Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ann Parry (1718-1787) a'i Methodistiaeth Y PETH cyntaf y dymunaf i ei wneud yw llongyfarch yn gynnes iawn y gwyr a'r gwragedd da yng nghylch Llanrhaeadr a aeth ati i ailosod carreg ar fedd Ann Parry.* I'r rhan fwyaf o bobl, dydi hi'n neb o bwys bellach; o ran hynny, doedd hi'n neb o bwys yn ei dydd ychwaith­×hynny yw, os ydym yn pwyso gwerth pobl yn ôl maint eu campau bydol ac yn ôl y cyflawniadau cydnabyddedig. Ni ddyfeisiodd yr injian stêm, ni chreodd chwyldro ym myd amaeth, nid ysgrifennodd yr un llyfr, ni chododd i'r un llwyfan. Heddiw, cylch bychan bach o bobl a wyr hyd yn oed beth neu bwy oedd hi; ond mi fentraf ddweud nad oedd y cylch a'i hadwaenai yn ei chyfnod, ddim yn llawer ehangach. Mi fentraf ddweud hefyd fod llawer o'r rheini sy'n gwybod rhywbeth amdani yn awr yn gwybod amdani am y rheswm anghywir, yr union rheswm anghywir y daeth miloedd o ddarllenwyr Y Drysorfa i wybod amdani yn 1836 (bron i hanner canrif ar ôl ei chladdu), sef am fod ei chorff heb ei lygru yn ei bedd, ffenomen nid cwbl anghyffredin yn hanes gweddillion marwol pobl Dduw: mae hanes nid annhebyg am gorff Williams Pantycelyn ei hun. Y mae'n bleser cydnabod cyfraniad y gwyrda a ailosododd garreg ar ei bedd am eu bod hwy, drwy'r weithred honno, yn mawrygu buchedd gwraig y gellir edrych arni yn arwrol fel cynrychiolydd teg miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif a gymerodd ran yn y Diwygiad Mawr Methodistaidd, diwygiad a newidiodd gwrs hanes ein gwlad ni. Wrth gwrs, ni thybiai hi yn ei dydd ei bod yn rhan o chwyldro ysbrydol a diwylliannol Cymreig-doedd syniad fel yna ddim yn rhan o'i meddylfryd. Tystion ydym ni, Gymry fwy neu lai seciwlar diwedd yr ugeinfed ganrif, o ben draw'r chwyldro hwnnw. Cyfnod capeli'n cau yw'n cyfnod ni, ac y mae'r Fethodist- iaeth a luniodd ogoniant Ann Parry ar drai pell, pell. O, fe godwn ambell lef yn enw'r grefydd honno, ond hyd yn oed wrth godi'n llef yr ydym ar yr un pryd yn cofleidio'n llawn y realaeth anysbrydol sy'n nodweddu'n hoes, ac yn ei chofleidio yr un mor anymwybodol ag y cofleidiodd Ann Parry, yn ei hoes hithau, yr ysbrydolrwydd y daeth yn gymharol enwog, yn ei chylch bychan, amdano. Fy mwriad i am ychydig yw ymhelaethu ar gynnwys ac ar ystyr y gwerthoedd ysbrydol a liwiodd hwyrddydd bywyd Ann Parry. Ond cyn gwneud hynny, gweddus nodi'n fyr yr ychydig ffeithiau sy'n wybyddus amdani. Bydd y ffeithiau yn fodd i ni oleuo'r ffordd y cerddodd hi i'w mymryn enwogrwydd. Ceir y rhain yn hwylus yng nghyfrol Pierce Owen, Hanes Methodistiaeth Dyffryn Clwyd: Dosbarth Rhuthun (1921). Y maent hefyd i'w cael, o'u lloffa, yng nghofiant Jonathan Jones i Thomas Jones o Ddinbych, 1897. Ac Ar y 9fed o Fedi, 1983, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, o dan nawdd y Dosbarth WEA, i ddathlu'r ailosod, ac yno y traddodwyd y papur hwn.