Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bywyd Martin Buber CAFODD Martin Buber ei eni ar 8 Chwefror, 1878, yn Vienna. Iddewon oedd ei rieni ond ni fu eu priodas yn un lwyddiannus. Pan oedd Buber yn dair blwydd oed gadawodd y fam y cartref ac aeth y bachgen bach i fyw gyda rhieni ei dad yn Lemberg, prif ddinas Galicia bryd hynny, y cyfeirir ati'n awr fel Lvov, yn yr U.S.S.R. Cafodd addysg a gofal a chariad gan ei dad-cu a'i fam-gu, ond nid oeddynt byth yn sôn wrtho am ei fam ac ni feiddiai ef eu holi. Mae'n disgrifio'r foment' ar falconi'r ty yn Lemberg pan benderfynodd holi merch a arferai ei warchod am hynt ei fam. Atebodd hithau'n bendant a di-lol na fyddai ei fam byth yn dychwelyd mwyach. Nid anghofiodd Buber erioed y teimlad o golled anhraethol, y teimlad fod rhywbeth allan o'i le. Bathodd air preifat amdano a olygai 'y-cyfarfod-sydd-wedi-mynd-o-chwith'. Pan oedd yn hen wr cyfaddefodd fod pob peth a ddysgodd yn ystod ei fywyd am ystyr cyfarfod a deialog rhwng pobl, yn codi o'r teimlad hwn a gafodd yn bedair blwydd oed. Trodd yr angerdd a deimlai wrth chwilio am ei fam yn reswm cryf dros ei athroniaeth o fywyd y ddeialog. Dyma sut y bu iddo roi dimensiwn sanctaidd i'r weithred o gyfarfod. Yr hyn a oedd yn gwneud cyfarfod â Buber yn brofiad mor eithriadol oedd ei allu i ganfod y cwestiynau a oedd ym meddyliau dynion. Dysgodd y grefft o wneud hyn yn ysgol boenus profiad personol. Cafodd brofiad arswydus a gafodd effaith mawr arno. Yr oedd wedi arfer meddwl am y crefyddol fel rhywbeth yn ymwneud â'r byd arall, ond wedi'r profiad hwn sylweddolodd mai'r presennol yw hanfod crefydd, pan fo dyn yn ymwneud â'i gyd-ddyn ac yn ceisio cyfarfod ag ef. Mae hanes y digwyddiad i'w gael yn nhudalennau agoriadol ei lyfr Between Man and Man, o dan y pennawd 'Tröedigaeth', sy'n awgrymu'r pwysigrwydd a roddai Buber iddo.2 Pan ddarllenais i yr hanes am y tro cyntaf yr oeddwn yn tosturio wrth y ddau gymeriad ond methais weld sut yr oedd disgwyl i un ddylanwadu ar y llall er mwyn osgoi'r diweddglo enbyd. Ond wedi dod yn gyfarwydd â syniadau Buber dechreuais amgyffred ei arswyd efyn y digwyddiad, oherwydd i'w frwdfrydedd crefyddol, a oedd ar wahân i bethau'r byd hwn, ei ddallu i angen cudd ei gyd-ddyn am eiliad dyngedfennol. Dyma fraslun o'r hanes. Yr oedd Buber wedi treulio'r bore mewn profiadau crefyddol, arallfydol. Dyna oedd ystyr crefydd iddo pan oedd yn ddyn ifane-emosiwn a ddeuai arno'n ddirgel a'i gario y tu hwnt i'w hunan i gyflwr o lawenydd, gweledigaeth a goleuni heb un cysylltiad dynol na daearol. Brynhawn yr un diwrnod daeth gwr ifanc dieithr i ymweld â Buber, ac er iddo gyfarfod ag ef yn gyfeillgar, sgwrsio gydag ef â chydymdeimlad yn agored ac yn agos, yr oedd ei ysbryd yn parhau yn ecstasi'r bore a methodd ddirnad y cwestiynau a oedd yn llenwi enaid y bachgen ond heb gael eu mynegi ganddo. Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach deallodd Buber fod y bachgen wedi dod ato mewn argyfwng gwacter ysbryd, a'i fod yn ystyried yr ymweliad yn dyngedfennol iddo. Ni ddaeth yno am sgwrs ond am benderfyniad. Gan i Buber fethu gweld y dyn yn ei angen a'i anobaith, ni lwyddodd i'w sicrhau o'r hyn yr hiraethai am ei glywed, sef, bod ystyr i'w gael er gwaethaf pob arwydd i'r gwrthwyneb. Felly ymadawodd y gwr ifanc gan