Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oedd colli'r ffordd. Wrth gwrs, ped esgeulusid y cyfarwyddiadau byddai'r tâl yn ddrud gan na ellid ail-ymuno â'r ffordd am filltiroedd lawer! Fe dâl yr afradlon yn ddrud o hyd am ei hunan-dyb. Yn aml nid oes ddychwel ond heibio i galedi'r cibau ac ingoedd y wlad bell". Y mae'n mynd rhagddo i gyflwyno'i neges dan bedwar pen a hoffais y sylw hwn o dan y pen cyntaf: "Gymaint o'r hen ffordd oedd yn y newydd. Ni fynnai'r cynllunydd osgoi defnyddio'r hen lwybr. Rhaid oedd unioni a gwastatáu, ond derbynnid trywydd yr hen, a'r wyneb, lle y byddai modd". Y mae'n perthnasu'r sylw â gair y Meistr: "Ni ddeuthum i dorri y gyfraith a'r proffwydi, ond i gyflawni". Yn y bregeth PERSON YW'N PREGETH, sy'n seiliedig ar 2 Corinthiaid 4: 5 y mae gan Emlyn Jenkins baragraff diddorol o dan yr ail ben-Cenadwri Benodedig: "Nid darlithio yw pregethu. Gwneud pwynt a wneir mewn darlith a cheisio'i egluro. Cyhoeddi Person a wneir mewn pregeth, ac Ef ei Hun drwy'i Ysbryd Glân, sy'n argyhoeddi. Dyna paham na ellir 'trafod' pregeth. Bydd pregethu gwir yn dwyn dynion wyneb yn wyneb â'r Arglwydd Iesu, ac ni ellir ond ei dderbyn neu'i wrthod Ef. Y Crist sy'n pennu'n tynged. Cyhoeddi Crist yw'n pregeth,- cyhoeddiad sy'n arwain at addoliad, neu wrthodiad. Mae Iesu Grist naill ai yn Arglwydd neu yn anathema i ni." Un o'r goreuon gennyf o blith y pregethau yw Y GARREG ATEB Ue myfyrir ar eiriau Epistol Cyntaf Ioan, pennod 4, adnod 19: "Yr ydym ni yn ei garu Ef am iddo Ef yn gyntaf ein caru ni". Y mae'n cychwyn unwaith eto mewn ffordd drawiadol: "Adroddir hanesyn am weinidog yn plagio aelod ffyddlon o'i gynulleidfa, gwraig dduwiol ddi-briod, drwy ddweud, 'Ac ych chi'n tystio Miss-eich bod mewn cariad â'r Arglwydd Iesu? 'Wdw'n wir', meddai hithau, 'yn ei garu'n fawr'. 'Dach chi ddim yn meddwl fod bai arnoch chi i ddweud eich bod mewn cariad ag Ef?' 'Wel', atebodd hithau'n ffraeth, 'os oes bai yn rhywle, arno Fe mae'r bai,— Fe ddechreuodd!' Ie'n wir- am iddo Ef yn gyntafein caru ni". Yn ei Gyflwyniad i'r gyfrol Ffolineb Pregethu, y mae'r golygydd Dewi Eirug Davies yn cyfeirio at D. Miall Edwards a fenthycodd y wasg i drosglwyddo'i genadwri pan lesteiriwyd ef rhag pregethu gan afiechyd blin ac a ddywedodd "bod yr eneiniad a berthyn i bregeth mewn print yn dra gwahanol i'r hyn a brofir mewn oedfa o bersonau byw". Fel pe i gydbwyso â sylwadau Miall Edwards y mae Dewi Eirug yn ychwanegu brawddeg sy'n cyfiawnhau cyhoeddi cyfrolau o bregethau: "Y mae'r honiad fod y bregeth a argreffir o reidrwydd yn brinnach a thlotach o ran eneiniad na'r un a draddodir o bulpud yn gwadu grym a dylanwad yr Ysbryd Glân sydd yn chwythu Ue y mynno, mewn print a phulpud, ac yn rymus ei effeithiau mewn llawer dull, modd a chyfrwng". Ni wn a yw Emlyn Jenkins yn gyfarwydd â brawddeg gofiadwy Emrys Ap Iwan ar ddiwedd ei anerchiad ar Gymraeg y Pregethwr i fyfyrwyr y Bala ym 1893: "Gwnewch eich pregethau'n gyfryw y bydd yn wiw gan ddynion eu darllen ymhen oesoedd ar ôl eich marw; canys wrth ymgyfaddasu i'r oesau a ddêl, chwi a'ch gwnewch eich hunain yn bregethwyr cymhwysach i'ch oes eich hun". Llwyddodd awdur y pregethau yma i gyflawni'r hyn oedd ym meddwl Emrys Ap Iwan a bydd llu o ddarllenwyr yn diolch am Cyfoeth ei Ras. Llanuwchllyn W. J. EDWARDS CYRIL G. WILLIAMS, TonguesOfTheSpirit. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd. £ 15.95. O HOLL eglwysi Cred, yr eglwysi Pentecostaidd a wnaeth fwyaf o gynnydd yn ystod ein canrif ni, a bu eu twf mor ddramatig o gyflym nes i rywun honni fod y mudiad i'w gymharu mewn pwysigrwydd â sefydlu'r Eglwys Fore ac â'r Diwygiad Protestannaidd. Ac ar hyn o bryd, un o'r pethau rhyfeddaf yn y byd Cristnogol ydi cynnydd y Mudiad Carismataidd y tu mewn i'r enwadau traddodiadol, mudiad sydd, fel y Pentecostiaid, yn rhoi pwys mawr ar yr Ysbryd Glân ac ar ei ddoniau amrywiol. Un o'r doniau hyn yw llefaru â thafodau, a dewisodd Cyril G. Williams, yn y gyfrol gynhwysfawr ac ysgolheigaidd hon, ganolbwyntio'i sylw ar y ddawn hon. Yr unig wybodaeth am y ddawn sydd gan y rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yw'r hyn a ddarllenwyd gennym amdani yn y Testament Newydd ac a welwyd gennym efallai ar raglen deledu. Efallai fod amheuon yn codi yn ein meddyliau pan honnir y gall y llefaru annealladwy hwn