Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duw yr Heddwch (Seiliedig ar Rhufeiniaid 15: 33) MAE wedi cael ei ddweud mai'r cwestiwn pwysicaf yw nid a oes Duw, eithr pa fath Dduw sydd 'na.1 Mae hynny'n golygu bod cwestiwn natur Duw yn bwysicach na chwestiwn bodolaeth Duw. Y math o Dduw y mae'r cymal hwn o'r 'Rhufeiniaid' yn sôn amdano yw Duw y mae cymod yn rhan allweddol o'i gymeriad, a heddwch yn genhadaeth hollbwysig i'w ddilynwyr. Fe ddywedodd E. Tegla Davies fod buddugoliaeth yr Eglwys ym mhob cyfnod o argyfwng yn codi o'i gwaith yn ailfeddwl y syniad o Dduw.2 Nid gofyn i bobol ddod at Dduw y mae'r proffwyd gwir fawr, ond eistedd a myfyrio ar Dduw nes cael datguddiad ohono sy'n ddigon mawr ar gyfer yr amgylchiadau arbennig hynny. A chofio'r amgylchiadau yn 1983, mae'n eithriadol o bwysig fod yr Eglwys yn ei myfyrdod ar Dduw yn darganfod Duw yr Heddwch. Meddai D. R. Thomas, "Nid oes bosib amau mai peryg pennaf ein dydd yw rhyfel niwclear". 3 Os felly mae ailddehongli ac ailgyhoeddi Duw yn Dduw yr Heddwch yn gwbwl allweddol o safbwynt yr Eglwys, ac o fynd ati i ailddehongli, yn rhyddhau adnoddau diderfyn at wasanaeth a dyfodol dynoliaeth. Pe baem yn ystyried lle a gwaith yr Eglwys, mae'n siwr y caem amrywiaeth atebion. Un awgrym yw bod rhai pethau a gyflawnir gan yr Eglwys, yn cael eu cyflawni gan bobl a chyrff eraill, a hynny'n ddiau'n llawer gwell. Ar y llaw arall, mae iddi un gweithgaredd nad oes iddi gystadleuydd wrth ei gyflawni, fel y dywed C. H. Dodd, "Ei gwaith arbennig hi yw addoli Duw".4 Pe byddem yn cyfyngu'r mater i'r wedd hon yn unig, ni allem lai na chytuno bod y math o Dduw sy'n cael ei addoli yn holl bwysig i'r addoliad hwnnw. A chaniatàu bod addoli Duw'n waith perthnasol yn y dydd sydd ohoni, ac yn waith y byddai pobol weddol ddeallus yn fodlon ymgymryd ag ef, mae'r darlun a'r datguddiad ohono fel Duw yr Heddwch yn gwbwl allweddol. Mae'r pwnc hwn yn un o dri a ystyriwyd: Duw'r Diddanwch, Duw'r Gobaith, a Duw'r Heddwch, y tri wedi eu cysylltu trwy eu sylfaenu ar gymalau o'r 'Rhufeiniaid'. Mae cysylltiad dyfnach na hynny, oherwydd onid yw'n Dduw yr Heddwch yn y dydd sydd ohoni, yna nid oes diddanwch na gobaith gennym i'w gynnig i ddynoliaeth. Onid ydym yn cysylltu Duw'r Diddanwch gyda Duw'r Heddwch, yna nid oes inni ond swcwr, a rhybudd- iwyd ni'n glir rhag hynny gan J. R. Jones. Gwelwn enghraifft o'r swcwr meddal y gall crefydd ein harwain iddo, pan ddywedodd un pregethwr beth fel hyn am wladgarwch y Cristion: sef yr argyhoeddiad mai perygl mwyaf cenedl ydi pechod. Nid arfau rhyfel gwledydd eraill, ond pechod. Nid 'hydrogen bom', ond pechod. 5 Ar wahân i'r ffaith ei fod yn methu â gweld arfogaeth niwclear fel pechod, mae'n peri bod athrawiaeth mor ddifrifol ag athrawiaeth pechod yn swcwr digynnwys, yn hytrach nag yn foddion i wynebu byd gyda dewrder a rhuddin sy'n troi'n obaith. Mae Diwinyddiaeth Gobaith, mewn perthynas â'i seiliau