Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tranc 'Y Llenor' TEIMLAF ei bod yn hen bryd imi ddiolch i'r Athro T. J. Morgan am ei 'rodd' garedig a ymddangosodd yn Y Traethodydd ddwy flynedd union yn ôl bellach. Seilir yr erthygl a ganlyn ar yr hanes diddorol a adroddodd yn dangos fel y lladdwyd Y Llenor W. J. Gruffydd gan benderfyniad nifer o lenorion amlwg i gyfrannu dim i'r cylchgrawn ar ôl buddugoliaeth Gruffydd yn erbyn Saunders Lewis yn Etholiad y Brifysgol 1943 ac ar f'ymchwiliadau i safle ariannol Y Llenor ei hun. Yn unol â thelerau'r cytundeb a luniwyd rhwng Gruffydd a Chwmni Hughes a'i Fab ym 1923, yr oedd Gruffydd, yn rhinwedd ei swydd fel golygydd, i dderbyn pump y cant o bris pob copi a werthid a phob cyfrannwr ac adolygydd i dderbyn copi o'r cylchgrawn yn rhad ac am ddim. Parhaodd y drefn hon ar hyd y deng mlynedd ar hugain y buwyd yn ei gyhoeddi ac o'r herwydd ni wnaed ym mlwyddyn olaf Y Llenor ond elw o ychydig dros bunt ar hugain. Gostyngodd y cylchrediad i 883 o gopïau.2 Ar y deuddegfed o Dachwedd, 1951, gyrrodd Rowland Thomas o Wasg Caxton, argraffwyr Y Llenor, at y cyhoeddwyr i'w hysbysu ei fod yn 'doing all within my power to hold this magazine'.3 Ei argymhelliad oedd codi'r pris i driswllt neu driswllt a chwecheiniog y rhifyn (bu'n hanner coron y rhifyn er diwedd y Rhyfel) a'i droi'n gylchgrawn tanysgrifiadol 48 tudalen. Gwrthododd, er hynny, bapur rhatach; yr oedd rhai pethau na ddylid eu haberthu! Un peth nad ystyriodd yn gysygredig oedd hawl Gruffydd i'w bump y cant: T feel a bit niggardly about the editorial fee having regard to all the facts, but do not desire to raise this at the present juncture.' Yn niwedd 1951 daethai'n amlwg y byddai'n rhaid darbwyllo Gruffydd o gyflwr y cylchgrawn. Ni fabwysiadwyd yr un o gynlluniau Rowland Thomas am y rheswm na ellid bod yn sicr sut y byddai Gruffydd yn ymateb. Mewn nodyn wedi ei arwyddo yn enw Hughes a'i Fab, rhoes Thomas Bassett y ffeithiau gerbron ychydig cyn lansio'r rhifyn olaf un: Annwyl Gyfaill, Yr wyf yn amgau dau gopi o'r Llenor sydd i fynd allan i'r llyfrwerthwyr. Rhai misoedd yn ôl soniais wrth Mr. T. J. Morgan fod ei gylchrediad yn parhau i waethygu ac awgrymais y byddai'n ddoeth iddo drafod y pwnc gyda chwi pan ddeuai cyfle. Gan fod diwedd y flwyddyn yn nesau, a ffigyrau ein cyhoeddiadau yn cael eu hystyried fel arfer gan berchnogion y fusnes hon, dyma fi'n anfon gair bach atoch yn gyfrinachol ymlaen llaw. Gan fod papur mor ddrud penderfynais argraffu 950 0 bob rhifyn yn 1951, ac y mae gennym ddau neu dri chopi drosodd o bob un o'r tri. O'r 950 fe anfonir 50 o gopiau'n ddi-dâl i ysgrifennwyr, y chwe llyfrgell, yr adolygwyr etc., ac yr ydym felly'n gwerthu tua 900. Am yr argraffwaith, y papur, a rhwymo rhifynnau Gwanwyn, Haf, a Hydref 1951, y mae Hughes a'i Fab eisoes wedi talu i gwmnïau eraill y cyfanswm o £ 248. Ychwaneger at hynny dyweder £ 16 i'r gohebydd — £ 264. Derbyniwn dyweder £ 247 o werthiant y tri rhifyn-dyna £ 17o golled heblaw'r gost o bacio, anfon invoices, cadw llyfrau cownt, etc. Bum yn brwydro o'r blaen, unwaith neu ddwy dros gadw'r Llenor yn fyw; ond pan ddaw diwedd y flwyddyn, ni bydd gennyf ddim sail ar wahan i'w deilyngdod. Petaem yn mynnu'r papur rhataf ni allaf weld y byddwn yn ennill mwy na seithbunt y rhifyn, ac fe gollai'r Llenor ei hen urddas. O'm rhan i, byddai'n well gennyf ei weld yn tewi'n 30 mlwydd oed na'i weld yn wael ei wedd neu wedi'i grebachu yn ôl y ffashwn. Carwn yn fawr gael eich barn chwi. Hyderaf eich bod yn iach, a bod pethau'n mynd yn weddol o'ch cwmpas yng Nghaernarfon.6