Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rheswm a Chrefydd YSGRIFENNODD y diweddar J. L. Mackie ei lyfr1 sylweddol a chynhwysfawr ar athroniaeth crefydd ychydig cyn ei farwolaeth ddisymwth ac yntau ond 65 mlwydd oed. O dras Albanaidd, ganwyd ac addysgwyd Mackie yn Awstralia. Yno dylanwadwyd yn drwm arno'n athronyddol gan yr Athro John Anderson, gwry mae iddo edmygwyr mawr fel Rush Rhees a'r Athro D. Z. Phillips yma ym Mhrydain.2 Ar ôl llenwi cadeiriau athroniaeth yn Awstralia a Seland Newydd derbyniodd Mackie wahoddiad i lenwi cadair athroniaeth ym mhrifysgol newydd Efrog pan sefydlwyd honno. Ar ôl pedair blynedd yno gadawodd Efrog i ymuno â Phrifysgol Rhydychen gan dderbyn gwahoddiad i fod yn Gymrawd ac yn diwtor mewn athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol. Yno y bu am weddill ei oes ac yn ystod cyfnod o tuag ugain mlynedd yn Rhydychen enillodd fri a pharch mawr fel un o'r athronwyr cyfoes cliriaf a mwyaf treiddgar ei feddwl. Dyn main, byr o gorff a gwydn oedd Mackie. Meddai rinweddau meddyliol i gyfateb â'i ymddangosiad corfforol: gwr di-lol, di-rodres, yn mynd yn syth i galon pwnc athronyddol ac yn amharod iawn i ollwng ei afael nes bod elfennau angenrheidiol rhyw broblem neu'i gilydd wedi eu gosod ger ein bron yn glir a thaclus, gan restru'r dadleuon o blaid y naill safbwynt a'r llall yn ofalus a rhesymegol. Fel Socrates gynt credai mai swyddogaeth fawr yr athronydd yw darganfod y gwir, ac 'roedd ei ymroddiad, ei ddyfalbarhad, ei styfnigrwydd os mynnwch, yn y dasg yma y tu hwnt i bob amheuaeth. Fel y Groegiaid gynt, credai na all dynion ddarganfod gwirionedd ond o iawn ddefnyddio eu rheswm. Yn y gyfrol o'i eiddo dan sylw, cymeradwya Mackie eiriau John Locke sy'n ein hatgoffa nad oes gan ddyn arf arall i ddarganfod gwybodaeth ond ei reswm. Safbwynt digamsyniol yr empeirwyr yw safbwynt athronyddol Mackie, ac yn hyn o beth ei arwr mawr yw David Hume, Albanwr arall, a'r athronydd mwyaf yn ddiau a gynhyrchodd yr Alban, os nad Prydain Fawr hefyd. Fel llawer o'r empeirwyr, yn fetaffisegol, dadleua Mackie yn effeithiol iawn o blaid materol- iaeth. Iddo ef y mae twf, datblygiad, a llwyddiant gwyddoniaeth ein hoes, yn gwneud safbwynt y materolwr yn anochel. Ond nid gofyn i ni dderbyn y safbwynt yma a wna Mackie ond ceisio ein hargyhoeddi ar dir rheswm, a chan alw ar ddadleuon cryf rhesymol o'i blaid, mai materoliaeth biau'r dydd. Os anghytunwn ag ef mae'n rhaid canolbwyntio yn fanwl ar wendidau ei ddadleuon ac nid gorchwyl hawdd mo honno. Onid gwendid mawr, meddech, yw galw ar faterolwr rhonc i drafod crefydd, yn enwedig un a ddewisodd yn deitl i'w lyfr adlais o ddywediad ironic Hume fod arddel unrhyw gred grefyddol yn gofyn am ryw fath o wyrth? Na, meddaf, os gesyd y materolwr achos crefydd ger ein bron mor deg a chlir ag sy'n bosib. Yn ei ragair dywed Mackie mai dyma ei amcan, ac yn sicr ddigon llwydda'n anrhydeddus iawn yn yr amcan yma. Felly i'r sawl a ymddiddora mewn crefydd, mintai fechan y dyddiau hyn, mantais fawr ei lyfr yw ein galluogi i weld cryfder dadleuon gwrth-grefyddol wedi eu gosod i lawr ochr yn ochr â dadleuon o blaid crefydd. Mae gormod o lawer o bregethwyr, diwinyddion, beirdd, llenorion a