Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWENALLT, Ffwrneisiau, Cronicl Blynyddoedd Mebyd. (Gwasg Gomer, 1982), tt. 332. Pris £ 6.75. YN YSTOD yr ugeiniau o sgyrsiau a gefais gyda Gwenallt, ni chredaf inni un waith siarad am y "Nofel Newydd" Ffrangeg, am nofelwyr megis Alain Robbe-Grillet, Nathalie Sarraute a Michel Butor. O'm rhan i, er fy mod wedi ymhoffi mewn rhai nodweddion yn eu crefft, at ei gilydd teimlwn yn weddol bendant fod eu hymateb hwy i'r byd ac i'r weithred o sgrifennu yn sicr o fod yn anffrwythlon yn y pen draw. O ran Gwenallt, yr oedd ganddo yntau amgenach diddordebau; ac oni fyddem yn sgwrsio am y byd Cymraeg cyfoes, am hanes llen neu am wleidyddiaeth, fe dueddai diwinyddiaeth i fynd â'i fryd. Eto, yn awr, wrth gydio yn ei ail nofel, ni allwn lai na meddwl o'r newydd am y datblygiad arwyddocaol hwnnw yn y nofel Ewropeaidd, a gweld cymhariaeth awgrymus. 'Cronicl' yw'r disgrifiad is-deitlaidd a roddir i'r nofel hon, ac y mae'r term yn rhybudd helpfawr, oherwydd, fel y disgwylid gan Wenallt, nid yw'r nofel ym mhriffordd y nofel Gymraeg. Tuedda darllenwyr rhyddiaith Gymraeg i fod yn weddol gyfyngedig yn eu chwaeth a'u disgwyliadau, ac anystwyth yw eu hymateb i stonau nad ydynt yn weddol lyfn a phersonol a llac. Nid stori esmwyth yw hon: cynhwysa laweroedd o ddisgrifiadau eithafol o wrthrychol; ac y mae'r arddull yn dynn. Meddai John Watkins yn ei bennod ar 'Y Nofel Newydd' yn Y Llenor yn Ewrop: 'Disgrifio pethau y bydd y nofel newydd. Mesurir teimladau'r gwr eiddigus yn union feI y mesurir ty neu ystafell, ac fe'u trosglwyddir i'r darllenydd fel cyfres o wrthrychau materol ac iddynt hyd a lled, uchder a dyfnder'. Ac fe ellid dweud rhywbeth cyffelyb am Ffwrneisiau: Mae'r nofel yn darparu sioc ar gyfer y darllenydd confensiynol Cymraeg. Gwrthrychedd ydyw'i hanfod. Byd allanol, gweledig, dogfennol ydyw, hyd yn oed wrth ddisgrifio bywyd ysbrydol. Ni chaniateir i un rhan ohono ymrithio yn y crebwyll: y darfelydd yn hytrach a'i ceidw yn fanwl dan feistrolaeth yr awdur. Dyma John Watkins eto: 'yr hyn sy'n cyfri ym mywyd pob un ohonom yw'r pethau solet, diriaethol hynny sydd i'w gweld o'n cwmpas, a dyna'r union bethau y dylid ceisio'u cyfleu drwy gyfrwng y nofel'. Hynny hefyd, i raddau helaeth iawn a wna Gwenallt, ac fe'i gwna drwy ymsefydlu o'r newydd mewn cwm diwydiannol yn nechrau'r ganrif hon. Ni chafwyd mewn unrhyw waith unigol Cymraeg y fath fynegiant trylwyr o'r bywyd diwydiannol. Ni chredaf fod dim mor gynrychioliadol o'r bywyd hwnnw, mor effeithiol nac mor frawychus chwaith â'r disgrifiad cydwybodol o hunanladdiad Stanley Harper a neidiodd i ganol y metel tawdd yn y ladl; ac er nad oes mo'r gofod i ddyfynnu fel yr hoffwn, dyma rai brawddegau amyrangladd: 'Pan roddwyd yr arch yn yr hêrs, yr oedd wedi ei chuddio â blodau, a blodau ar ben yr hêrs; ac ymhlith y blodau yr oedd y dorch ddrutaf gan Mr. Parsons a'i deulu, torch gan Undeb y Gweithwyr, torch gan glercod y Swyddfa a thorch hyd yn oed gan y Blaid Lafur. Arch od oedd honno, arch heb gorff. 'Roedd eirch wedi dal pethau trist o'r blaen: glöwyr wedi boddi ac wedi llosgi mewn pyllau glo: cyrff wedi eu darnio gan beiriannau yn y Gwaith Dur a'r Gwaith Alcan: penglogau wedi eu hollti gan bethau yn syrthio uwchben: cyrff wedi eu llosgi gan asid ond dyma arch heb gorff. Mor eironig chwerw oedd geiriau'r Iesu yn y Gwasanaeth Claddu ar lan y bedd: 'pridd i'r pridd', a'r torrwr beddau yn lluchio pridd ar yr arch, ond nid oedd pridd yno. 'Lludw i'r lludw', ond yr oedd y lludw ar goll yn y telpyn metel ar ben y tip. Sut y gellid cael atgyfodiad y corff heb gorff?' Hon yw ail notei nunan-gofiannol Gwenallt, ac ni all neb a fynno ddeall llawnder Gwenallt ymatal rhag ei darllen. Bydd yn anhepgor hefyd i'r neb a fynno amgyffred holl arwriaeth a diwylliant cymoedd gorllewin Morgannwg a dwyrain Sir Gâr. BOBI JONES