Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Morgan Llwyd a Jakob Böhme BU darllen gweithiau'r theosoffydd Almaenig Jakob Böhme (1575-1624) heb amheuaeth yn achos dyfnhau canolbwyntio Morgan Llwyd ar gyfriniaeth gymundeb. Serch hynny, bu'r Llwyd yn ofalus iawn rhag llyncu metaffiseg cwbl ddyfaliadol yr Almaenwr yn ei chrynswth. Dysgai Böhme fod iachaw- dwriaeth dyn yn ganlyniad i ildio'r ewyllys i arweiniad goleuni'r Logos a oedd yn fewnfodol ymhob dyn. Ond ceir y Llwyd yn ei ryddiaith yn sôn am iachawdwriaeth dyn fel canlyniad i ffydd ym mherson a gwaith Crist fel y dehonglwyd hwnnw gan Athrawiaeth y Cyfamodau. Calfiniaeth oedd ei gyd-destun diwinyddol sylfaenol, ond yn hytrach nag aros â'r athrawiaethau moel, mynnodd y Llwyd dreiddio ar fêr y profiad Cristnogol o adenedigaeth a defosiwn afieithus y crediniwr i'w Arglwydd. Maes profiad yw testun llawer o'i ysgrifennu homiletig, ac yn y cyswllt hwn da yw dwyn i gof sylw craff y diweddar Mr. Hugh Bevan: Pa bryd bynnag y dechreuodd Morgan Llwyd ddarllen gweithiau Jacob Boehme yn y cyfieithiadau Saesneg a ymddangosodd o 1644 ymlaen, odid nad ategu'r pwyslais a roddai'r Piwritaniaid ar wirionedd profiad a fu un o'u heffeithiau cyntaf.1 Ac edrych ar syniadaeth Böhme o safbwynt Calfiniaeth oes Morgan Llwyd, gwelir mai heresi a ddysgai. Yr oedd cyfaill i'r Llwyd, sef Peter Sterry, caplan Oliver Cromwell a gwr hyddysg iawn yng ngweithiau cyfrinwyr yr Oesau Canol, wedi astudio llawer o weithiau'r Almaenwr, a rhybuddiodd y Cymro rhag cael ei dwyllo gan heresi'r gwr hwn. Cyngor Sterry i Forgan Llwyd oedd: They that reade him, had neede to come to him well instructed in the Mystery of Christ, with a Heavenly Newnes of Mind, by which they may bee able to try, what the Good & Acceptable Word of God is. Others will be perverted by him.2 Ond ar yr un gwynt cyfeddyf Sterry iddo gael budd ysbrydol nid bychan wrth ddarllen yr hyn a oedd gan Böhme i'w ddysgu am hunanymwadiad a dyfnhau'r bywyd ysbrydol; yr oedd anogiadau Böhme i'w ddarllenydd gyrraedd gwir adenedigaeth yn taro tant melys iawn yn nhelyn duwioldeb Sterry yn union fel yn achos y Llwyd. Ganed Böhme yn Alt-Seidenberg a bu farw yn nhref Görlitz wedi blynyddoedd o erledigaeth chwyrn a gwrthdrawiad aml â'r awdurdodau sifil ac eglwysig.3 Nodweddir ei gyfundrefn ddyfaliadol noeth gan eclectiaeth syniadol drawiadol iawn. Cyfriniaeth 'deall' Neo-blatonaidd sydd ganddo'n waelodol ond nid yw cyfriniaeth oddrychol fyth yn gwbl absennol o'i gyfundrefn syniadol. Barnai Ludwig Feuerbach mai Böhme yw 'Ie représ- entant du mysticisme spéculatif par exeellenee'. 5 Crynhoir y consensws beirniadol Ewropeaidd parthed syniadaeth Böhme yn hwylus iawn gan Alexandre Koyré, a dyma'i grynodeb gwerthfawr: Idéaliste-panthéiste inconscient pur Hegel, il est le plus pur représentant de la philosophie chrétienne pour F. v. Baader, qui le glorifie justement pour son réalisme; panthéiste-matérialiste pour A. v. Harless, il apparaît comme théiste-orthodoxe à