Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

5.27 dywydd ('house-timbers', ond rhaid cydnabod ei bod yn debygol fod amwysedd yma); 9.32 Trwyddew ('auger'); 15.11 braw ('fright'); 27.27 seth ('the straight one'); 37.37 drymbar ('heavy lance'). Ar brydiau hefyd y mae Dr. Bromwich wrth gyfieithu yn ychwanegu geiriau cyswllt nas ceir yn y gwreiddiol; gwir fod hyn yn peri i'w chyfieithiad ddarllen yn rhwyddach ond rhaid imi gyfaddef nad da gennyf mo'r arfer. At ei gilydd, fodd bynnag, y mae'n rhaid ei llongyfarch yn gynnes ar greu fersiwn Saesneg campus iawn o rai-nid yn gwbl, o bell ffordd-o oreuon cerddi Dafydd. Y mae i'r nodiadau sy'n dilyn y cerddi a'r cyfieithiadau ymhob adran eu gwerth arbennig yn ogystal. Ynddynt fe drafodir yn fanwl ofalus rai mannau anodd yn y testunan a gyfieithir. Drwyddynt fe gawn wybod beth yw barn Dr. Bromwich ar amryw o bwyntiau y bu cryn ddadlau yn eu cylch; er enghraifft, cawn wybod nad yw'n derbyn awgrym Mr. Dewi Stephen Jones mai at fflwring aur Edward II, 1344, y mae Dafydd yn cyfeirio yn 2.13-14 (os yw'n iawn, dyma golli un o'r ychydig gyfeiriadau sydd fel petaent yn angori Dafydd wrth flwyddyn neu flynyddoedd penodol ym mhedwardegau'r bedwaredd ganrif ar ddeg). Drwy'r nodiadau cawn wybod hefyd beth yw barn ddiweddaraf Syr Thomas Parry ei hun ar rai pwyntiau dyrys, gan i Dr. Bromwich ymgynghori ag ef wrth baratoi'r gyfrol-er enghraifft, fod Syr Thomas bellach yn derbyn y darlleniad dirdrasfun yn 17.21, ac yn tueddu'n bendant erbyn hyn i gymryd mai o stagnum 'tun' ac nid o stain 'staen' y daw ystaen 26.28. Ni all neb a fo'n gweithio'n fanwl ar y cerddi hynny gan Ddafydd a gynhwysir yn y gyfrol hon fforddio i anwybyddu nodiadau Dr. Bromwich o hyn ymlaen. Bydd y gyfrol yn sicr nid yn unig o ychwanegu at glod Dr. Bromwich ymhlith ei chyd- ysgolheigion ond hefyd (peth a fydd yn bwysicach yn ei golwg hi) o ychwanegu at glod un o feirdd mawr yr Oesoedd Canol ymhlith y cyhoedd dysgedig a llengar yn gyffredinol. R. GERAINT GRUFFYDD D. R. THOMAS, Y Dewis Olaf. T9 John Penry. £ 1. MAURICE LOADER, Y Gweinidog a'i Waith. T9 John Penry. £ 1. 'YMGADW rhag Armagedon' yw is-deitl cynganeddol llyfryn D. R. Thomas, a'r Armagedon y'n rhybuddir rhagddo yw rhyfel niwclear, a allai, yn ôl yr awdur, 'ddifodi gwareiddiad'. Gan ddyfynnu Churchill (o bawb!), dywedir fod gan y ddynoliaeth 'am y tro cyntaf yr offer i sicrhau yn ddi-ffael ei difodiant'. Mewn ysbryd taer ac angerddol apelir am weithredu buan a brwdfrydig gan bawb ohonom er mwyn gwaredu'r byd rhag y gyflafan fawr a all ddigwydd. Manylir ar ganlyniadau arswydus defnyddio arfau niwclear, gan ddyfynnu meddygon, gwyddon- wyr a gwleidyddion; condemnir yn ddiarbed y syniad mai'r ffordd ddiogelaf i osgoi rhyfel niwclear yw trwy bentyrru'r arfau ar y ddwy ochr i'r llen; a gresynir oherwydd ein bod, y mwyafrif mawr ohonom, mor ddi-hid ac yn gwneud cyn lleied. Ac fe gyplysir y cyfan, fel y buasem yn disgwyl mewn cyfrol gan D. R. Thomas, â'r angen, ar linellau Adroddiad Brandt, am gyfiawnder mewn byd lIe y 'mae pymtheg miliwn o blant dan ddeuddeg oed yn marw bob blwyddyn o eisiau bwyd'. Trafodir y rhesymau paham y mae pobl mor ddifraw ynghylch y posibiliadau trychinebus. Y mae rhai yn orobeithiol oherwydd fod Ewrop wedi bod yn rhydd oddi wrth ryfel gyhyd; credant, er bod yr arfau gennym, na ddefnyddir hwy fyth, ac mai'r ffordd orau i sicrhau na fydd defnyddio arnynt yw trwy ddal gafael ynddyn nhw. Y mae eraill, wedyn, yn ddiobaith; amheuant a allan nhw wneud dim tuag at sicrhau heddwch a diarfogi ac ânt i deimlo'n ddiymadferth. Un ffactor sy'n arwain i ryfel na chrybwyllir mohono gan yr awdur ydi ofn-nid ofn y gyflafan ond ofn y gelyn. Rhaid i ni fod â'r arfau gennym oherwydd fod ganddyn nhw yr arfau. Gwae ni os cymeran nhw fantais ar ein noethni (gair Bevin, gynt, onide?) i ymosod arnom a'n meddiannu. Ac efallai fod rheswm arall dros ein difrawder y dylid ei grybwyll hefyd, sef yr hyn a alwai'r Rhufeiniaid gynt yn 'fara a syrcas'. Cawn ein gwala a'n gweddill o fara a chysuron bywyd, a digon o syrcas beunyddiol ar y sgrin deledu i'n diddanu a'n digoni ac i beri inni ymuno