Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYFRYDWCH o'r mwyaf yw croesawu cyfrol fechan ond meistrolgar R. Gerallt Jones ar T. S. Eliot. Un o gyfres 'Y Meddwl Modern'ydyw, cyfres sydd dan olygyddiaeth Mr. D. Glyn Jones a Mr. W. Gareth Jones, deuddyn y dylem fod yn dra diolchgar iddynt, pe na bai ond am y rheswm syml fod y gyfres hon yn un o ychydig hawliau'r Gymraeg yn y blynyddoedd hyn i'w hystyried yn un o ieithoedd diwylliant Ewrop. Cyhoeddir y gyfres gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, a da yw hynny: mae'n brawf nad yw'r Cyngor wedi derbyn y ddadl na ddylai gefnogi dim ar yr ochr lenyddol, ond yr hyn a elwir yn 'llenyddiaeth greadigol'. Nid yn hir y pery iaith yn gyfrwng 'llenyddiaeth greadigol', unwaith y bydd wedi peidio â bod ýn gyfrwng diwylliant, ac ni ellid gwell enghraifft o'r berthynas sydd rhwng y llenor a diwylliant ei oes na thestun y gyfrol hon, T. S. Eliot. Nid heb reswm y treuliodd ef lawer o'i amser yn trafod problemau diwylliant. 'Roedd Eliot yn hawlio ei Ie mewn cyfres ar 'Y Meddwl Modern' oblegid dywedwyd amdano ei fod yn un o'r rheini a roes i'w oes weledigaeth ohoni hi ei hun. Yn wir, mae Mr. Gerallt Jones yn agor ei bennod gyntaf, 'Yr Americanwr fel Sais' â dyfyniad o waith Eliot sy'n cynnwys y brawddegau hyn, The great poet, in writing himself, writes his time. Thus Dante, hardly knowing it, became the voice of the thirteenth century; Shakespeare, hardly knowing it, became the representative of the end of the sixteenth century ac yn mynd ymlaen i ddweud fod Eliot yn 'rhan gyntaf ei yrfa farddol ef ei hun' wedi ei sgrifennu ef ei hun ac wrth ei sgrifennu ef ei hun wedi sgrifennu ei oes efei hun. Wrth gwrs, bu Eliot wrthi yn ei sgrifennu ei hun drwy gydol ei fywyd, ac un o'r problemau sy'n codi ydyw pam nad oedd yn ysgrifennu ei oes yn ail ran ei yrfa farddol yn ogystal â'r gyntaf. Ond o ran hynny, mae'r cyswllt rhwng gwaith y bardd yn ei sgrifennu ef ei hun a'i waith yn sgrifennu ei oes yn broblemus. Mae gennym air Eliot ei hun ei fod wedi sgrifennu The Waste Land'simpìy to relieve my own feelings' ac fe ellid sgrifennu pennod, onid penodau, am yr hyn a olygai ef wrth ei sgrifennu ef ei hun. Mewn un man fe sonia am gynnydd yr artist fel ymaberthu cyson, fel diddymiad personoliaeth, 'a continual self-sacrifice, a continual extinction of personality'. 'My meaning is, that a poet has, not a "personality" to express, but a particular medium, which is only a medium and not a personality, in which impressions and experiences combine in peculiar and unexpected ways. Impressions and experiences which are important for the man and may take no place in the poetry, and those which become important in the poetry may play quite a negligible part in the man, the personality'. Un o gyfraniadau mawr Eliot i feirniadaeth lenyddol ydyw ei fod wedi ymboeni â phroblemau nad oedd neb o'i flaen wedi sôn amdanynt a'i fod wedi cyfrannu'n helaeth at eu datrys. Afraid dweud, mae Gerallt Jones wedi sylweddoli hynny, ac y mae'n ei ddangos ei hun yn esboniwr cyfarwydd ar gyfraniad Eliot fel beirniad llenyddol yn ogystal ag ar ei gyfraniadau fel bardd a dramodydd. A da hynny, oblegid ni chafodd Eliot hyd yn hyn y sylw a haeddodd yn y Gymru Gymraeg. Cafwyd cyfieithiad gwych o'i ddrama Murder in the