Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau R. GERAINT GRUFFYDD (gol.). Bardos-Penodau ar y Traddodiad Barddol Cymreig a Cheltaidd. (Cyflwynedig i'r Athro J. E. Caerwyn Williams), Caerdydd, 1982. Tt. ix + 235. £ 15.95. MAE o leiaf ddau reswm dros roi croeso i'r gyfrol atyniadol hon; yn gyntaf golygyddiaeth raenus y Dr. R. Geraint Gruffydd a chadernid y ddysg ynddi; yn ail, y dysgawdwr y lluniwyd y gyfrol yn deyrnged iddo, sef yr Athro J. E. Caerwyn Williams. Yn sicr ddigon, mae i'r enw yma le diogel yn llinach yr enwau mawr a fu'n ymhel â dysg Gymraeg a Cheltaidd o ganol y ganrif ddiwethaf hyd heddiw. Dyma wr a lanwodd gydag arddeliad ddwy gadair-yn y Gymraeg a'r Wyddeleg, ac fe allai'n hawdd hefyd fod wedi llanw cadair mewn rhyw gangen neu'i gilydd o Ddiwinyddiaeth. Cyfrannodd yn hael ac yn helaeth mewn llawer maes. Cadwodd at yr hen rigolau, ond hefyd fe dorrodd gwysi newydd yn enwedig yn ei waith golygyddol gyda Studia Celtica, Ysgrifau Beirniadol a'r Traethodydd. Yn wir, nid anodd fyddai i mi wyro, a throi'r adolygiad yma yn air o fawl, gan gymaint yw fy edmygedd o gymeriad a dysg yr Athro. Ond gwell ymatal. Mae hon yn gyfrol sylweddol ac ynddi gyfraniadau gwerthfawr, sydd i gyd yn ymwneud mewn rhyw fodd neu'i gilydd â'r traddodiad barddol Cymraeg a Cheltaidd. Ar wahân i ddau neu dri, y rheini oedd yn gydweithwyr â'r Athro yn yr Adran yn Aberystwyth yw'r cyfranwyr. Er na ellir trafod yn llawn bob cyfraniad yn unigol, y maent oll yn teilyngu eu henwi pe na bai ond er mwyn rhoi syniad am gynnwys y gyfrol ar ei hyd. I ddechrau, ceir dau englyn cyfarch gan Derwyn Jones, ac ar eu hôl Ragair y Golygydd. Wedyn, daw dwy bennod fer, lle gwelwn draethu ar yr Athro fel ysgolhaig (gan y Dr. R. Geraint Gruffydd) ac fel cyfaill (gan y Dr. John Gwilym Jones), dau eirda yn llawn o fawl, cwbl haeddiannol. Yn nesaf daw corff y gwaith, sef yr erthyglau ar wahanol bynciau: R. Geraint Gruffydd-`Marwnad Cynddylan', T. Arwyn Watkins— 'Englynion y Juvencus', Eurys Rolant Wedi elwch Brynley F. Roberts-`Dwy Awdl Hywel Foel ap Griffri', Gwyn Thomas- 'Golwg ar Gyfundrefn y Beirdd yn yr ail Ganrif ar bymtheg', E. G. Millward, 'Gwerineiddio Llenyddiaeth Gymraeg', John Rowlands­‘Marwnad Syr John Edward Lloyd' gan Saunders Lewis', R. M. Jones- Dulliau Ymadrodd (Agwedd ar Gerdd Dafod)', R. Williams-`Dwy Gerdd o'r Barzaz Breiz: eu cefndir a'u nodweddion arwrol', David Greene (cyf. Mair Jones)— 'Y Dail a'r Bôn', R. A. Q. Skerett (cyf. Rhisiart Hineks)- Ynysoedd ac Ynyswyr'. Wedyn ceir 'Llyfryddiaeth yr Athro J. E. Caerwyn Williams' (270 o eitemau i gyd) gan Gareth O. Watts; ac yn olaf 'Byrfoddau' a 'Mynegi i Awduron'. Dyna yn fras gynnwys y gyfrol. Gellir manylu ychydig ar y cyfraniadau hyn. Yn y pedwar cyntaf ceisir dehongli rhai cerddi o blith gweithiau'r Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd. Dyma waith astrus, ac ar y cyfan fe'i gwneir yma yn llwyddiannus ddigon. Gan y Dr. Gruffydd a'r Athro Bryn Roberts fe ymdrinnir hefyd â'r cefndir. Trafodir yr iaith yn fanwl gan yr Athro Watkins, a diddorol a gwerthfawr yw ei gasgliad bod tystiolaeth systemau orgraff J3 a J9 yn awgrymu eu bod yn perthyn i'r un cyfnod ac o bosibl i'r un copïwr. Fe ddyry'r Dr. Gruffydd, Eurys Rolant a'r Athro Roberts aralleiriad neu fersiwn diwygiedig o'r cerddi ynghyd â nodiadau manwl arnynt. Cynrychiolir gan y rhain ddull o ymdrin a'r Hen Ganu a ddaeth yn gyffredin ymhlith rhai ohonom ers peth amser. Mae gennym bellach ganllawiau pur ddiogel a dibynadwy, Geirfa Lloyd-Jones, GPC, nodiadau ami mewn cylchgronau megis y Bwletin a Studia Celtica, heb sôn am argraffiadau o'r Canu Cynnar gan Ifor Williams, ac o ganu diweddarach gan Ifor Williams, Henry Lewis, Thomas Parry, Eurys Roland ac eraill. Erbyn hyn gellir cyfiawnhau rhoi cynnig ar lunio fersiwn diwygiedig neu aralleiriad. Mae fersiwn felly o help ymarferol i fyfyrwyr ac eraill. Nid mor sicr yw ei nerth o safbwynt ysgolheictod. Er cystal y cynnydd a wnaed, rhaid fydd wrth lawer o ymchwil eto cyn gallu dehongli'r llenyddiaeth gynnar yn ddigonol. Gwn y byddai'r enwau a fu ynglŷn a'r gyfrol hon yn cytuno a hynny. Popeth o'r gorau os cydnabyddir mai arbrofol ac nid diffiniol a therfynol yw'r fersiynau hyn. Y perygl, weithiau o leiaf, yw mai arnynt hwy y canolbwyntir yn hytrach nag ar y gwreiddiol wrth geisio dehongli darn o lenyddiaeth. Nid yw'n fwriad gennyf yma fanylu'n unigol ar bwyntiau yn y fersiynau hyn, gan