Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Evans-Pritchard a'i Syniadau am Gyfieithu Diwylliant Y MAE gan Dafydd Jenkins ffordd afaelgar o gyflwyno Evans-Pritchard yn ei lyfr newydd amdano yn y gyfres 'Y Meistri Modern' Dywed fod E. E. Evans-Pritchard, anthropolegydd gorau a mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth, yn ei ddisgrifio ei hun fel 'detribalized Welshman'. Ac ychwanega fod pob anthropolegydd o bwys-o Boas i Malinowski i Levi-Strauss­×yn gym- deithasol ymylol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, un ai yn hanfod o wlad arall neu yn ddieithryn o fewn ei ddiwylliant ei hun. Os felly, gallai'r bywydau amlochrog ac amwys a dynghedwyd i gynifer o Gymry bellach sydd heb droedle cadarn yn y diwylliant Cymreig nac yn y diwylliant Seisnig, fod o fantais bendant iddynt wedi'r cyfan. Tybiaf, serch hynny, fod tafod Evans-Pritchard yn ei foch wrth roi'r disgrifiad hwn ohono'i hun i Alwyn Rees a'i gyfeillion eraill yn Aberystwyth. Gallai'r 'detribalized Welshman' hwn hawlio hanner dwsin o personae eraill yn hyderus. O ran magwraeth ac osgo, Sais o'r dosbarth canol uwch ydoedd. Cafodd ei addysg yn Winchester, yng Ngholeg Exeter, ac yn Ysgol Economeg Llundain; treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro ym Mhrifysgol Rhydychen a chymrodor yn All Souls. Uchelwr ydoedd ymhlith yr Azande, un o lwythau deheudir y Swdan a astudiwyd ganddo yn ei lyfr mawr cyntaf. Yno, meddai, yr oedd yn aelod o linach yr Avongara, ac fe'i gelwid wrth y llysenw Kakarika 'oherwydd ei arfer o rodio trwy'r gwellt sych'.2 Llai dyrchafedig oedd ei safle yn ddiweddarach ymysg y Nuer rhyfelgar yn eu tiriogaeth wrth gymer afonydd y Neil Gwyn a'r Neil Glas. Yno, fe'i hystyriwyd yn ddyn cyffredin 'yn ger, yr hyn y maent yn ei alw'n rul, yn alltud ar ymweliad .3 ond yr oedd y dosbarth hwn hefyd yn cynnwys yr offeiriaid croen-llewpart crwydrol. Wrth sôn am ei brofiadau yn y Cyrenaica a Tripolitania yn ystod y rhyfel, sgrifennodd yn ei ddull laconig, teithiais dros ddwy fil o filltiroedd ar gefn ceffyl a chamel. Deuthum i wybod rhywbeth am lwythau Bedouin yr ardal'. Ar wahanol adegau eraill, trigai ymhlith yr Anuak, y Nandi, y Dinka a'r Luo.5 Yn wir, bron y gellid dweud i Evans-Pritchard ddyrchafu'n egwyddor y ddawn arbennig hon o wisgo sawl persona ar yr un pryd. Dyma, yn wir, y briodoledd sydd yn creu anawsterau wrth drafod y dyn a'i waith fel ei gilydd. 'Roedd ganddo natur gellweirus ac eironig; yn ôl rhai, 'roedd yn dipyn o anturiaethwr ac o ramantydd. Yn anad dim, mae'r briodoledd hon yn ei gwneud yn dra anodd dosbarthu ei syniadaeth yn gryno. Fel hyn y disgrifiodd Evans-Pritchard dasg yr anthropolegydd yn y maes: Mae'n mynd i fyw at bobl gyntefig a dysgu eu ffordd o fyw. Mae'n dysgu siarad eu hiaith, meddwl yn nhermau eu cysyniadau hwy ac ymdeimlo â'u gwerthoedd. Yna mae'n ailfyw'r profiad drachefn, yn beirniadu ac yn dehongli trwy ddefnyddio categorïau cysyniadol ei ddiwylliant ef ei hun mewn geiriau eraill yr hyn a wna yw cyfieithu o'r naill ddiwylliant i'r Uall.6 Argymhelliad hewristig sydd yma, ar un olwg. Mae'r darn yn disgrifio y dechneg o ddadansoddi problem arbennig. Ond o ddilyn y cyngor hwn, a'i