Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dod ar ddiwedd y penodau. Braidd yn flinderus yw gorfod troi'n barhaus nifer o dudalennau er mwyn dod o hyd i'r nodyn angenrheidiol. Yr oedd hi dipyn yn haws pan ymddangosai'r nodiadau ar waelod y tudalen, ond hyd yn oed wedyn yr oedd rhai anawsterau: chwilio'n hir at ba lyfr yr oedd yr 'op. cit.' bondigrybwyll yn cyfeirio, er enghraifft. Cwyn yw hon, wrth gwrs, yn erbyn llyfrau a chylchgronau'n gyffredinol, a buaswn i'n bersonol yn barod i ymuno mewn ymgyrch yn erbyn defnyddio nodiadau o gwbl ond mewn traethodau ymchwil! Ond ar ddiwedd yr adolygiad hwn rhaid talu diolch a theyrnged ddiffuant i Cyril Williams am ei gyfrol gynhwysfawr sy'n batrwm o drafod gofalus, goddefgar a rhyddfrydig. Dyma ddyfyniad sy'n crynhoi ei safbwynt ac yn cadarnhau mor deg yw ei agwedd: For my own part, while I cannot regard glossolalia as essential for all members of the Christian community, nevertheless when it promotes greater love and strengthens moral fibre I cannot dismiss it as the gibberish of eccentrics. I am much more prepared to see in it a channel of divine agency for the refreshing of drooping spirits and the revival of the believing community I venture to suggest that both the glossolalic and his critic need to be open to each other. The critic would do well to reflect upon the rich diversity of revelatory media. As for the glossolalic he, too, needs to be reminded that the mind is also a gift from God. In our discourse with the divine, there is an interplay of the rational and the non-rational. Yr wyf yn sicr y bydd cyfrol Cyril Williams yn gymorth mawr i'r ddwy ochr ddod i ddeall ei gilydd yn well. HARRI WILLIAMS Er mawr golled i Lenyddiaeth Cymru ac yn arbennig i'r TRAETHODYDD bu farw'r Parch. Athro Harri Williams ar ddechrau 1983 a chyhoeddwyd teyrnged gan y Golygydd iddo yn Y GOLEUAD. Bwriedir defnyddio cyhoeddi ei nofel olaf yn achlysur teyrnged iddo yn Y TRAETHODYDD.