Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd CERDD O BROFFWYDOLIAETH GAN W. B. YEATS Cyfieithiad gan Gwyn Thomas YR AIL DDYFODIAD Gan droelli a throelli a lledu ei rod Ni all yr hebog glywed yr hebogydd; Mae pethau yn ymddatod; ac ni all y canol ymgynnal; Gollyngwyd ar y byd lwyr anhrefn, Gollyngwyd y llanw gwaed-dywyll, ac ym mhobman Mae defod diniweidrwydd wedi'i boddi; Mae'r gorau'n ddiargyhoedd, tra bo'r gwaethaf Yn llawn o ddifrifwch angerddol. Rhaid bod rhyw ddatguddiad wrth law; Rhaid bod yr Ail Ddyfodiad wrth law. Yr Ail Ddyfodiad! Prin yr ynganwyd y geiriau Pan ddaw delwedd enfawr allan o Spiritus Mundi I gythryblu 'ngolygon: yn rhywle yn nhywod y diffeithwch Y mae delw ac iddi gorff llew a gwedd gwr, Edrychiad gwag a didrugaredd fel yr haul, Yn symud ei chluniau araf, tra ar bob llaw Gwibia cysgodion adar cynddeiriog y diffeithwch. Daw eto y tywyllwch; ond yn awr fe wn I ugain canrif o gwsg carreg Gael eu cythruddo'n hunllef gan grud yn siglo A pha fwystfil garw, wedi dyfod o'r diwedd ei bryd, Sy'n ymlusgo tua Bethlehem i'w grud? O lythyr gan W. B. Yeats at Dorothy Wellesley, 8 Ebrill, 1936. fel y dyfnha f'ymwybod i o realiti, a chredaf fod hynny'n digwydd wrth fynd yn hyn. mae fy arswyd rhag creulondeb llywodraethau'n cynyddu Comiwnyddol, Ffasgaidd, cenedlaethol, clerigol, gwrthglerigol, y maent i gyd yn gyfrifol yn ôl nifer y rhai sy'n dioddef danynt. Nid wyf wedi bod yn fud; yr wyf wedi defnyddio'r unig gyfrwng a feddaf-mydryddiaeth. Os yw fy ngherddi wrth law gennych, edrychwch ar gerdd o'r enw "Yr Ail Ddyfodiad". Fe'i hysgrifennwyd ryw un mlynedd ar bymtheg neu ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl ac fe ragddywedodd yr hyn sy'n digwydd. Yr wyf wedi ysgrifennu am yr un peth dro ar ôl tro ers hynny Nid wyf yn ddideimlad, y mae pob nerf yn gryndod gan arswyd rhag yr hyn sy'n digwydd yn Ewrop, "mae defod diniweidrwydd wedi'i boddi".