Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RACHEL BROMWICH, Dafydd ap Gwilym [:] a selection of poems (Llandysul: Gomer Press, 1982). Tt. xxxii, 207. £ 9.75. DYMA'R gyfrol gyntaf yng nghyfres newydd 'The Welsh Classics' a olygir gan Mr. Lynn Hughes o Landeilo. Amcan y gyfres yw darparu argraffiadau cain o glasuron Cymraeg a Saesneg y genedl Gymreig, ynghyd â chyfieithiadau o'r testunau Cymraeg. Gwasg Gomer sydd yn cyhoeddi'r gyfres, gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac y mae'n rhaid canmol y gofal a'r medr a amlygir yn y modd y cynhyrchwyd y gyfrol hon: am y pris, y mae'n llyfr neilltuol o ddeniadol i'r llygad ac i'r cyffyrddiad. Ychydig iawn o gambrintiadau y sylwais i arnynt, ond efallai y bydd yn werth nodi'r canlynol gan eu bod yn digwydd yn y testun Cymraeg a atgynhyrchir: t. 15, coma diangen rhwng nrem a seldrem; t. 49, Lliwar yn Ue Lliw'r; t. 135, y brydais yn Ue a brydais; t. 177, Digwydd yn Ue Digywydd; t. 187, glud yn lIe glyd (yr wyf yn tybied mai diwygiad, ac nid cambrintiad, yw ri'yn Ue ri wrth droed t. 21 ac y mae'n well gennyf yn bersonol yr hen ddarlleniad). ta 11 K Y mae Dafydd ap Gwilym^yri sicr ymhlith beirdd mwyaf y Gymraeg, ac ni ellid meddwl am well dewis nag ef i gychwyn y gyfres newydd. Ni ellid meddwl ychwaith am well golygydd a chyfieithydd ar gyfeTTJâTÿdd ap Gwilym na Dr. Rachel Bromwich. Ers ugain mlynedd bellach bu'n gweithio ar y bardd, ac ymhlith ffrwythau ei llafur y mae'r llyfryn Tradition and innovation in the poetry of Dafydd ap Gwilym (1967), y monograff Dafydd ap Gwilym yng nghyfres 'Writers of Wales' (1973) ac erthygl bwysig odiaeth yn Ysgrifau Beirniadol X (1977). Fe gymer y gyfrol ddiweddaraf hon ei Ue'n hwylus yn y dilyniant urddasol hwn. Wrth reswm, o argraffiad safonol Syr Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym (1952, gydag adargraffiadau yn 1963 a 1979), y cymerir testunau'r cywyddau a'r englynion y dewisodd Dr. Bromwich eu cyfieithu, ac fe agorir ei chyfrol gyda rhagair pwrpasol gan Syr Thomas ei hun: y mae'r modd y bu ef yn ymwybodol (a gwerthfawrogol) o ymdrechion yr ysgolheigion a ddaeth ar ei ôl i oruwchadeiladu ar sail ei gampwaith yn esiampl i bob ysgolhaig. Yn dilyn rhagair Syr Thomas fe geir rhagymadrodd gweddol fyr (15 tt.) gan Dr. Bromwich yn crynhoi ei meddyliau ar fywyd y bardd a'i gysylltiadau llenyddol, ar ei ddefnydd o gerdd dafod, ar ei dewis hi o gerddi i'w cyfieithu a'i rhesymau dros eu dewis, ac yn olaf ar y problemau a'i hwynebodd wrth fynd i'r afael â'r gwaith o gyfieithu; ar brydiau yn y rhagymadrodd hwn, yn arbennig efallai yn yr adran ar y cynganeddion, fe'i blinir gan ddiffyg gofod, ond gwych o beth serch hynny yw cael ffrwyth ei myfyrdod ar y prif bynciau'n ymwneud â Dafydd wedi'i gyflwyno mewn cwmpas cryno fel hyn. Calon y gyfrol, fodd bynnag, yw'r hyn sy'n dilyn y rhagymadrodd, sef saith adran yn cynnwys cerddi, cyfieithiadau a nodiadau wedi'u trefnu dan y penawdau 'Love at all seasons', 'Morfudd, Dyddgu and others', 'Birds and animals', 'Other messengers of love', 'Love's frustrations', 'Addresses to friends' a 'The poet's meditations'. O'r adrannau hyn, yr ail yw'r hwyaf gyda deuddeg cywydd a'r chweched yw'r fyrraf gyda phum cywydd yn unig. Rhwng y saith adran fe argreffir a chyfieithu pymtheg a deugain o gywyddau ac un gyfres o englynion, sef ychydig dros draean cyfanswm gwaith y bardd. Ar ddiwedd pob adran fe geir nodiadau byrion yn ymdrin â phwyntiau o ddiddordeb neu anhawster yn nhestun y cerddi a gynhwysir. Fel y gellid disgwyl, y mae camp anghyfffçdin ar gyfieithu Dr. Bromwich. Fel yr eglura yn ei rhagymadrodd, dewisodd gyfieithu i ryddiartfi (ond gyda'r llinellau'n cyfateb hyd yr oedd modd, i linellau'r gwreiddiol) yn hytrach nag i fydr. Dyna ddull yr Athrawon Gwyn Williams a Richard Loomis hwythau (y mae'r Athro Loomis newydd gyhoeddi fersiwn Saesneg cyflawn o waith Dafydd yn Binghampton, talaith Efrog Newydd). I'r gwrthwyneb, fe fynnodd Mr. Anthony Conran a'r Athro Joseph Clancy gadw llinell saith sillaf a phatrwm acennu diweddebau'r cywydd deuair hirion (mynnodd Mr. Conran gadw'r odl yn ogystal ond nid, wrth reswm, y gynghanedd). O'r cyfieithwyr hyn, Mr. Conran a'r Athro Clancy (a'r Athro Williams) sy'n darllen rwyddaf ac yn cyneu orau ryw awgrym egwan o ogoniant y gwreiddiol, ond Dr. Bromwich (a'r Athro Loomis) sy'n cadw'n fwyaf ffyddlon at union eiriad ac ystyr Dafydd. Gall y sawl a ddefnyddio'r gyfrol hon heb fedru'r Gymraeg fod yn gwbl hyderus na chaiff ei gamarwain gan y cyfieithiad. Wrth gwrs, y mae ychydig fannau 11e y byddwn i'n tueddu i anghytuno â'r ffordd y mae Dr. Bromwich yn deall y gwreiddiol, ond y mae hynny'n anorfod gyda thestun anodd fel hwn: enghreifftiau yw rhif 4, llinell 36 llafuriau (sef 'crops', i'm tyb i);