Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Myth y Diduedd YN ei erthygl 'Ai bod yn naïf yw ceisio bod yn ddiduedd?' yn y Traethodydd Hydref 1983 tuedda'r Athro Dewi Z. Phillips at gynifer o ragdybiau ynghylch yr ochr y mae'n dadlau'n ei herbyn fel y geill fod yn gam ymlaen geisio egluro beth yw rhai o'r rheini. Gwaetha'r modd, ni rydd ef sylw i'r rhagdybiau sy'n byrlymu y tu ôl i'r syniad sydd ganddo am ei safbwynt ei hun; ac y mae hynny hefyd mewn ysgrif am y diduedd yn gryn anghyfleustra. Hawlia ef nifer o bethau (a hynny ar sail rhagdybiau digon adnabyddus wrth gwrs-megis y gwna'r Marcsiaid a'r Calfiniaid hwythau yn eu tro sy'n ei 'chael' hi ganddc); eithr ni chais ef ddadansoddi nac archwilio'i ragdybiau, er ei fod heb ymresymu ar wahân iddynt o gwbl, bid siwr. Honna'r Athro (a'i dafod yn ei foch, mi obeithiaf) nad safbwynt pleidiol mo'r myth o fod yn 'ddiduedd'. Ac eto, wedi'r cyfan, ple ydyw ei holl lith yn amlwg dros ymddwyn fel pe bai bod yn ddiduedd yn bosibl, a hynny ei hun wrth gwrs yn duedd athronyddol ddigon cyffredin. Yn wir mae'n gêm-os gêm iaith-reit boblogaidd. Gêm ac iddi ei rheolau priod hi ei hun. Rhagdyb arferol y 'didueddwr' yw ei fod ef yn gallu ymresymu ar wahân i Dduw hunan-gynhwysol. Naid i'r casgliad chwareus fod bod yn ddiduedd yn bosibl i'r sawl sy'n derbyn, yn rhagdyb tueddgaeth, gysondeb iaith o frawddeg i frawddeg mewn byd a seiliwyd ar fath cyffelyb o gysondeb. Dechreua'n dalog gyda'i farn ei hun, wrth gwrs, yn hytrach na chyda barn Duw,-tuedd ddyneiddiol dderbyniedig, -a rhagdybia wrth gwrs nad yr ysgrythur yw Gair Duw sy'n dadlennu iddo seiliau pob gwirionedd a chynnwys mewnol pob hanfod. Cymer, yn wir, y gellir defnyddio'r meddwl dynol i ymgodymu'n ddigon 'annibynnol' â'r broblem honno. Nawr, rhagdybiau cyfarwydd a blinderog odiaeth yw'r rhain oll, ac eraill sydd gan y didueddwr yn ei gynhysgaeth anochel. Caeth, bid siwr. Meddyliol gaeedig. Ond digon cynefin i bob Cymro darllengar, ac yn sicr i holl ddarllenwyr y Traethodydd. Gwyddom oll mai naill ai Duw neu ddyn yw ein cyfeirbwynt eithaf. I'r Cristion, yn ddiau, caiff ffeithiau eu hystyr oherwydd y lle sydd iddynt yng nghynllun Duw: nid ydynt byth yn hunanlywodraethol. I'r Cristion, nid diduedd yw'r dyn naturiol gerbron Duw, ond gelyn ac ymwahanwr a gwrthodwr. Rhoddwyd prawf datguddiedig o hyn i'r Cristion; ac ni chafodd ef erioed brawf, hyd yn oed gan yr Athro Phillips, mai fel arall y mae, yn ymarferol. Gellid 'rhagdybied' mai fel arall y gall fod, wrth gwrs; ond disgwyl y prawf syfrdan am hynny yr ydys o hyd. Sut yn wir y gallai'r un Cristion lwyddo i fod yn ddiduedd? A oes rhaid i'r sawl sy wedi cael prawf o Dduw, sy wedi cael cyfarfyddiad dirweddol a phersonol ag Iesu Grist, gogio nad yw hyn wedi digwydd, efallai? Y rhagdybiaeth angenrheidiol- ddiduedd'-yw ymddwyn fel pe na bai'r ysbryd wedi'i fywhau ef, ac nad yw'i enaid, sy wedi dod i berthynas fywiol â Duw yn gorfod bod â thuedd tuag at Dduw o gwbl. Os yw am lwyddo i fod yn