Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trosiad o rannau o 'For the Time Being' (W. H. Auden) Cyhyd â bod yr afal heb ei lwyr dreulio, cyhyd ag y ceid y rhithyn lleiaf o gyd-ddealltwriaeth yn aros rhwng Adda a'r sêr, yr afonydd a'r meirch a adnabu unwaith mor drylwyr; cyhyd ag y gallai Efa mewn unrhyw fodd bynnag gydgyfrannu moddau'r rhosyn neu uchelgais y wennol, yr oedd gobaith o hyd y gallai effaith y gwenwyn gilio ac mai hunllef fu'r alltudio 0 Baradwys ac nad oedd y Cwymp, mewn gwirionedd, wedi digwydd o gwbl. Cytgan Cyhyd ag y bo unrhyw ffordd i anghofrwydd neu anymwybod yn dal heb ei harchwilio, unrhyw win dethol neu goginio amheuthun ar ôl, heb ei archwaethu, unrhyw amrywiad erotig heb ei ddychmygu na'i sylweddoli neu unrhyw ddull o arteithio heb ei ddyfeisio hyd yn hyn, unrhyw gynllun o wastraffu amlwg heb ei roi ar y gweill neu ryw afiechyd heb ddod eto i'r golwg, yr oedd gobaith o hyd mai cael ei drawsffurfio ac nid cael gwenwyn a wnaeth dyn ac nad cyflwr tragwyddol ac yntau wedi ei golli am byth oedd Paradwys ond yn hytrach mai cyflwr plentynnaidd ydoedd ac yntau wedi cefnu arno unwaith ac am byth a bod y Cwymp, felly, wedi digwydd o raid. Cytgan Cyhyd â bod unrhyw arbrofion eto i'w cyflawni er mwyn adfer y drefn a fu unwaith yn orhoffedd i'r dyhead yr oedd yn ei adlewyrchu, cyhyd â bod eto unrhyw drefn bynnag o ddyletswydd ar ôl a chyfartalwch nad yw, hyd yma, yn sylfaen unrhyw gymdeithas, neu bod eto unrhyw fath o eiddo nas prisiwyd neu dalent nad yw eto wedi ennill teyrngarwch preifat ac anrhydedd cyhoeddus; cyhyd ag na thraethwyd hyd yn hyn bob syniad rhesymol o Ddaioni neu bob teimlad greddfol o'r Cysegredig yn gain a gofalus a chyhyd â bod unrhyw dechneg o frudio neu seremoni aberthol neu foliant yn aros heb ei iawn gyflawni, neu unrhyw allu meddwl a chorff heb ei lwyr ddisgyblu; yr oedd gobaith o hyd y gellid darganfod rhyw iachâd ac er bod pyrth Paradwys wedi eu cau'n glep, mae'n wir, eto, y gellid gyda thipyn bach o amynedd a dyfais eu datgloi a dangos fod y Cwymp wedi digwydd ar ddamwain. 'Roedd yn ddydd pan ddeffroesom; dal i wylo a wnaethom. Mewn tywyllwch y bu'n dawns, ond ni thwyllwyd hi. YMSON SIMEON Simeon Simeon Simeon