yn cymryd arni fod y gair olaf wedi ei ddweud ar unrhyw bwnc o bwys. Yn wir, un o nodweddion canmoladwy y llyfr ydyw ei fod yn rhoi inni ddarlun teg iawn o'r gwahaniaethau barn ymhlith haneswyr ar rai o'r unigolion a'u mudiadau pwysicaf. Difyr iawn yw is-adrannau megis 'Metternich a'r haneswyr', 'Palmerston a'r haneswyr' ac ati, Ue y gosodir o'n blaen yn ddiduedd a chymesur ddadleuon yr ysgolheigion â'i gilydd parthed amcanion, dulliau a champ yr enwogion hyn. O'r braidd y gellir dweud, fodd bynnag, fod y llyfr mor afaelgar nac mor safonol ar agweddau eraill ar yr hanes. Gwell imi gyfaddef mai siomedig i ryw raddau y cefais ef ar hanes economaidd a chymdeithasol. Nid am fod Mrs. Jones wedi anwybyddu'r pynciau hyn yn llwyr; yn wir mae ganddi benodau gwerthfawr arnynt ac ymddengys i mi ei bod yn deall yn iawn eu pwysigrwydd. Ond ni'm hargyhoeddwyd ei bod hi wedi rhoi'r lIe a'r sylw iddynt a haeddant. Efallai mai dyma oedd yn ei meddwl wrth ddweud ei bod yn ofni fod ei llyfr ar un olwg braidd yn hen ffasiwn a chyfensiynol. Ac eto, anodd yw ei beirniadu am hyn gan fod cymaint o ddeunydd arall i'w drafod a'i bod hi wedi ymdrin ag ef yn hynod dda. Mawr obeithiaf y bydd cryn dipyn o ddarllen ar y llyfr hwn. 'Rwy'n berffaith siwr y bydd yn drysor o'r gwerthfawrocaf i fyfyrwyr Hanes yn yr ysgolion a'r colegau, ond carwn weld llawer o leygwyr deallus sydd yn hiraethu am weld pwnc fel Hanes yn cael ei drafod yn Gymraeg yn ddeallus ac yn ddarllenadwy yn mynd ati i bori ynddo yn ogystal. GLANMOR WILLIAMS EMLYN G. JENKINS, Cyfoeth ei Ras (T9 John Penry, 1982), tt. 87, £ 2.00. BYDD llawer yn falch fod un o bregethwyr mwyaf nodedig ein cyfnod ni wedi cyhoeddi cyfrol o'i bregethau er mwyn yn un peth gael detholiad o'r cenadwrïau a draethwyd o'r pulpudau mewn ffurf fwy parhaol. O gofio fod Emlyn Glasnant Jenkins wedi bod yn rheng flaenaf pregethwyr y deugain mlynedd diwethaf syndod oedd darllen yn adolygiad W. J. Thomas ar y gyfrol yn Y Goleuad na chlywodd y cyfaill o Gaernarfon mohono yn pregethu. Y mae hynny yn dwyn ar gof imi gyfaddefiad Dewi Eirug Davies yn Porfeydd wrth adolygu cyfrol o bregethau Cwyfan Hughes, Iaith Amlwch, nad oedd erioed wedi clywed am y pregethwr mawr o Fôn cyn gweld y gyfrol. Y mae'n amlwg fod mawr angen torri dros y tresi enwadol! Byddai'n hawdd i un a bregethodd gymaint ymfodloni ar gasglu'r hen ffefrynnau i'r gyfrol ond y mae'n dweud llawer am FJtyn Jenkins iddo fynd ati i gyfansoddi o'r newydd. Ac yn oes y bregeth fer y mae'n arwyddocaol mai am 'bregethau byr' y gofynnodd Pwyllgor Llên yr Annibynwyr. Gellid dadlau felly mai crynodeb a geir ar dro gan na ellid datblygu thema'n llawn o fewn cwmpas mor gyfyng. Ond cyfyng neu beidio llwyddodd y pregethwr i gyflwyno'i neges yn effeithiol yn ddi-feth. Bydd ambell un yn gofyn i ni bregethwyr sut y cawn ein pregethau. Wel, y mae'n ddisgyblaeth galed ac yn llafur cyson sy'n costio'n ddrud yn fynych. Wrth droi dalennau'r gyfrol hon fe welwch fod Emlyn Jenkins wedi'i yrru i fyfyrio ambell dro ar ôl sylwi ar y byd o'i gwmpas, fel yn y drydedd bregeth ar hugain. Fe ddylai sylwi ar y byd fod yn rhan o ddisgyblaeth y pregethwr a chofiaf glywed Gwilym Bowyer yn dweud mewn pregeth y dylem ddarllen y Beibl yng ngoleuni'r papur newydd a'r papur yng ngoleuni'r Beibl. Pennawd y drydedd bregeth ar hugain yw Yr M4, gyda'r testun wedi'i gymryd o broffwydoliaeth Eseia 35: 8— "Ynâ y bydd prif-ffordd a ffordd a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant". "Daeth y cymal yma i gof", meddai Emlyn Jenkins, "wrth deithio o Gaerdydd i Lundain ar yr M4 oedd newydd ei hagor. 'Roedd yr arwyddion arni mor glir a'r cyfeiriadau mor bendant fel mai anodd